Pryder bod disgyblion ysgol yn ddibynnol ar vapes

  • Cyhoeddwyd
vapes
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna bryder y gallai defnyddio vapes yn ddyddiol amharu ar addysg disgyblion

Mae cymaint â dau draean o ddisgyblion Blwyddyn 10 sy'n defnyddio vapes pob dydd yn dangos arwyddion o ddibyniaeth, yn ôl arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Cafodd holiadur ei anfon i grŵp bychan o ysgolion uwchradd yng Nghymru, ac yn ôl yr ymatebion roedd tua 10% o blant 14 a 15 oed yn defnyddio vapes pob dydd.

Erbyn hyn, o ganlyniad i'r defnydd o vapes, mae ysgolion yn adrodd problem gydag ymddygiad.

Mae cynnydd yn nifer y disgyblion sy'n cael eu heithrio o'r ysgol, ac mae angen monitro ardaloedd y toiledau yn gyson.

Mae ICC wedi sefydlu Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad i geisio deall effeithiau vapes yn fyw manwl ac i lunio argymhellion i geisio atal niwed.

Mewn datganiad dywedodd ICC: "Er nad yw'n bosibl pennu'r effeithiau iechyd yn llawn dros oes, mae aelodau o'r Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn pryderu y gall effeithiau iechyd tymor hwy gael eu nodi'n ddiweddarach ac erbyn hynny efallai y bydd llawer o bobl ifanc eisoes wedi datblygu arfer gydol oes, er eu bod yn aelod o ddemograffig na fyddai erioed wedi defnyddio cynhyrchion tybaco fel arall."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna awgrym bod hyd at 10% o ddisgyblion 14 a 15 oed yn defnyddio vapes yn rheolaidd

Mae hi'n anghyfreithlon i werthu vapes i unrhyw un dan 18 oed, ond dydy hi ddim yn anghyfreithlon i blant eu defnyddio.

Dywedodd ICC nad oes digon o wybodaeth eto ynglŷn ag effaith yr arferiad ar iechyd pobl ifanc.

Mae yna dystiolaeth i ddangos bod vapes yn 95% llai niweidiol na 'smygu, ac maen nhw yn cael eu defnyddio fel arf i helpu pobl i roi'r gorau i sigaréts.

Ond mae yna gyngor i bobl sydd heb ysmygu yn y gorffennol i beidio eu defnyddio.

Canllawiau i ysgolion

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ICC gyhoeddi gwybodaeth a chanllawiau i ysgolion, ac mae disgwyl i hynny ddigwydd fis yma.

Bydd y wybodaeth yn cynnwys manylion am y teclynnau, y peryglon iechyd a'r gyfraith bresennol ynglŷn â'u defnydd.

Fe fydd yna ganllawiau hefyd i helpu ysgolion ymateb i'r defnydd o vapes ymhlith eu disgyblion.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Iechyd Cyhoeddus wedi sefydlu grŵp arbenigol i gasglu gwybodaeth am effeithiau vapes ar iechyd pobl ifanc

Yn y cyfamser bydd y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn cyhoeddi ei gasgliadau ym mis Hydref.

Mae'r grŵp yn cynnwys arbenigwyr iechyd plant a chlefydau anadlol ynghyd â chynrychiolwyr o'r ysgolion, y byrddau iechyd a chyrff eraill fel Ash - yr elusen stopio 'smygu.

Dywedodd Julie Bishop, cyfarwyddwr gwella iechyd gyda ICC: "Mae'r diwydiant fêpio wedi ehangu'n gyflym dros y degawd diwethaf.

"Mae cynhyrchion yn cael eu marchnata'n gyson mewn ffyrdd sy'n apelio at bobl iau gyda phecynnau lliwgar, dyluniadau modern, a blasau sy'n dynwared cynhyrchion melysion.

"Mae'r dystiolaeth yn dangos y bu cynnydd amlwg mewn adroddiadau o fêpio rheolaidd a dibynnol ymhlith plant oed ysgol uwchradd, ac mae hyn yn effeithio ar eu gallu i ddysgu.

"Bydd y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn parhau i gasglu gwybodaeth am y mater yng Nghymru a chynnig arweinyddiaeth o ran lliniaru niwed pellach i iechyd cyhoeddus."