Merched Cymru a frwydrodd dros y bleidlais

  • Cyhoeddwyd

Yn ystod 2018, bu dathliadau i nodi canrif ers i rai merched ennill yr hawl i bleidleisio.

Mae Elliw Gwawr, gohebydd gwleidyddol y BBC yn San Steffan, wedi cynhyrchu rhaglen ar gyfer BBC Radio Cymru, Merched y Bleidlais, a thrwy ei gwaith ymchwil, wedi dysgu mwy am y Cymry a gymerodd ran yn yr ymgyrchu a'r brwydro dros gael y bleidlais i ferched.

Y ddynes mewn gwisg Gymreig

Ym mis Ebrill 2018, cafodd cerflun o'r suffragist Millicent Fawcett ei ddadorchuddio yn Parliament Square, Llundain - y cerflun cyntaf o fenyw ar y tir hwnnw.

Ar y plinth mae lluniau ac enwau cyfranwyr eraill i'r achos, a llun a ddaliodd sylw Elliw Gwawr, oedd un dynes mewn gwisg draddodiadol Gymreig. Ei henw oedd Edith Mansell-Moullin.

Roedd Edith ymhlith y 27,000 o Gymry a oedd yn byw yn Llundain yn negawd cyntaf yr 20fed ganrif. Sefydlodd y Cymric Suffrage Union - swffragetiaid a oedd yn barod i ymgyrchu yn Llundain.

Byddai grwpiau o fenywod o Gymru yn dod i orymdeithiau mewn gwisg Gymreig yn lliwiau'r swffragetiaid, sef porffor, gwyn a gwyrdd. Cafodd Edith ei charcharu nifer o weithiau am ei gweithredoedd.

Ffynhonnell y llun, Heritage Images
Disgrifiad o’r llun,

Edith Mansell-Moullin yn ei het dal

Y Gymraeg yn 'arf defnyddiol'

Er nad oedd hi'n medru'r Gymraeg, roedd hi'n gweld gwerth i'r iaith, ac yn sicrhau fod llenyddiaeth yn cael ei gyfieithu, er mwyn targedu'r Cymry dosbarth gweithiol a oedd yn byw yn Llundain.

Roedd yr iaith hefyd yn cael ei defnyddio fel arf defnyddiol. Fel soniodd yr hanesydd Catrin Stevens ar y rhaglen ar Radio Cymru, byddai gwersi Cymraeg o fath yn cael eu cynnal ymhlith rhai o'r swffragetiaid. Roedd hyn yn bennaf er mwyn cael gweiddi ar Lloyd George yn ei fam-iaith; gwleidydd a oedd wedi eu cythruddo am nad oedd yn gwneud digon i'w cefnogi.

Mae'n debyg mai bloedd o 'Pleidlais i fenywod!' a gafodd ei glywed yn seinio yn yr Albert Hall yn Llundain yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yno yn 1909 pan ddaeth tro Lloyd George i siarad.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Roedd swffragetiaid yn dilyn Lloyd George o amgylch y lle, er mwyn ennyn ei sylw

Cymraeg oedd iaith gyntaf Rachel Barrett o Gaerfyrddin, a gafodd ei hysbrydoli gan swffragetiaid yng Nghaerdydd pan oedd hi'n athrawes ym Mhenarth.

Mae'r hanesydd Mary Thorley o'r farn ei bod yn unigolyn bron mor allweddol ag Emmeline a Sylvia Pankhurst - sydd yn enwau llawer mwy cyfarwydd - ac yn un o lunwyr polisi'r ymgyrch, ynghyd â golygydd cylchgrawn The Suffragette.

Aeth i'r carchar nifer o weithiau dros yr achos, ac yno, fel nifer o'r swffragetiaid eraill, byddai'n ymprydio. Oherwydd fod y llywodraeth ofn i'r merched hynny farw yn y carchar, roedden nhw'n cael eu bwydo'n orfodol, ac hefyd yn cael eu rhyddhau nes byddai eu hiechyd yn adfer, cyn cael eu harestio eto. Digwyddodd hyn i Rachel Barrett dair gwaith.

Ffynhonnell y llun, Mary Thorley
Disgrifiad o’r llun,

Rachel Barrett yn ei gwisg Gymreig yng ngorymdaith y merched cyn Coroni Brenin Siôr V yn 1911

Meddai Mary Thorley, "Rhoddodd hi lawer i'r symudiad, rhoddodd hi ei sgiliau trefniadol, ond y peth mwyaf pwysig, dwi'n credu, oedd ei dewrder ac ymrwymiad i wneud pethau i newid. Roedd hi'n Gymraes hefyd ac yn gallu siarad i bobl yng Nghymru yn eu hiaith eu hunain.

Ac wrth gwrs, yn y pendraw rhoddodd ei hiechyd hefyd i'r symudiad oherwydd torrodd ei hiechyd ar ôl yr holl force-feeding."

Creiriau Cymraes yn ôl yng Nghymru

Mae enw Cymraes arall a oedd yn flaenllaw yn yr ymgyrch wedi dod i'r amlwg eleni, sef Kate Williams Evans o Lansantffraid. Cafodd casgliad o'i heiddo ei brynu am £40,000 gan Amgueddfa Cymru Sain Ffagan mewn arwerthiant yn Lloegr, ac Elliw oedd aelod cynta'r cyhoedd i gael gweld y creiriau yn eu cartref newydd.

Yn ôl Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol yr amgueddfa, Elen Phillips, mae'r casgliad yn arwyddocaol gan fod stori'r swffragetiaid yn hanes Cymru ar goll ar y cyfan, gan gael ei guddio gan hanes y suffragists - y rhai a oedd yn ymgyrchu drwy ddulliau heddychlon, a oedd yn llawer mwy amlwg yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Elliw Gwawr
Disgrifiad o’r llun,

Medal a gyflwynwyd i Kate Evans o Lansantffraid am ymprydio yn y carchar

Ym mhlith y casgliad o arteffactau a llythyron, mae medal a gafodd ei chyflwyno i Kate am ymprydio pan oedd hi yng ngharchar Holloway.

Dim ond tua 100 o'r medalau hyn sydd wedi goroesi, felly mae hi'n arbennig iawn fod un a gafodd ei chyflwyno i Gymraes wedi gallu dod i'r amgueddfa, meddai Elen.

Trolio ar-lein ei gyfnod

Fodd bynnag, yn y casgliad am yr ymgyrch dros y bleidlais i fenywod sydd yn amgueddfa Sain Ffagan, mae creiriau llawer llai cadarnhaol. Nid pawb a oedd yn cytuno â galwad yr ymgyrchwyr yma am fwy o hawliau cyfartal, ac oedd y swffragetiaid yn aml yn cael eu gwatwar am eu credoau.

Roedd llawer o bropaganda gwrth-swffragetaidd yn cael eu creu a oedd yn sarhau'r merched hyn, gyda'r fenyw yn cael ei phortreadu fel gwraig a mam wael, a gyda golwg di-raen arni.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llawer o bropaganda yn erbyn ymdrech y swffragetiaid

Yn y casgliad, mae doli o swffragét, sydd â phinau ynddi a oedd wedi cael ei hanfon yn ddi-enw at swffragét yng ngorllewin Cymru.

Yr ymgais, mae'n debyg, oedd i sarhau'r fenyw a'r ymgyrch, ond fel mae Elliw yn ei nodi, mae'n bosib gweld tebygrwydd rhwng yr ymdrechion yma i fychanu, â'r trolio ar-lein sydd yn digwydd y dyddiau yma, sydd yn arbennig o wir i ferched mewn gwleidyddiaeth.

Yn ôl Llywydd y Senedd ym Mae Caerdydd, Elin Jones AM, sydd hefyd yn siarad ar y rhaglen, mae'r cyfryngau cymdeithasol heddiw yn amlygu heriau i fenywod, gan fod rhai pobl bob amser yn barod i herio a gwatwar. Rydych chi'n cwestiynu eich hun drwy'r amser, meddai, ac mae angen bod yn gryf rhag iddo danseilio eich hyder yn gyfangwbl.

Yn anffodus, meddai Elliw, dyw merched dal ddim yn gyfartal yn y byd gwleidyddol - yn San Steffan mae'r ganran o ferched sy'n wleidyddion, o'i gymharu â dynion, dal i fod yn isel - rhywbeth na fyddai'n plesio'r swffragetiaid.

"Ond efallai," meddai, "drwy siarad mwy am eu haberth, am y frwydr hollbwysig yna am y bleidlais gan mlynedd yn ôl, mae modd i ninnau gwestiynu'r presennol a dal ati i weithio tuag at gydraddoldeb yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Elliw Gwawr
Disgrifiad o’r llun,

Elliw yn recordio rhaglen Merched y Bleidlais ger cerflun Millicent Fawcett

Hefyd o ddiddordeb: