Daeargryn Morocco: 'Gobeithio dod nôl ond dim gwybodaeth'
- Cyhoeddwyd
"Mae'n anodd credu beth sydd wedi digwydd... Roedd yn ddychrynllyd," dywedodd Bethan Rhys Roberts
Parhau ddydd Llun mae'r gwaith o chwilio am y rhai sydd yn dal ar goll wedi'r ddaeargryn ym Morocco a laddodd dros 2,100 o bobl.
Mae 2,421 arall wedi eu hanafu - nifer yn ddifrifol.
Yn ôl y rhai o Gymru a oedd yn Marrakesh ar wyliau roedd yr holl brofiad yn gwbl erchyll, gydag un teulu yn dweud eu bod yn gobeithio dychwelyd ddydd Llun ond mai prin oedd unrhyw wybodaeth.
Mae Prydain ymhlith y gwledydd sydd wedi anfon cymorth - wrth i nifer o gymunedau ym Mynyddoedd yr Atlas gysgu y tu allan am eu bod yn ofni nad yw eu cartrefi yn ddiogel.
Roedd daeargryn nos Wener yn mesur 6.8.
Un a oedd yno ar ei gwyliau ym Marrakesh oedd y newyddiadurwraig Bethan Rhys Roberts.
Bellach yn ôl yng Nghymru bu'n rhannu ei phrofiadau ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru.
Dywedodd: "Mae'n anodd credu beth sydd wedi digwydd, a meddwl am yr holl bobl sydd dal yno, wedi colli popeth a'r holl deuluoedd sy'n dal i ddioddef.
"Fe oedd yna sŵn byddarol, fel petai dwy drên yn taranu naill ochr y stafell a hofrennydd yn ceisio codi trwy'r llawr. Roedd yn ddychrynllyd.

Mae'r dinistr i'w weld yn glir ar strydoedd Marrakesh
"Wrth adael y gwesty, roedden ni'n gweld darnau mawr o blastig ar y llawr, ceir dan gerrig a darnau concrit yn dymchwel," meddai.
"Roedd yna sŵn sgrialu a sgrechian, a dynion yn rhedeg gydag ysgolion i drio helpu.
"Dyma ni'n mynd allan o brif waliau'r ddinas. Y peth mawr oedd peidio mynd ar goll - doedd ffonau ddim yn gweithio," ychwanegodd.
"Fe benderfynon ni fynd yn ôl i'r gwesty i nôl ein pasbort. Roedd yna graciau ar y waliau ym mhobman a darnau o'r nenfwd wedi syrthio mewn.
"Diolch byth fe gafon ni gar i'r maes awyr a gallu gadael."
'Mae'r difrod yn erchyll'
Ychwanegodd: "Wna'i byth anghofio un o staff y gwesty yn trio cael gafael ar ei theulu.
"Roedd yna hanner awr pan nad oedd yn gallu cyrraedd neb - ond yna gwên fawr wrth ddarganfod fod ei theulu yn fyw.

"Mae'r difrod yn erchyll. Mae rhywun yn meddwl am y rhwydwaith o strydoedd cul a'r marchnadoedd, a'r tai simsan sydd siŵr o fod wedi dymchwel.
"Mae'r gwaith cywrain, hanesyddol a bendigedig yn y mosg hefyd wedi ei ddifrodi."
Gyda Marrakesh tua 60km i ffwrdd o ganolbwynt y daeargryn, dywedodd Bethan fod ei meddyliau gyda phobl mewn ardaloedd eraill o Morocco.
"Nid yn y fan honno mae'r trychineb ar ei waethaf ond ym mynyddoedd High Atlas," meddai.
"Roedden ni yno wythnos yng nghynt. Maen nhw'n bentrefi sydd wedi glynu'n wyrthiol at ochr y graig.
"Wythnos i heddiw roedden ni'n ymweld â phobl y Berber. Fe oedden ni'n bwyta gyda dyn annwyl iawn oedd yn poeni'n arw am sychder lawr yn y dyffryn.
"Mae rhywun yn meddwl amdanyn nhw a'r golygfeydd anhygoel, a sut le sydd yn fanno erbyn hyn."
'Y cyfan fel ffilm'
Ymhlith eraill oedd ar eu gwyliau yno ac sydd fod i ddychwelyd ddydd Llun mae Jane Felix-Richards a'i theulu o Gaerdydd.
Morocco: 'Meddwl bod bom wedi mynd off'
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Llun dywedodd fod yr holl brofiad wedi bod yn erchyll a'i bod yn "credu bod bom wedi mynd off".
"Doedd dim amser i feddwl, fe adawon ni bopeth ar y bwrdd a rhedeg. Roedd e fel ffilm.
"Mae lot yn mynd drwy eich meddwl. Doedd dim gwybodaeth. Pawb yn aros y tu allan i'r gwesty mewn penbleth am gwpl o oriau oherwydd after shocks ond doedden nhw ddim yn wael.
"Doedd neb eisiau mynd yn ôl i'r gwesty ac [fe wnaeth pobl] ddechrau setlo ar y gwelyau wrth y pwll.
"Yr unig wybodaeth ry'n ni'n gael yw oddi ar y we a'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r gwesty yn ceisio parhau yn ôl yr arfer.
"Ry'n ni'n lwcus iawn bod yr adeilad yn strwythurol gadarn. Mae'n eithaf swreal, gyda'r gwesty yn gweithredu fel arfer ond oherwydd y galaru does dim cerddoriaeth ac mae'r lle yn dawel iawn.
"Ry'n ni fod hedfan 'nôl i Gymru heddiw ond does dim manylion eto ynglyn â'r transfer."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2023