Carchar am oes i Lucy Letby am lofruddio saith babi

  • Cyhoeddwyd
Lucy LetbyFfynhonnell y llun, Heddlu Sir Caer
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lucy Letby yn gwadu llofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio 10 arall

Mae nyrs 33 oed wedi cael ei dedfrydu i weddill ei hoes yn y carchar am lofruddio saith o fabanod oedd yn ei gofal mewn ysbyty yng Nghaer.

Ddydd Gwener cafwyd Lucy Letby yn euog hefyd o geisio llofruddio chwe baban arall yn Ysbyty Countess of Chester, ac ni fydd modd ystyried ei rhyddhau o'r carchar.

Roedd y nyrs, sy'n dod o Henffordd yn wreiddiol, wedi pledio'n ddieuog i'r holl gyhuddiadau yn ei herbyn, mewn cysylltiad ag achosion rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.

Bob blwyddyn mae 20,000 o bobl o ogledd-ddwyrain Cymru'n defnyddio'r ysbyty, ac mae'r BBC yn deall bod babanod a gafodd eu geni i deuluoedd o Gymru ymhlith y rheiny a effeithiwyd.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r llofruddiaethau "er mwyn helpu sicrhau bod teuluoedd yn cael yr atebion maen nhw eu hangen".

Ffynhonnell y llun, SWNS
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Lucy Letby ei harestio wedi pryderon bod nifer o fabanod wedi marw neu mynd yn sâl yn annisgwyl

Clywodd yr achos, a barodd am naw mis yn Llys y Goron Manceinion, bod Letby wedi defnyddio sawl techneg i ymosod ar y babanod, gan gynnwys gwenwyno gydag inswlin, chwistrellu aer i wythiennau neu bibellau bwydo, neu orfwydo.

Fe gafwyd Letby yn ddieuog o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio, ond fe fethodd y rheithgor â phenderfynu yn achos cyhuddiadau pellach o geisio llofruddio pedwar o fabanod.

Mae bargyfreithiwr yr erlyniad wedi gofyn am 28 diwrnod i ystyried a ddylid cynnal achos llys newydd yn achos y chwe chyhuddiad yna.

Disgrifiad,

Dywedodd y pediatrydd arbenigol, Dr Dewi Evans - oedd yn un o brif dystion yr erlyniad - mai dyma'r achos mwyaf echrydus yn hanes y GIG

Cododd aelod o staff bryderon am y cynnydd yn nifer y marwolaethau a salwch sydyn yn yr uned babanod newydd-anedig yn 2016. Yr unig berson yn bresennol ym mhob achos oedd Lucy Letby.

Dechreuodd yr heddlu ymchwilio ac ar ôl ymgynghori gydag arbenigwyr, fe ddaethon nhw i'r casgliad mai un person allai fod yn gyfrifol.

Fe ymosododd Letby ar y plant yn gyson dros gyfnod o flwyddyn.

Mae'r ysbyty a'r bwrdd iechyd lleol yn wynebu cwestiynau pam na chafodd Letby ei hamau ynghynt, o ystyried iddi droseddu cyhyd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysbyty a'r bwrdd iechyd lleol yn wynebu cwestiynau pam na chafodd Letby ei hamau ynghynt

Dydy'r 17 o blant sy'n rhan o'r achos ddim wedi cael eu henwi, ac fe gyfeiriwyd atyn nhw yn y llys yn ôl llythyren - o Fabi A i Fabi Q.

Wrth archwilio cartref Lucy Letby yn 2018, daeth yr heddlu o hyd i dros 250 o dudalennau o nodiadau meddygol, gan gynnwys rhai oedd yn perthyn i ddioddefwyr honedig.

Roedd hi wedi gyrru cardiau i rieni plant roedd hi wedi eu llofruddio, ac wedi chwilio am eraill ar y cyfryngau cymdeithasol.

Hefyd yn ei thŷ roedd nodiadau yn ei llawysgrifen ei hun yn dweud pethau fel "dwi'n ddieflig".

Er i'r llys ei chael hi'n euog o 13 cyhuddiad ddydd Gwener, does dim esboniad pam wnaeth Lucy Letby ymosod ar y babanod yn ei gofal.

'Sefyllfa erchyll'

Wrth ymateb i'r achos fe ddywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan wrth BBC Cymru fod yr achos yn un "trasig", gan ychwanegu y byddan nhw'n gweld a oes gwersi i'w dysgu o'r ymchwiliad hefyd.

"Mae'n calonnau ni i gyd yn mynd mas i'r teuluoedd 'na sydd wedi diodde'n enbyd gyda'r sefyllfa erchyll," meddai.

"Yn amlwg rhaid i ni weld os oes 'na wersi i'w dysgu, ond eisoes mae ganddon ni duty of candour a duty of quality lle mae 'na gyfrifoldeb ar bobl sydd yn gweithio yn NHS Cymru bod nhw'n pwyntio pethau allan os maen nhw'n gweld rhywbeth o'i le.

"Yn amlwg mae'r inquiry yn gyfle i ddysgu pethau newydd, ac mi fyddwn ni yn gwneud ein gorau i ddysgu o'r rheiny hefyd."

Pynciau cysylltiedig