Anfamol: 'Angen dweud bod ni'n stryglo'

  • Cyhoeddwyd
Bethan Ellis Owen yn AmfamolFfynhonnell y llun, S4C

"Mae cael babi i bwy bynnag yn rili anodd - yn enwedig os ti'n dad neu fam sengl. I bobl allu cyfaddef a jest derbyn bod o'n anodd a bod pawb yn cael yr un teimladau a trafferthion, s'dim ots ffordd ti wedi cael y plentyn yna."

Dyma neges yr actores Bethan Ellis Owen sy'n ymddangos yn y gyfres newydd Anfamol ar S4C sy'n delio gyda hunaniaeth, iselder ôl-enedigol a'r straen o fod yn riant.

Mae Ani, prif gymeriad y ddrama, yn gyfreithwraig, yn ffeminydd, ac yn dod yn fam sengl drwy ddefnyddio banc sberm i gael babi.

Meddai Bethan mewn sgwrs gyda Hanna Hopwood ar Radio Cymru: "Mae pobl yn cael trafferth cael plant mewn gwahanol ffyrdd ac maen nhw'n mynd trwy broses rili anodd yn emosiynol a'n gorfforol i gael plant.

"Unwaith maen nhw'n cael y plant wedyn dy'n nhw ddim isho cyfaddef bod nhw'n ffeindio fo'n anodd achos maen nhw'n meddwl, 'dan ni wedi bod isho hyn ers gymaint o amser, rŵan bod ni'n cael be' oedden ni isho, allwn ni ddim dweud fod o'n anodd, allwn ni ddim dweud bod ni'n stryglo.

"Mae hwnna'n rili pwysig hefyd."

Ffynhonnell y llun, S4C

Drama lwyfan

Roedd Anfamol gan Rhiannon Boyle yn ddrama lwyfan cyn i'r dramodydd ei addasu ar gyfer y sgrin.

Bethan sy' wedi portreadu Ani ar lwyfan ac ar sgrin ac mae'r cymeriad yn un sy'n agos iawn i'w chalon hi: "Pan 'naethon ni orffen y drama lwyfan o'n i eitha' trist - o'n i 'di rili enjoio'r profiad, roedd yn rhywbeth unigryw.

"O'n i'n gwybod bydde fe byth yn digwydd eto yn fy mywyd i, oedd o'n un o'r cyfleoedd yna ti'n cael unwaith mewn bywyd. Felly o'n i'n drist i ffarwelio efo Ani a phan naethon ni glywed bod ni'n cael cyfres deledu o'n i mor gyffrous.

"Ac yn y gyfres deledu ddim jest fi sy' ynddi - mae actorion eraill yn chwarae cymeriadau eraill. A dyna beth oedd yn neis achos yr unig beth am wneud y drama lwyfan - achos mae monolog oedd o, o'n i ar ben fy hun. Felly mae wedi bod yn neis mynd nôl i fod yn Ani gyda actorion eraill, mae hynny 'di bod yn brofiad hollol wahanol."

Ffynhonnell y llun, S4C

Un o sêr y gyfres yw tad Bethan, yr actor Wynford Ellis Owen, sy'n chwarae tad Ani - y tro cyntaf i'r ddau actor berfformio gyda'u gilydd.

Meddai Bethan: "Ni wastad wedi bod eisiau cael cyfle i weithio efo'n gilydd ond dyw'r cyfle ddim wedi bod yna o'r blaen. Dyw Dad ddim wedi actio ers dipyn o flynyddoedd ond roedd o wrth ei fodd ac mae'r ddau ohonon ni wedi enjoio cael y cyfle i neud rhywbeth oeddan ni wastad wedi bod isho neud.

Paratoi

"Mae'r ddau ohonan ni'n licio paratoi ond mae Dad yn paratoi lot cynt na fi, lot mwy trylwyr na fi. Ac oedd Dad yn dod draw weithiau a'n dweud, 'ti isho mynd dros yr olgyfa 'ma rŵan? Awn ni dros hon' ac o'n i'n dweud 'dwi ddim yn gwybod yr olygfa yna eto, dwi ddim wedi dysgu honna eto!'"

Ers ymddangos yn y ddrama lwyfan mae Bethan wedi dod yn fam am y trydydd tro i ferch 11 mis.

Felly sut brofiad oedd perfformio mewn drama sy'n ymwneud â'r realiti a'r straen o fod yn riant newydd yn syth ar ôl cael babi?

Meddai Bethan: "Pan o'n i'n neud drama lwyfan oedd gen i ddim Jesi ond erbyn i fi neud y ddrama deledu oedd gen i Jesi, oedd yn dri mis oed pan naetho ni ddechrau ffilmio.

"Felly oedd hynny i gyd. Ges i banic attack bach yn tŷ Mam a Dad y penwythnos cyn i mi gychwyn achos do'n i ddim yn gweld sut oedd o gyd yn mynd i ddod at ei gilydd.

"Sut mae hyn i gyd yn mynd i weithio? Achos oedd o'n gymaint o waith, o'n i mewn trwy'r dydd bob dydd ond yn ffodus oeddan nhw wedi dweud fod gen i hawl i ddod â Jesi mewn efo fi. Felly oedd gynnon ni stafell fach ac unwaith aethon ni mewn a ffeindio'n traed daeth o'n rwtin bach a gweithio allan yn grêt.

"Unwaith o'n i'n gwybod fod hi'n mynd i fod yn iawn o'n i'n gallu ymlacio a enjoio'r broses. 'Nath o hedfan."

Ffynhonnell y llun, Aled Garfield
Disgrifiad o’r llun,

Rhiannon Boyle

Roedd y tîm cynhyrchu wedi sicrhau fod cymaint o ferched a phosib wedi gweithio ar y cynhyrchiad, rhywbeth oedd yn bwysig iawn i'r dramodydd Rhiannon Boyle, fel mae'n esbonio: "Oedd hwnna'n bwysig achos mae'n stori am ferch ac oedd o'n bwysig i ni bod ni'n cael tîm o ferched oedd yn deall sut i ddweud y stori yna.

"Mae'r gefnogaeth oedd Bethan wedi cael gyda Jesi yn bwysig - hwnna sy'n bwysig achos falle dyna pam does 'na ddim lot o'r ferched yn y diwydiant achos mae merched yn dewis cael plant - mae'r oriau mor hir ac mae'n gallu bod yn stressful. Ond os mae'r gefnogaeth yna a bod ti yn gallu dod â dy fabi ar set i fwydo hi mae pethe felly yn mynd i helpu."

Ysbrydoliaeth

Daeth yr ysbrydoliaeth am y ddrama yn sgil profiadau personol Rhiannon o ddod yn rhiant: "Pan ges i ddwy o ferched o fewn 21 mis na'th o hitio fi fath a trên.

"Ar y tu allan o'n i'n ymdopi'n wych ond tu mewn o'n i'n rili stryglo efo colli hunaniaeth, blinder, gorbryder, iselder, teimlo'n anweledig a bored.

"O'n i isho siarad am y teimladau yna fel bod mamau eraill sy'n teimlo'r un fath yn gallu uniaethu a teimlo bod nhw ddim ar eu pen eu hunain.

"Dwi'n meddwl mae cael babi yn anodd a dwi'n meddwl bod ni'n cefnogi ein gilydd a bod ni wastad yn gallu gofyn am help. Dyna beth syn mynd o'i le efo Ani yw bod hi ddim yn teimlo bod hi'n gallu gofyn am help. Mae'n bwysig bod ni'n gallu dweud os 'dan ni'n stryglo ac os ni'n ffeindio pethau'n anodd."

Gwyliwch Anfamol ar S4C ar nos Fercher Medi 6 am 9:00.

Pynciau cysylltiedig