Rhestrau aros iechyd yr ail waethaf ar gofnod yn ôl ffigyrau
- Cyhoeddwyd
Mae amseroedd aros ar gyfer triniaeth ysbyty yng Nghymru yr ail uchaf ar record, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Roedd 754,271 o lwybrau gofal cleifion - sy'n golygu enw ar restr aros ond nid o reidrwydd person unigol i bob un - ar restr ym mis Mehefin.
Dyma'r pedwerydd mis yn olynol i'r ffigwr godi, mwy na 5,800 yn uwch na'r mis blaenorol a dim ond 400 yn llai na welwyd ym mis Medi'r llynedd.
Mae amseroedd ymateb ambiwlansys ac amseroedd aros mewn adrannau brys hefyd wedi gwaethygu ychydig, a dim ond hanner y bobl sydd ag amheuaeth o fod â chanser a dderbyniodd driniaeth o fewn y targed.
Ond dywedodd y gweinidog iechyd ei fod yn "galonogol" i weld cynnydd ar leihau rhai o'r amseroedd aros hiraf.
Beth arall mae'r ffigyrau'n dangos?
Roedd 132,616 o bobl wedi aros dros flwyddyn am driniaeth yn yr ysbyty - 17.6% o'r rhestr gyfan. Dyma'r 10fed mis yn olynol i nifer yr amseroedd aros hir ddisgyn.
Roedd hefyd 28,331 yn aros mwy na dwy flynedd, ond dyma'r nifer isaf ers mis Medi 2021.
O'i gymharu â Lloegr mae 19.5% o'r rhestr yng Nghymru yn aros dros flwyddyn, tra bod 5.1% yn aros am yr un hyd yn Lloegr.
Beth am ambiwlansys ac adrannau brys?
Mae amseroedd ymateb ambiwlansys ychydig yn waeth na mis diwethaf, gyda 52.6% o alwadau 'coch' yn cael eu cyrraedd o fewn yr amser targed o wyth munud.
Mewn adrannau brys roedd 70.7% o bobl yn cael eu gweld o fewn pedair awr - cyfran is na fis diwethaf.
Roedd hefyd 9,189 o bobl wedi aros dros 12 awr - y targed yw sicrhau bod neb yn aros mor hir â hynny.
Ar gyfartaledd roedd pobl yn aros dwy awr a 39 munud ym mis Gorffennaf, ychydig dros ddwy funud yn fwy na mis Mehefin.
I unigolion dros 85 oed, roedd yr amser aros mewn adrannau brys bron pum awr a hanner ar gyfartaledd.
Mewn ysbytai mae 1,500 o gleifion yn aros am becynnau gofal a llefydd mewn cartrefi preswyl.
I gleifion canser, dim ond ychydig dros hanner (53.4%) o'r bobl a thybier bod ganddynt ganser ddechreuodd triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod.
Dyma'r nifer ail isaf ers i'r targed cael ei gyflwyno dwy flynedd yn ôl.
'Gwneud popeth o fewn ein gallu'
Yn siarad cyn y cyhoeddiad, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan bod nifer y cleifion sy'n wynebu'r amseroedd aros hiraf yn gostwng ond bod "llawer o bobl" yn ymuno â'r rhestrau aros.
Wrth siarad â'r BBC, dywedodd Ms Morgan fod gweinidogion Cymru "yn gwybod ein bod ni wedi cael ein herio - rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu" i wella'r gwasanaeth.
"Rydyn ni wedi gweld y rhai sy'n aros hiraf yn dod i lawr fis ar ôl mis, felly mae pethau'n gwella, ond mae llawer o bobl yn dal i ddod ar y rhestrau aros hynny, wythnos ar ôl wythnos.
"Mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Mae tua 60% o'n poblogaeth dros bwysau neu'n ordew."
Mae ffactorau o'r fath "yn arwain at heriau iechyd i'r GIG", meddai.
'Amser am drafodaeth onest'
Wrth ymateb i ystadegau diweddaraf y GIG, dywedodd cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes, bod y ffigyrau'n "siom".
"Gyda'r galw ar y system iechyd a gofal yn cynyddu ac arweinwyr y GIG yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd am flaenoriaethau gwariant, nawr yw'r amser am drafodaeth agored ac onest gyda'r cyhoedd am wasanaeth iechyd a gofal y dyfodol.
"Mae'n rhaid i'r boblogaeth a phob sector ar draws Cymru ystyried beth allan nhw ei wneud i gefnogi iechyd a lles pobl nawr ac yn y dyfodol."
Dywedodd yr Athro Jon Barry, cyfarwyddwr Cymru Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, bod y ffigyrau'n "siom mawr i weithwyr iechyd gan eu bod yn gweithio'n galed iawn i weld a thrin cleifion yn gyflym".
"Does dim modd gwadu fod prinder cronig yn y gweithlu yn chwarae rhan fawr yn yr adferiad araf o restrau aros.
"Dyna pam, gyda'r haf yn dod i ben a gaeaf ar ei ffordd, rydym yn annog Llywodraeth Cymru a'n byrddau iechyd i ganolbwyntio ar lenwi gwagleoedd, cadw staff a gwella'r amgylchedd gwaith yn ein GIG."
'Angen camau brys'
Mewn ymateb i'r ystadegau triniaeth canser dywedodd Glenn Page o Macmillan bod y system yn "gadael pobl i lawr".
"Fis ar ôl mis, bydd pobl sydd wedi'u gadael mewn limbo wrth aros am brofion canser hanfodol a thriniaeth yn gofyn 'am beth ydyn ni'n aros?'
Dywedodd y AS Ceidwadol Russell George: "Mae'r gyfradd isel iawn o ostyngiad mewn amseroedd aros o ddwy awr, sydd fwy neu lai wedi cael eu dileu mewn mannau eraill yn y DU, yn parhau i fod yn anfaddeuol o araf.
"Roeddwn wedi fy siomi'n enwedig i weld fod targedau pedair awr a 12 awr mewn adrannau brys wedi gwaethygu er bod llai o bobl yn dod i'r adrannau.
"Gyda Llafur yn addo torri'r cyllid iechyd yng Nghymru am yr eildro mewn un flynedd, mi fydd y sefyllfa'n dirywio ymhellach."
Cyn y ffigyrau diweddaraf, fe wnaeth Ms Morgan hefyd gyhoeddi cynllun i atal rhai o'r achosion o ganslo triniaeth ar y funud olaf - cafwyd tua 6,000 achos o'r fath rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023.
Mae'r cynllun eisoes ar waith mewn rhai rhannau o Gymru, gan gynnwys yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gwasanaethu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Dywedodd Ms Morgan fod Hywel Dda wedi ymgynghori â "degau o filoedd o bobl sydd ar y rhestrau aros hynny a gofyn iddyn nhw gymryd rhan yn eu mecanwaith cymorth eu hunain".
"Roedd hyn yn cynnwys sicrhau, er enghraifft, eu bod yn meddwl am golli pwysau, gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud ymarfer corff, oherwydd yr hyn rydyn ni'n ei ddarganfod yw bod llawdriniaethau tua 6,000 o bobl y flwyddyn yn cael eu canslo oherwydd nad yw'r claf yn barod," meddai.
"Dydyn nhw ddim yn barod yn glinigol ac rydyn ni'n gwybod bod canlyniadau gwell i gleifion os ydyn nhw'n barod am y llawdriniaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2023
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023