‘Dwi dal methu credu’r peth’: Y Cymro yng nghanol achos Letby
- Cyhoeddwyd
Dydd Llun, 21 Awst, fe gafodd nyrs 33 oed ei dedfrydu i'r carchar am weddill ei hoes am lofruddio saith o fabanod oedd yn ei gofal mewn ysbyty yng Nghaer.
Mae Lucy Letby hefyd yn euog o geisio llofruddio chwe baban arall yn Ysbyty Countess of Chester.
Un o brif dystion yr erlyniad yn yr achos oedd y pediatrydd arbenigol o Gymru, Dr Dewi Evans, sydd yn ymgynghorydd yn y maes ers 1980.
Roedd Dr Evans yn gweithio ar achos Letby ers chwe blynedd, ac fe siaradodd am ei brofiad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, 22 Awst.
"Gwrddes i â Heddlu Caer ym mis Mai, 2017, ac ar y pryd doedd neb wedi dweud wrtha i bo' nhw'm wedi enwi neb yn yr achos," meddai. "Ac yn hyd yn oed fwy o her doedd neb wedi gweld rhywun yn gwneud rhywbeth gwarthus. Felly, 'na gyd oedd gan yr heddlu oedd clywed bod nifer o fabanod wedi marw neu mynd yn sâl yn gyflym iawn heb unrhyw esboniad.
"Felly, beth 'nes i oedd dweud wrth yr heddlu 'dewch â'r wybodaeth glinigol am bob babi fu farw o Ionawr 2015 a Mehefin 2016', ac [fe wnes i] edrych ar y nodiadau.
"Yn amlwg roedd esboniad am nifer o'r marwolaethau 'ma achos yn anffodus 'da chi am golli ambell i faban mewn 'sbyty, ond roedd 15 babi ble roedd amheuon ynglŷn â beth oedd wedi digwydd."
'Gwenwyno ag inswlin'
"Rai misoedd yn hwyrach darganfyddais fod dau o'r babanod wedi cael eu gwenwyno gan inswlin. Doedd neb wedi sylwi ar hyn cyn imi weld y nodiadau hyn.
"Felly, ar ôl gwneud hynny roedd gan yr heddlu 15 ac wedyn 17 o achosion. Mi ddwedais i wrth yr heddlu bod rhaid iddyn nhw edrych ar y rota o ba nyrs a pha feddyg oedd ar ddyletswydd y funud roedd hyn wedi digwydd - achos os chi'n creu anaf i fabi mae'r babi'n mynd i ddirywio'n gyflym iawn.
"Ar ôl edrych ar y pedwar achos cyntaf, dim ond un nyrs oedd ar ddyletswydd i'r pedwar achos, sef Lucy Letby, ac roedd hi ar ddyletswydd ar yr 17 o'r achosion. Felly, am y tro cyntaf roedd gyda ni gysylltiad rhwng babi'n dirywio neu'n marw, ac un unigolyn.
"Ac o hynny ymlaen bu Heddlu Caer yn ei holi hi a chael mwy a mwy o dystiolaeth nes i'r achos ddod i'r llys y llynedd.
"Mae'n amhosib i gredu'r peth, a dwi dal methu credu'r peth. Does dim esboniad 'da fi pam bydde hi wedi gwneud rhywbeth fel 'na, heblaw bod hi'n hawlio rheolaeth lwyr o ryw fath, a bod hi fel ni'n dweud yn Sir Gâr, 'off ei phen'."
Wrth drafod cydweithwyr Letby, mae Dr Evans yn cydnabod bod yr achos yn debygol o fod wedi effeithio arnyn nhw, ond mae o yn llawn edmygedd hefyd.
"Dwi'n siŵr bod e (wedi effeithio arnyn nhw), ond fy mhrofiad i o weithio o uned o'r fath dros 30 mlynedd yw bod y staff sydd gyda chi mewn uned fabanod o'r safon uchaf bosib. Ac yn yr ysbyty hwn yng Nghaer roedd e'n amlwg bod y meddygon a'r nyrsys a'r gwasanaeth yn gyffredinol o safon uchel, yn colli ar braidd unrhyw faban.
"Roedd y driniaeth roedd y babanod yn gael, cyn i Lucy Letby amharu ar bopeth, o safon uchel. Mae safon y gwasanaeth i'r newydd-anedig ym Mhrydain ar y cyfan yn uchel iawn, mae'n bwysig dweud hynny."
'Rheolwyr llwyr esgeulus'
Mae Dr Evans yn credu bod angen newidiadau i'r systemau iechyd, a bod yna gwestiynau mawr angen eu hateb wedi'r digwyddiadau yng Nghaer.
"Heb os mae'r rheolwyr wedi bod yn llwyr esgeulus yn yr achos yma, a heb os oherwydd eu methiannau nhw mae wedi arwain at fwy o farwolaethau na fydde wedi digwydd. Dwi'n credu fod hyn yn rhywbeth sy'n fwy na jest bod yn esgeulus - dwi'n credu bod e'n cyrraedd y lefel o drosedd.
"Mae 'na rywbeth sy'n cael ei alw'n corporate manslaughter, dynladdiad corfforaethol, yn bodoli nawr yng Nghymru a Lloegr. Nid cyfreithiwr ydw i wrth gwrs, ac mae hyn yn fater i'r heddlu a'r system droseddol, ond os oes unrhyw fudiad mor esgeulus a ddim yn cymryd sylw o rywbeth peryglus a chreu gofid, a bod hynny'n arwain at farwolaeth, rwy'n credu y dyle chi wedyn edrych ar y system honno a'r bobl sy'n gweithio ynddo fe ar lefel droseddol."
Oes angen rheoleiddio rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd yn sgil hyn? "Heb os," meddai Dr Evans.
"Mae rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a Lloegr hefyd wedi bod mas o reolaeth ers blynyddoedd. Maen nhw'n unbenaethol iawn ac yn ymddwyn fel dictators bach, ma' nhw'n anwybyddu barn feddygol."
Fel 'byw yn yr Undeb Sofietaidd'
Felly, pam fod Dr Evans yn credu bod rheolwyr fel hyn yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd? "Oherwydd bod nhw'n medru, mae mor syml â hynny.
"Beth sydd gyda chi yn y gwasanaeth iechyd yw system unbenaethol lle mae cadeirydd y bwrdd iechyd yn cael ei apwyntio gan wleidyddion. Mae'r cadeirydd wedyn yn apwyntio aelodau eraill o'r bwrdd, sef apwyntiadau gwleidyddol, y rheiny wedyn yn apwyntio prif weithredwr, a'r holl ffordd lawr.
"Felly, mae'r system yn rhywbeth rwy'n credu bydde unrhyw un a oedd yn byw yn yr Undeb Sofietaidd yn ei ddeall yn iawn.
"Dyna beth sydd yn digwydd - mae nhw'n hollol allan o reolaeth, ac mae'n ddrwg gen i ddweud bod pobl dwi'n 'nabod, fel meddygon ac ymgynghorwyr, wedi colli eu swyddi oherwydd eu bod nhw wedi herio ein rheolwyr, ac wrth gwrs monopoli yw'r gwasanaeth iechyd felly os ydych chi'n colli eich swyddi yng Nghymru neu gwledydd Prydain, dyna ddiwedd ar eich gyrfa chi oni bai bo chi'n fodlon mynd i weithio dramor.
"Sut yn y nefoedd mae rhywbeth fel hyn yn gallu digwydd? Mae hwn yn rywbeth anghyffredin iawn. Ond o ran system, dydi pethau ddim yn gweithio ac mae problemau ym mhob adran, ym mhob ysbyty ble mae na ddiffyg ac esgeulustod o ran sut 'da ni'n edrych ar ôl cleifion.
"Ac os 'da chi yn gwneud cwyn a dweud bod y system ddim digon da (y whistleblowers) mae 'na beryg o golli swyddi, gan fod eu teimladau nhw yn fygythiad i'r rheolwyr sydd eisiau cadw pethau'n dawel."
System i edrych ar gwynion
Mae Dr Evans yn credu y dylai bod strwythur clir a phendant fodoli i allu gwneud cwynion am ddiffygion yn y system.
"Y neges fan hyn i fi yw bod systemau'r gwasanaeth iechyd ddim yn effeithiol. Mae 'na beryglon ta beth oherwydd mae pawb mewn 'sbyty yn sâl, am ryw reswm neu ei gilydd, ac rwy'n credu bod ni'n cydnabod fod os yw rhywun yn gwneud cwyn am ryw unigolyn bod yna system mewn lle i edrych ar y peth yn fwy manwl. Fy ngofid i ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd yw does 'na ddim unrhyw ffordd i'r cyhoedd edrych fewn i rywbeth maen nhw'n meddwl sydd 'di mynd o'i le.
"Dwi'n flin iawn clywed bod Senedd Cymru eleni wedi cael gwared o'n cynghorau cymunedol iechyd ni - o leiaf roedd rheiny ag rhyw fath o awdurdod, ac mae cael gwared o rheiny yn gam gwael yn fy marn i."
Ond er gwaetha unrhyw ddiffygion, o drafod y gofal mae meddygon a nyrsys yn ei roi i blant, mae Dr Evans yn falch bod yr arbenigedd yn well nag erioed.
"Dechreuais i fel ymgynghorydd yn 1980, a gorfod adeiladu gwasanaeth gofal dwys o'r dechrau achos doedd yr adnoddau ddim ar gael, a'r profiad ddim ar gael, nid jest yn Abertawe ond yn braidd unman i ddweud y gwir, felly mae pethau wedi gwella dros gyfnod o ddegawdau. Mae'r unedau hyn sydd gyda ni yn saff a gyda nyrsys a meddygon o safon da iawn."
Dywedodd prif weithredwr dros dro Ysbyty Countess of Chester, Jane Tomkinson, fod yr ymddiriedolaeth yn "croesawu'r cyhoeddiad am ymchwiliad annibynnol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol."
"Hefyd, fe fydd yr ymddiriedolaeth yn cefnogi ymchwiliad parhaus gan Heddlu Swydd Gaer," meddai Ms Tomkinson.
"Oherwydd materion cyfreithiol sydd yn mynd 'mlaen ar hyn o bryd, ni fyddai'n briodol i'r ymddiriedolaeth wneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."