Opera angen mwy o gymeriadau hoyw i oroesi, medd canwr

  • Cyhoeddwyd
Elgan Llŷr Thomas yn perfformioFfynhonnell y llun, Genevieve Girling / Opera Genedlaethol Lloegr
Disgrifiad o’r llun,

Elgan Llŷr Thomas yn chwarae Nanki Poo yn yr opera The Mikado

Mae canwr opera o Gymru'n dweud bod angen mwy o gynrychiolaeth LHDTC+ o fewn y maes os yw am oroesi.

Teimla Elgan Llŷr Thomas, 33, o Landudno, bod angen ysgrifennu mwy o gymeriadau opera hoyw.

Dywed y tenor y byddai wedi siarad yn gynt am ei rywioldeb, petai wedi gweld mwy o gymeriadau hoyw fel plentyn.

Dywedodd bod nifer o berfformwyr LHDTC+ yn y maes ond bod diffyg "cynrychiolaeth wirioneddol" mewn sioeau.

Ychwanegodd Mr Thomas bod opera hefyd o dan fygythiad toriadau cyllid gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Llywodraeth y DU.

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Lloegr - sydd wedi bod yn rhannol ariannu Opera Cenedlaethol Cymru - bod gan opera eu "cefnogaeth lawn, gyda mwy o sefydliadau opera yn derbyn cyllid nag erioed, a mwy na £130m yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf".

Dywedodd Llywodraeth y DU: "Gwnaeth opera, cerddorfeydd a sefydliadau cerddoriaeth glasurol eraill dderbyn 80% o holl fuddsoddiad Cyngor Celfyddydau Lloegr yn y rownd ariannu ddiweddaraf."

'Angen cynrychiolaeth amlwg'

Yn ystod plentyndod Mr Thomas roedd cyfraith Adran 28 mewn grym - cyfraith a oedd yn gwahardd ysgolion rhag dysgu am faterion LHDTC+.

Roedd y gyfraith yma yn golygu na wnaeth disgyblion LHDTC+ weld pobl fel nhw mewn llyfrau, dramâu na ffilmiau yn yr ysgol, ac nid oedd hawl gan athrawon addysgu am berthnasoedd rhwng unigolion o'r un rhyw.

Ffynhonnell y llun, James Glossop / Opera yr Alban
Disgrifiad o’r llun,

Er bod nifer o unigolion LHDTC+ yn gweithio yn y maes, teimla Mr Thomas bod angen mwy o gymeriadau hoyw amlwg mewn operâu

"Roedden i'n gwybod nad oeddwn i'n ffansïo menywod yn yr ysgol, ond doedd hynny ddim yn meddwl yn awtomatig fy mod i'n hoyw - oherwydd doedd hynny ddim yn bodoli," meddai Mr Thomas.

"Roedd yn lle gwych i fyw a thyfu i fyny, ond chi'n methu dweud 'o, rwy'n hoyw' os nad oes gennych chi unrhywbeth i gyfeirio ato."

Pan aeth i Goleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, dywedodd Mr Thomas ei fod yn sydyn wedi cael cwrdd â cherddorion ac artistiaid o ddinasoedd ar draws y wlad.

"Roedd y bobl yma fel 'o, ie, des i mas pan oedden i'n 16'... ac roedd hyn yn wallgof i mi," meddai.

"Yn y celfyddydau yn gyffredinol mae pobl cwiar ymhobman, ond mae fy mhwynt yn fwy penodol, mae am gynrychiolaeth mewn modd mwy amlwg."

'Amser creu cymeriadau newydd'

Yn ôl Mr Thomas, mae ond wedi bod mewn dwy sioe gerdd gyda chymeriadau hoyw, ac nid yw erioed wedi gweld opera o'r fath er bod rhai yn "awgrymu" sefyllfaoedd.

Ond nid yw'r "awgrymu" yma yn ddigon gan nad yw'r rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn sylweddoli, meddai.

Ffynhonnell y llun, James Glossop / Opera yr Alban
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Mr Thomas erioed wedi chwarae cymeriad sy'n amlwg yn hoyw mewn opera

Ychwanegodd nad oes ganddo "unrhyw broblemau gyda chwarae cymeriadau syth" ac nid yw'n meddwl "bod angen cael gwared ar hynny, ond mae angen i ni ychwanegu straeon newydd".

Dywedodd hefyd fod cwmnïau opera "wedi gweithio'n galed iawn i wella cynrychiolaeth" ond bod yr un straeon yn cael eu "hailadrodd am fod y gerddoriaeth mor dda".

"Os yw opera am oroesi a dechrau ffynnu eto, mae'n rhaid i ni ddechrau adrodd straeon newydd," meddai.

Teimla Mr Thomas y dylai operâu gael eu hysgrifennu gyda chymeriadau sy'n "mynnu" perfformwyr amrywiol.

Arddangos cyfansoddwyr LHDTC+

Mae Mr Thomas hefyd wedi penderfynu arddangos cyfansoddwyr LHDTC+ mewn albwm newydd sy'n cynnwys cerddoriaeth fel caneuon serch gan y cerddor enwog Benjamin Britten i'w bartner Peter Pears.

"Un o fy mhrif amcanion yw darganfod cynulleidfa newydd, a chynulleidfa ifancach hefyd a chael pobl i wrando ar gerddoriaeth glasurol na fyddai wedi o'r blaen," dywedodd Mr Thomas.

Mae'n gobeithio bydd yr albwm yn ysbrydoli cantorion ifanc i feddwl "o, allai wneud hynny".

Ffynhonnell y llun, Foxbrush.co.uk
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Thomas yn gobeithio bydd yr albwm yn ysbrydoli cantorion ifanc ac yn tynnu sylw at gyfansoddwyr LHDTC+

Ym mis Tachwedd 2022 dywedodd Cyngor Celfyddydau Lloegr y byddai cyllid Opera Cenedlaethol Lloegr yn haneru ym mis Ebrill ac y byddai'n colli'r holl arian os nad yw'n symud o Lundain.

Roedd Opera Cenedlaethol Cymru yn derbyn arian gan Gynghorau Celfyddydau Cymru a Lloegr am flynyddoedd, ond wedi i'r sefydliad Seisnig gyflwyno toriadau bydd gan y cwmni Cymreig lai o gyllid.

O ganlyniad mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi oedi eu holl berfformiadau yn Lerpwl tra'u bod yn aros am benderfyniad am eu cyllid blynyddol.

Dywedodd Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: "Dylai pawb gael mynediad at ddiwylliant dim ots lle maent yn byw na beth yw eu cefndir, ac mae arian cyhoeddus i'r celfyddydau yn ariannu mwy o brosiectau mewn mwy o lefydd nag erioed o'r blaen."

Pynciau cysylltiedig