'Profiad emosiynol' dod yn aelod o'r Cylch Hud i actores Rownd a Rownd

  • Cyhoeddwyd
Karen gyda thystysrgrif y Magic Circle

Wyth mlynedd i'r diwrnod y collodd Karen Wynne ei thad fe gafodd alwad ffôn a fyddai wedi ei wneud yn anhygoel o falch ohoni - galwad i ddweud ei bod yn cael ei gwneud yn aelod o'r Cylch Hud - y Magic Circle - cymdeithas hud a lledrith mwyaf blaenllaw'r byd.

Yn gyfarwydd i lawer fel Iris ar gyfres ddrama Rownd a Rownd, mae'r actores hefyd yn gonsuriwr sy'n perfformio dan yr enw Kariad, a'i thad oedd yn gyfrifol am danio ei diddordeb yn y maes.

"Mae o'n un o'r pethe pwysicaf dwi wedi ei wneud; mae hwn yn golygu mwy i fi nag unrhyw lwyddiant dwi 'di ei gael yn y gorffennol," meddai Karen wrth Cymru Fyw yn ei chartref yn y Felinheli.

Mae'r dystysgrif hollbwysig wedi ei fframio ac yn cael lle balch yn y tŷ.

"Oherwydd bod Dad wedi dechre fi yn y byd hud a lledrith, roedd cael y gydnabyddiaeth yma yn golygu mwy nag unrhyw beth i fi o'i herwydd o a'r cysylltiad personol yna. Mae'n beth emosiynol.

"Ges i'r alwad ddiwedd Mehefin, wyth mlynedd i'r dyddiad inni golli Dad - dwi'n gwybod mai cyd-ddigwyddiad ydy hyn ond mae'n gyd-ddigwyddiad hyfryd."

Un o bump y cant

Ar hyn o bryd dim ond 5% o 1,700 o aelodau'r Cylch Hud sy'n fenywod, sy'n golygu mai llai na llond llaw, os o gwbl, sydd o Gymru heblaw am Karen.

Yn ôl y Cylch does ganddyn nhw ddim cofnod o ble mae eu haelodau yn byw na pha iaith maen nhw'n ei defnyddio, ond dydi Karen ddim yn ymwybodol o unrhyw Gymraes arall sy'n aelod.

"Dwi ddim 'di medru cael ateb penodol ond hyd y gwn i, fi ydi'r unig Gymraes sy'n siarad Cymraeg dwi'n gwybod amdani sydd wedi cael ei derbyn i'r Cylch Hud. Fydde'n neis gwybod a oes mwy," meddai.

Disgrifiad,

Gwyliwch Karen Wynne yn sgwrsio am ddod yn aelod o'r Cylch Hud

I gael ei derbyn roedd rhaid i Karen gael ei henwebu, cael cyfweliad, pasio arholiad a rhoi perfformiad.

Dywedodd y Cylch Hud wrth Cymru Fyw bod nifer o bobl yn trio mwy nag unwaith neu wedi bod yn brentisiaid gyda'r gymdeithas am flynyddoedd cyn cael eu derbyn, ond llwyddodd Karen ar ei chynnig cyntaf.

"Mae'r Cylch Hud yn hapus iawn fod Karen yn ymuno â'n clwb ni," meddai llefarydd.

"Mae'n dipyn o gyflawniad i fod wedi sefyll yr arholiad, cael eich beirniadu gan banel o gonsurwyr ar eich gallu a'ch techneg hud a lledrith, eich cyflwyniad a'ch personoliaeth, strwythur, gwreiddioldeb a delwedd - a phasio."

Dysgu, dylanwadau a chwrdd â Paul Daniels

Gweinidog oedd tad Karen, Raymond Hughes, ac roedd yntau hefyd yn gwneud ambell sioe hud i gymdeithasau lleol.

Fe ddysgodd ei thric cyntaf iddi pan oedd hi tua phump oed a bu'n ddylanwad mawr arni.

Karen Wynne, ei thad Raymoind Hughes gyda Paul DanielsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Karen a'i thad ddosbarth meistr yn nhŷ Paul Daniels

"Un flwyddyn ges i lyfr gen ddyn o'r enw Ali Bongo yn bresant 'Dolig, roedd o'n ymgynghorydd i Paul Daniels," cofia Karen. "Yng nghefn llyfr Ali Bongo roedd 'na gyfeiriadau cwmnïau mawr, proffesiynol ac roedd modd cysylltu efo'r cwmnïau yma a chael catalogau ganddyn nhw."

Drwy'r rheiny fe ddaethon nhw i wybod bod 'na gynadleddau hud a lledrith yn cael eu cynnal dros y wlad.

Dechreuodd Karen a'i thad fynychu'r cynadleddau hyn oedd yn llawn stondinau, darlithoedd a sioeau.

"Roedd yn chwalu 'mhen i fod yna'r ffasiwn beth â darlithoedd ar gael!" meddai Karen.

Karen gyda Katie a Mario the Maker MagicianFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Mae Katie a Mario the Maker Magician yn ymgynghorwyr hud a lledrith i mi," meddai Karen

"Y ffefryn gan Dad a fi oedd mynd i Blackpool; fan'no, yn y Winter Gardens, mae cynhadledd hud a lledrith fwya'r byd. Mae pobl yn dod o bedwar ban byd."

Yn un o'r cynadleddau yma y daethon nhw ar draws Dynamo un flwyddyn, consuriwr sy'n enw enfawr erbyn hyn ond oedd yn gwbl anadnabyddus ar y pryd ac yn gwneud ei driciau ar y stryd tu allan gan na allai fforddio tocyn i'r gynhadledd.

Fe ddywedodd y byddai rhyw ddydd, nid yn unig yn y gynhadledd, ond ar y llwyfan yn ennill gwobrau.

"Roedd honna'n foment," meddai Karen. "Ac roedd ei driciau yn anhygoel. Mae gen i barch mawr ato fo."

Kariad gyda'r consuriwr Howard HughesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Karen fel Kariad gyda'r consuriwr o Fangor, Howard Hughes, sydd yn ei helpu a'i chynghori: "Mae ei gael o yne fel mentor imi, rŵan mod i 'di colli Dad yn enwedig, yn amhrisiadwy."

Mae Karen wedi cwrdd â nifer o gonsurwyr enwog eraill, gan gynnwys Paul Daniels, ei ffefryn wrth dyfu fyny.

"Paul Daniels oedd bob dim. Dwi'n gwybod nad oedd pawb yn licio Paul Daniels - dyn 'Marmite' ella - ond does 'na ddim dadlau am ei sgiliau fo - mi oedd o mor wybodus; yn feistr go iawn."

Cafodd Karen a'i thad y cyfle "anhygoel" i fynd gyda'i gilydd i gael dosbarth meistr ganddo yn ei dŷ.

Mae cael sêl bendith y Cylch Hud yn rhoi hwb a hygrededd iddi, meddai, ac yn golygu ei bod yn gallu cysylltu gyda rhai o gonsurwyr eraill gorau'r byd a gweld eu darlithoedd fel rhan o griw dethol.

Karen Wynne gyda Annie Bananie a Buster BalloonsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Gyda Annie Bananie a Buster Balloons yn un o gynadleddau hud a lledrith mwya'r byd yn Blackpool, fis Chwefror 2023

Hud fel ffordd o helpu

Ar ôl dechrau perfformio sioeau plant fel Kariad daeth Karen i deimlo nad oedd gwneud partis efo triciau a chael ei galw'n 'Kariad y clown' yn taro deuddeg.

Ond fe syrthiodd y darnau i'w lle ar ôl iddi gael hyfforddiant mewn defnyddio'r celfyddydau i helpu pobl sy'n feddyliol fregus ac fe ddatblygodd ei sioe i gyfuno hynny gyda'i sgiliau consurio ar gyfer plant.

"Lle mae ngwir ddiddordeb i a lle mae nghalon i ydi i ddefnyddio hud a lledrith i helpu pobl yn emosiynol ac yn seicolegol. Helpu nhw i ddarganfod ffyrdd o ymdopi efo sefyllfaoedd mewn bywyd. Helpu nhw i gredu ynddyn nhw eu hunan a'u helpu nhw hefyd i gwestiynu pethau.

"Dyna sy'n ffantastig am hud a lledrith, mae'n gwneud iti gwestiynu be sy'n wir a be sy ddim ac mae'n bwysig annog plant a phobl ifanc i gwestiynu be sy'n bwysig mewn bywyd.

"Mae partis a chwerthin a chael hwyl yn bwysig iawn ond dydw i ddim y person gorau i wneud hynna.

"'Dwi'n teimlo bod fi di ffeindio fy lle yn cyfuno iechyd meddwl, yr ochr emosiynol o bethau, efo hud a lledrith - dwi'n teimlo mod i'n perthyn yn fanna."

Karen Wynne yn ei chartref yn y Felinheli gyda'r Fenai y tu ol iddi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Karen yn teimlo'n gryf bod gan y grefft o gonsurio le fel rhan o'r celfyddydau i helpu gyda lles a iechyd

Mae pob math o ymchwil wedi ei wneud i sut mae triciau yn gallu helpu i gyfleu gwybodaeth, helpu plant i wneud tasgau yn well, datblygu hyder, sgiliau siarad a dweud stori ac yn gyffredinol agor y meddwl i edrych ar bethau mewn ffyrdd gwahanol.

Ond mae Karen bellach yn awyddus i ddatblygu sesiynau ar gyfer pobl hŷn fel ffordd o fagu hyder, ac i helpu yn gorfforol hefyd.

Mae consurwyr fel David Copperfield wedi datblygu triciau i bobl sydd angen ffisiotherapi esbonia Karen; mae dysgu triciau syml yn ystwytho eu dwylo, eu cyhyrau a'u meddyliau.

Mae hi'n angerddol am y myrdd o ffyrdd y gall y grefft o greu rhyfeddod ein helpu ni i gyd mewn cymdeithas

"Dwi'n teimlo yn gryf ei fod o'n waith celfyddydol; mae 'na stori, mae 'na swyno," meddai Karen.

"I mi dydi o ddim am y 'twyll', mae o i wneud efo rhoi profiad arbennig a hwb i rywun; os ti'n ddigalon jyst yn yr eiliad yna pan ti'n tynnu dy wynt yn ôl mewn rhyfeddod ti'n anghofio am dy broblemau - mae hynna'n bwysig."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig