Adran dau: Wrecsam 5-5 Swindon Town
- Cyhoeddwyd
Fe darodd Wrecsam yn ôl yn arwrol mewn gêm gyfartal yn erbyn Swindown Town ddydd Sadwrn.
O fewn tua hanner awr, roedd Wrecsam yn colli o 1-4 yn erbyn yr ymwelwyr.
Jake Bickerstaff sgoriodd yr unig gôl i'r tim cartref wrth iddyn nhw gael hanner cyntaf heriol.
Ond taro'n ôl wnaeth y Dreigiau yn yr ail hanner ac fe ddaeth goliau gan Elliott Lee a James Jones wedi tua 50 munud.
Daeth gôl arall i Swindon Town ond fe daniodd y tim cartref a sicrhau dwy gôl - un arall gan Lee a'r llall gan Jones yn ystod yr amser ychwanegol.
Roedd hi'n 5-5 yn y diwedd ac ymdrech wych gan Wrecsam erbyn yr ail hanner.