Maswr Cymru, Elinor Snowsill yn ymddeol o chwarae rygbi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Elinor Snowsill: 'Lot o uchafbwyntiau yn fy ngyrfa'

Mae maswr Cymru, Elinor Snowsill, wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o rygbi proffesiynol ar ôl 14 blynedd gyda'r tîm cenedlaethol.

Mae'r fenyw 34 oed wedi ennill 76 o gapiau dros ei gwlad ers gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn 2009, yn cynnwys chwarae mewn pedair Cwpan Rygbi'r Byd.

Chwaraeodd cyn-ddisgybl Ysgol Plasmawr dros glybiau Harlequins Caerdydd a'r Dreigiau, cyn symud dros Bont Hafren at y Bristol Bears, lle treuliodd 11 mlynedd gan chwarae dros 100 o gemau.

Dywedodd ei bod wedi "torri ei chalon" pan adawodd y clwb ddiwedd y tymor diwethaf.

Bydd yn gadael carfan Cymru er mwyn cymryd rôl hyfforddi gyda Phrifysgol Met Caerdydd, lle bydd yn helpu Undeb Rygbi Cymru i ddarganfod talentau newydd at y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elinor Snowsill yn dathlu buddugoliaeth Cymru dros Loegr yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad yn 2015

Roedd Snowsill yn un o'r 12 chwaraewr a dderbyniodd gytundebau proffesiynol am y tro cyntaf gan Undeb Rygbi Cymru yn 2022.

"Mae'n chwerw-felys i gyhoeddi fy ymddeoliad o rygbi rhyngwladol," meddai, wrth i Gymru fynd o nerth i nerth yn ddiweddar gan gyrraedd rhif chwech ymhlith detholion y byd, a sicrhau eu lle yng nghystadleuaeth newydd WXV, fydd yn dechrau yn yr hydref.

"Mae hi wedi bod yn dipyn o siwrne."

Pynciau cysylltiedig