Dymchwel rhan o stryd eiconig yng Nghaerdydd heb ganiatâd

  • Cyhoeddwyd
Cilgant Guildford
Disgrifiad o’r llun,

Mae blaen sawl un o'r adeiladau ar Gilgant Guildford wedi cael eu dymchwel

Mae rhan o stryd eiconig yng nghanol Caerdydd wedi cael ei dymchwel gan ddatblygwr, yn groes i ganiatâd cynllunio.

Er gwaethaf ymgyrch i'w hachub, cafodd cynlluniau i ddymchwel corff yr adeiladau ar Gilgant Guildford eu cymeradwyo ychydig flynyddoedd yn ôl, gyda'r bwriad o adeiladu bloc mawr o fflatiau yno.

Fel rhan o'r caniatâd hwnnw penderfynwyd y byddai blaen sawl un o'r adeiladau eiconig - gan gynnwys bar Gwdihŵ - yn cael eu cadw.

Ond dywedodd Cyngor Caerdydd ddydd Mawrth fod y datblygwr sy'n adeiladu ar y safle wedi dymchwel blaen rhai o'r adeiladau dan sylw "yn groes i'w caniatâd cynllunio".

Dywedodd y datblygwr, Galliford Try, eu bod wedi gorfod dymchwel blaen yr adeiladau am eu bod yn ansefydlog, ac y byddan nhw'n cael eu hail-adeiladu.

'Croes i'w caniatâd cynllunio'

Dywedodd y cyngor eu bod wedi derbyn cais gan Galliford Try yn ddiweddar yn gofyn am adolygu'r caniatâd cynllunio er mwyn dymchwel, ac yna ailadeiladu, blaen yr adeiladau.

Roedd y cais yn dweud fod y strwythurau yn ansefydlog.

Disgrifiad o’r llun,

Doedd gan y datblygwr ddim caniatâd i ddymchwel blaen yr adeiladau, meddai Cyngor Caerdydd

Yn ôl y cyngor, roedd y datblygwr wedi cael cyngor i beidio â dymchwel blaen yr adeiladau cyn iddynt gael caniatâd, ond mae hynny bellach wedi digwydd "yn groes i'w caniatâd cynllunio a chyn i'w cais gael ei ystyried gan yr adran gynllunio".

Ychwanegodd Cyngor Caerdydd eu bod wedi cynghori'r datblygwr i roi stop ar unrhyw waith ar y safle, a'u bod yn ystyried "gweithredu yn ffurfiol".

"Bydd y mater nawr yn cael ei basio i'r Pwyllgor Cynllunio, ble bydd aelodau yn cael gwybod am statws y safle ac ystyried buddion y cais presennol i ailadeiladu blaen yr adeiladau, ynghyd ag unrhyw weithredu sydd ei angen er mwyn mynd i'r afael â thorri'r caniatâd cynllunio," meddai'r cyngor.

Dywedodd llefarydd ar ran Galliford Try mai peirianwyr strwythurol oedd wedi rhoi cyngor iddynt fod "angen dymchwel blaen yr adeiladau oherwydd rhesymau diogelwch".

"Fel adeiladwr cyfrifol, rydym yn cymryd iechyd a diogelwch o ddifrif, ac fe wnaethon ni weithredu'n sydyn er mwyn atal unrhyw ddigwyddiad posib.

"Bydd blaen yr adeiladau yn cael ei ail-greu fel rhan o'r datblygiad er mwyn cadw cymeriad hanesyddol y cilgant."

Pynciau cysylltiedig