Trelái: Ymchwiliad i 'yrru peryglus' posib heddwas

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Daeth fideo CCTV i'r amlwg yn dilyn y marwolaethau yn dangos fan heddlu'n dilyn dau berson ar feic rai munudau cyn y gwrthdrawiad

Mae'r swyddog oedd yn gyrru fan heddlu a ddilynodd dau fachgen ar feic trydan am gyfnod, cyn i'r bechgyn farw mewn gwrthdrawiad yn ddiweddarach, yn destun ymchwiliad troseddol.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, yn ardal Trelái ar 22 Mai, ac fe arweiniodd y digwyddiad at anhrefn yn yr ardal yr un noson wedi i drigolion lleol ddod i wybod beth oedd wedi digwydd.

Fe gyfeiriodd Heddlu De Cymru eu hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi i fan heddlu gael ei weld mewn lluniau CCTV yn gyrru tu ôl i feic trydan y bechgyn am gyfnod byr cyn y gwrthdrawiad angheuol.

Dywedodd yr IOPC - y corff sy'n arolygu ymddygiad yr heddlu - ym mis Mehefin eu bod yn edrych yn fanylach ar ymddygiad dau swyddog, sef gyrrwr a theithiwr y fan.

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Harvey Evans, 15, a Kyrees Sullivan, 16 yn ffrindiau oes ac fe gafodd y ddau eu claddu gyda'i gilydd

"Mae gyrrwr y fan nawr wedi cael gwybod eu bod yn destun ymchwiliad i drosedd am yrru'n beryglus," dywedodd yr IOPC mewn datganiad ddydd Iau.

Ychwanegodd y datganiad: "Roedden nhw eisoes wedi derbyn gorchymyn mewn cysylltiad â chamymddygiad difrifol posib, ynghyd â'r teithiwr yng ngherbyd yr heddlu, yn rhoi gwybod iddynt bod eu hymddygiad dan ymchwiliad.

"Dylid pwysleisio nad yw cyflwyno gorchmynion a'r llythyr trosedd o reidrwydd yn golygu y bydd camau disgyblu neu droseddol yn dilyn.

"Bydd penderfyniad ynghylch camau disgyblu posib ac unrhyw gyfeiriad at Wasanaeth Erlyn y Goron yn cael ei wneud ar ddiwedd yr ymchwiliad."

Disgrifiad o’r llun,

Daeth lluniau CCTV i'r fei yn dangos fan heddlu ar yr un ffordd â'r bechgyn yn fuan wedi iddyn nhw fynd heibio ar feic trydan

Ychwanegodd y datganiad bod yr ymchwiliad annibynnol, sy'n mynd rhagddo ers tri mis, yn edrych ar "natur ymadwaith yr heddlu gyda'r bechgyn cyn y gwrthdrawiad a pha mor addas oedd penderfyniadau a gweithredoedd y swyddogion".

Un o'r prif ystyriaethau, medd yr IOPC, yw a oedd y penderfyniadau a'r gweithredoedd hynny "ar unrhyw adeg... yn gyfystyr â chwrso".

Dywed yr IOPC eu bod wedi cwblhau eu hymholiadau yn yr ardal yn yr wythnosau diwethaf a chasglu nifer o ddatganiadau gan drigolion lleol.

Mae ymchwilwyr nawr yn asesu "cannoedd o glipiau fideo yr ydym wedi eu casglu o ganlyniad ein hymholiadau o ddrws i ddrws yn Nhrelái".

Maen nhw hefyd wedi adolygu lluniau camerâu corff swyddogion a ymatebodd i'r gwrthdrawiad yn Nhrelái, a chael datganiadau gan heddweision a staff perthnasol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ceir a gafodd eu rhoi ar dân yn ystod yr anhrefn yn Nhrelái yn yr oriau wedi i'r ddau fachgen farw

Ychwanegodd bod Heddlu'r De'n parhau i gydweithio â'r ymchwiliad annibynnol, sy'n "dod yn ei flaen yn dda", yn ôl Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford, sy'n diolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth ac am rannu gwybodaeth a thystiolaeth CCTV.

Dywedodd eu bod yn dal eisiau clywed gan unrhyw un all gynnig gwybodaeth ddefnyddiol, ac yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i deuluoedd y bechgyn ac arweinwyr cymunedol lleol.

Mewn datganiad dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi cyfeirio eu hunain at yr IOPC er mwyn sicrhau fod y "mater yn cael archwiliad annibynnol".

Roedd y llu yn parhau i gydweithio gyda'r IOPC, ac yn darparu gwybodaeth a deunydd yn cynnwys lluniau camerâu cylch cyfyng a camerâu corff, meddent.

Ychwanega'r datganiad: "Rydym yn derbyn yr effaith y mae marwolaethau Kyrees Sullivan a Harvey Evans wedi ei gael ar eu teuluoedd, ffrindiau, a'r gymuned ehangach. Mae'n meddyliau a'n cymdymdeimlad yn parhau i fod gyda nhw."

Pynciau cysylltiedig