Connor Allen: Ail gyfle a dod yn fardd plant Cymru

  • Cyhoeddwyd
Connor AllenFfynhonnell y llun, Camera Sioned/Llenyddiaeth Cymru

Mae hi'n ddiwedd cyfnod i Connor Allen, wrth i'w ddwy flynedd fel Children's Laureate i Gymru ddod i ben. Ond byddai bywyd wedi gallu bod yn wahanol iawn i'r bardd o Gasnewydd, a gafodd ei arestio pan oedd yn ei arddegau.

Yma, mae'n edrych nôl dros ei gyfnod fel un o feirdd plant Cymru, gan ystyried beth mae wedi ei ddysgu i'r plant, a beth mae wedi ei ddysgu ganddyn nhw.

Ail gyfle

Wrth i fy nghyfnod fel Children's Laureate dynnu at ei derfyn, rwy' wedi treulio ychydig o amser yn ddiweddar yn myfyrio ac yn edrych ar y siwrne 'ma rwy' i wedi bod arni dros y ddwy flynedd ddiwetha'.

Mae wedi newid fy mywyd, a dweud y lleia', ond er fod yr antur o fod yn Children's Laureate wedi bod yn daith o ddwy flynedd, mae'r siwrne i gyrraedd lle ydw i nawr wedi bod yn un hirfaith. Rwy'n edrych nôl dros yr 16 mlynedd ddiwetha', oherwydd, a bod yn onest, dyna oedd dechrau'r newid.

Bydd y rheiny ohonoch sydd wedi dilyn fy siwrne yn gwybod am beth rwy'n sôn, ond i'r rhai sydd ddim yn gwybod... pan o'n i'n 16 oed, ces i fy arestio a derbyn dedfryd wedi ei gohirio am dair blynedd.

Y ddedfryd ohiriedig 'na oedd yn hollbwysig. O gadw mas o drwbl am dair blynedd, byddai fy record yn cael ei glirio, a byddwn i'n cael ail gyfle, a falle - jest falle - mai'r ail gyfle yna oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i bopeth ddaeth wedyn.

Ffynhonnell y llun, Connor Allen
Disgrifiad o’r llun,

Connor yn ifanc, cyn i drywydd ei fywyd newid am byth

'Ti ydi ti'

Wrth edrych nôl ar ddyn ifanc a oedd mor agos at fynd i'r carchar, a ddaeth un dydd yn artist sydd wedi ennill gwobrau ac yn Children's Laureate i Gymru, mae'n anodd i mi ei amgyffred hyd yn oed. 'Nes i erioed ddychmygu y byddwn i yma, wedi llwyddo felly. Ond mi ydw i, a gallaf i fod yn falch o'r holl effaith dwi wedi ei gael wrth wneud y rôl.

Dywedodd fy Anti Sharon wrtha i rhyw dro - "Connor, bydd yn Connor. Ti ydi ti." A gyda hynny, datglodd hi'r gred fod yna neb arall fel fi ar y blaned.

Ry'n ni'n byw mewn byd o wyth biliwn o bobl, sydd yn mynd drwy bleserau a thrafferthion bywyd fel pawb arall, ond mewn byd sydd wedi ei wneud o gymaint o bobl a gymaint o brofiadau, dim ond un TI sydd yna.

Dim ond un FI sydd yma. Un Connor Allen. Mae nifer yn rhannu'r un enw â fi, ond does yna neb yn sgrifennu fel fi, siarad fel fi, teimlo fel fi, oherwydd fel pawb arall ar y blaned DWI'N WYRTH.

Hefyd o ddiddordeb:

Gwneud gwahaniaeth

Y gred a'r ddealltwriaeth yma yw beth sydd wedi llywio ac ysbrydoli fy nghyfnod yn y rôl, ac mewn rhai achosion, fy ngwaith; gwneud i blant a phobl ifanc ddeall a chredu eu bod nhw'n wyrthiau, a'r cwbl mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud ydi bod yn nhw eu hunain.

Dyna un o'r rhoddion gorau alla i eu rhoi, ac wrth i mi fynd tuag at fy mhennod newydd, gallaf i edrych ar y plant rwy' wedi cael effaith arnyn nhw, a'r gwahaniaeth sydd wedi ei wneud.

Efallai fod rhai eisiau bod yn feirdd fel fi pan maen nhw'n tyfu lan ac eisiau dod yn Children's Laureate, ond yn well na hynny, mae'r rhan fwyaf wedi eu hysbrydoli i gredu y gallan nhw dyfu lan i fod beth bynnag maen nhw eisiau bod.

Allwch chi ddim rhoi pris ar yr hyn mae fy ngwaith wedi gallu ei roi iddyn nhw a'r effaith dwi wedi ei gael ar gymaint o blant ledled y wlad.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol / Llenyddiaeth Cymru

Meddai Paulo Coelho unwaith, "Os ydych chi eisiau gweld byd heb chwerwder, edrychwch arno drwy lygaid plentyn," ac rwy' wedi bod mor ffodus dros y ddwy flynedd ddiwetha i gael y cyfle i edrych ar y byd heb chwerwder drwy bob plentyn dwi wedi siarad â nhw.

Dyna'r effaith a'r pŵer maen nhw wedi ei gael arna i, a dyna pam wna i ddim anghofio eiliad o'r antur.

Ysbrydoliaeth

Roedd hi'n hyfryd gweld wyneb plentyn yn goleuo lan wrth iddyn nhw glywed fy ngherddi neu os ges i nhw i ysgrifennu eu cerddi eu hunain heb iddyn nhw sylweddoli. Mae rhannu fy stori a'r hyn sydd yn fy ysbrydoli hefyd bob amser yn rhoi gwên ar fy wyneb.

Dwi'n cael fy ysbrydoli gan nifer o artistiaid gwahanol. Dwi wastad wedi bod yn ffan o Tupac, a rwy' wedi bod nôl yn darllen ei farddoniaeth yn ddiweddar. Bydd Maya Angelou bob amser yn cynnig cyngor yn ei geiriau a'i dawn dweud stori.

A dwi'n ffan mawr o grime a rap, felly dwi'n cael fy ysbrydoli gan hynny hefyd. Mae Little Simz a Kendrick Lamar yn amlwg iawn ar fy rhestr chwarae oherwydd sut maen nhw'n chwarae â geiriau, a sut maen nhw'n adrodd straeon, a rwy'n ceisio dod â hynny i ngwaith. Sut alla i ddweud straeon sy'n taro tant?

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru/Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Connor a disgyblion ysgol ar Ddiwrnod Barddoniaeth 2022

Dwi'n brawf fod ail gyfleon yn bodoli ac yn gallu cael eu rhoi, a gobeithio gall fy amser i fel Children's Laureate a fy ngwaith wedyn ddangos i blant a phobl ifanc nad ydyn nhw'n gaeth i'w camgymeriadau.

Yr hyn sydd yn eu diffinio yw eu dewisiadau a sut maen nhw'n delio gyda'u hamherffeithrwydd. "Mae pawb yn gwneud camgymeriadau," meddai fy mam, "byddech chi ddim yn berson fel arall."

Mae fy stori a'm siwrne yn un o obaith. Hyd yn oed yn ein hadegau isaf, hyd yn oed pan nad oes llwybr clir o'n blaenau, gallwn oresgyn a chodi fry.