Dros 80% o fenywod Cymru wedi cael eu sarhau ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae arolwg wedi awgrymu bod dros 80% o fenywod yng Nghymru wedi derbyn negeseuon sarhaus ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae Eve Betts, 28 oed o Ben-y-bont, yn dechnegydd ewinedd ac yn ddylanwadwr ar-lein.
Mae wedi byw gydag alopesia - cyflwr sy'n achosi pobl i golli eu gwallt - ers yn ddwy oed.
Yn 2017 fe ymddangosodd ar raglen First Dates ar Channel 4, lle tynnodd ei wig ar gamera.
Pum mlynedd yn ddiweddarach, mae Eve yn derbyn negeseuon sarhaus ar-lein "yn wythnosol", a rhai o'r rheiny yn gallu bod o natur rywiol.
"Dwi'n cael llawer o death threats, pobl yn dweud y dylen i farw achos sut dwi'n edrych," meddai.
'Mae e dal yn digwydd'
Mae Eve yn codi ymwybyddiaeth o'i chyflwr ar ei thudalen Instagram, sydd â dros 11,000 o ddilynwyr.
Ond dywedodd ei bod yn anodd cadw'n bositif wrth dderbyn sylwadau cas.
"Dwi'n cael llawer o sylwadau personol ar fy edrychiad, pobl yn fy nghymharu i'r pethau gwaethaf fel robot neu alien - pob math o sylwadau sy'n brifo."
Dyw stori Eve ddim yn anghyffredin.
Mae arolwg gan y Brifysgol Agored yn awgrymu bod pedwar allan o bob pum menyw a merch yng Nghymru wedi derbyn negeseuon sarhaus ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae hanner y rhain yn cynnwys negeseuon o natur rywiol.
Yn ôl Eve Betts, dyw'r ffigyrau ddim yn syndod.
"Dwi'n meddwl beth sy'n synnu fi fwyaf yw bod e dal yn digwydd, er mae wedi bod yn broblem am gymaint o amser.
"Er gall cyfryngau cymdeithasol gael yr holl osodiadau preifatrwydd, mae pobl yn dal yn gallu mynd drwodd beth bynnag."
Nid yn unig y mae Eve yn cael sylwadau sarhaus ar ei lluniau Instagram, ond mae hi wedi derbyn fideos a hyd yn oed nodiadau llais cas.
Mae arolwg y Brifysgol Agored yn dangos bod 48% o fenywod a merched dros 16 oed yng Nghymru wedi cael eu sarhau yn rhywiol ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Eve Betts, pan fydd hi'n derbyn fideos rhywiol ar Instagram, nid yw'n dangos beth yw cynnwys y fideo nes iddi eu hagor.
"Dwi ddim yn gwybod pam maen nhw'n meddwl y gallan nhw wneud hynny oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod fy oedran.
"Ac os fydden nhw'n danfon fideo at blentyn dan oed - bydde hynny'n gwbl anghywir."
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron eu bod yn "cymryd pob achos yn ymwneud â cham-drin ar-lein o ddifrif", ac y byddan nhw'n "parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i adeiladu'r achosion cryfaf posib".
'Sbwylio fy niwrnod'
Yn ôl Eve mae ei phrofiadau yn "anodd" i'w hiechyd meddwl.
"Rydyn ni i gyd yn cael dyddiau gwael," meddai.
"Ond pan dwi'n deffro a mynd ar gyfryngau cymdeithasol, dwi'n dod yn syth yn ôl i'r ddaear oherwydd sylwadau pobl sydd ddim yn 'nabod fi - fwy na thebyg dydyn nhw ddim hyd yn oed yn gwybod beth yw fy enw i.
"Maen nhw'n danfon negeseuon cas oherwydd mae gen i alopesia ac mae hynny'n rhywbeth galla i ddim helpu.
"Mae'n gallu sbwylio fy niwrnod."
Mae Bethan Sayed yn gydlynydd ymgyrchoedd gyda Climate Cymru, ac yn gyn-Aelod o'r Senedd.
Yn ystod ei chyfnod fel gwleidydd fe siaradodd yn gyhoeddus am y sarhad roedd hi'n ei dderbyn ar-lein.
"Ma'n drist ein bod ni dal yn trafod y rhifau uchel yn hytrach na'n bod ni'n trafod y rhifau yma'n dod lawr," meddai.
"Fi 'di sefyll lawr nawr ers cwpl o flynyddoedd - oedd e ar ei waethaf tua chwe, saith mlynedd yn ôl i fi, a ni dal yn trafod y peth.
"Ma' digon o dechnoleg ar gael nawr - ma' AI yn cymryd drosodd popeth. Mae 'na ddigon o ffyrdd i allu amddiffyn menywod er mwyn i ni ddim gorfod wastad trafod y problemau."
Un arall sydd wedi cael ei sarhau ar-lein yw'r cynghorydd Ceidwadol dros ardal Rhiwbeina yng Nghaerdydd, Jayne Cowan.
Mae hi'n dweud ei bod wedi cael ei sarhau ar-lein ers dros 20 mlynedd.
"Rwy'n riportio'r negeseuon pryd bynnag rydw i'n eu gweld, ond cymysg yw'r ymatebion," meddai.
"Er bod rhai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gweithredu'n brydlon, efallai na fydd eraill yn ymateb mewn modd amserol.
"Mae'r anghysondeb hwn yn tanlinellu'r angen am fecanwaith adrodd safonol ac effeithlon ar draws pob platfform."
Mae cwmni Meta - sy'n rhedeg Facebook ac Instagram - y pedwar llu heddlu yng Nghymru a'r Swyddfa Gartref wedi cael cais am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2018
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021