CBDC a'r llywodraeth i daclo casineb ar-lein at fenywod

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Kelly Thomas bod y casineb mae menywod yn wynebu yn "annheg."

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) a Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun i daclo casineb ar-lein tuag at ferched.

Camdriniaeth tuag at chwaraewyr benywaidd yng Nghymru yn 2020-21 wnaeth ysgogi'r penderfyniad i greu'r cynllun.

Dywedodd CBDC a'r llywodraeth fod angen addysg ar "yr effaith negyddol mae camdriniaeth a iaith greulon ar-lein yn gallu ei chael ar ferched, nid yn unig o fewn pêl-droed, ond ar draws y gymdeithas".

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan FA WALES

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan FA WALES

Mae Jess Fishlock, y chwaraewr sydd â'r fwyaf o gapiau i Gymru, wedi lleisio ei chefnogaeth i'r cynllun.

"Roedd hi'n dorcalonnus i weld y casineb tuag at chwaraewyr benywaidd y llynedd oedd yn chwarae am eu bod nhw'n caru'r gêm," meddai hi.

"Dydy ceisio brifo rhywun dros rhywbeth mae'n nhw'n ei garu ddim yn beth mawr, clyfar, na doniol i'w wneud.

"Rydw i bob tro'n dweud y dylai pobl feddwl am yr effaith ar y person sydd yn derbyn y fath gasineb cyn rhannu, ac rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda fy nhîm, Cymru a'r FAW i addysgu pobl ymhellach ar beth sydd a sydd ddim yn dderbyniol ar-lein."

Ffynhonnell y llun, Dan Mullan

Mae adnoddau addysgiadol ar gyfer addysg cynradd ac uwchradd ar gael ar safle Cadw'n Ddiogel Ar-lein ar 'Hwb', platfform dysgu ar-lein yng Nghymru.

Mewn datganiad, dywedodd CBDC a Llywodraeth Cymru bod yr "adnoddau a ddatblygwyd gan arbenigwyr ar ddiogelwch ar-lein wedi eu creu i helpu dysgu gwersi ar y pwnc, ac i helpu dysgwyr i ddeall pwysigrwydd parch rhwng merched a bechgyn, sut mae casineb ar-lein yn edrych, y term 'toxic masculinity', a pha rôl mae'n chwarae mewn casineb at ferched ar-lein."

Dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles AS: "Rydw i'n falch iawn ein bod ni'n gallu gweithio gyda CBDC nid yn unig i danlinellu casineb tuag at ferched ar-lein, ond i fynd i'r afael â'r peth.

"Mae'n hanfodol i roi'r cyfle i ddisgyblion ddysgu am eu hawliau nhw a hawliau eraill, yn ogystal ag effaith y fath gamdriniaeth."