Adran Dau: Tranmere 0-1 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Aaron HaydenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aaron Hayden oedd sgoriwr unig gôl y gem wedi 56 munud

Roedd peniad Aaron Hayden yn ddigon i selio'r fuddugoliaeth i Wrecsam ym Mhenbedw brynhawn Sadwrn.

Yr ymwelwyr oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf, ond ni allent ddod o hyd i gefn y rhwyd gyda Luke McGee yn arbed ymdrech Sam Dalby i gadw'r gêm yn ddi-sgôr.

Ond ddoth unig gôl y gem wedi 56 munud pan beniodd Hayden o gic gornel Tom O'Connor i roi'r Dreigiau ar y blaen.

Sam Taylor ddaeth agosaf i sicrhau pwynt i Tranmers, ond llwyddodd Mark Howard i arbed ei ymdrech dros y bar.

Mae buddugoliaeth oddi cartref cyntaf Wrecsam o'r tymor wedi eu codi i'r wythfed safle yn y tabl.