Llanelli: Dau yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth dyn ym Maestir, Llanelli
Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi marwolaeth dyn yn Llanelli.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r farwolaeth ym Maestir, a ddigwyddodd yn oriau mân y bore ddydd Sul.
Dywedodd y llu fod unedau arbenigol yn yr ardal ac y bydd y gymuned yn parhau i weld presenoldeb heddlu am gyfnod.
Maent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
