'Angen denu talent wyddonol o'r dinasoedd mawr i Gymru'
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Gymru "godi ei phroffil" ym maes gwyddoniaeth os yw'r sector am ddenu talent o'r dinasoedd mawr, yn ôl un peiriannydd technoleg AI yn Llundain.
Mae M-Sbarc - y parc gwyddoniaeth ar Ynys Môn - wedi cynnal llu o ddigwyddiadau yn Llundain yn ystod y mis i ddangos arloesedd gwyddonol Cymru i weddill y DU a'r byd.
Fe ddaw hyn wrth i Brydain ailymuno â chynllun ymchwil gwyddonol Horizon - ar ôl ei adael dair blynedd yn ôl yn sgil Brexit.
I Hanna Gwenllian, peiriannydd technoleg AI yn Llundain, sydd yn wreiddiol o Lanelli, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod cyfleoedd cystal yn agosach i adref.
"O ni mo'yn symud mewn i'r maes technoleg, oedd e yn cyfyngu mwy i Lundain," meddai.
"Odd y cyfleoedd mwy neu lai i gyd yn Llundain.
"O beth i fi yn ymwybodol mae yna gymaint llai o gyfleoedd yng Nghymru ac mewn byd delfrydol fydden i'n dwlu gweithio'n agosach i adref."
Ychwanegodd: "Ni'r Cymry'n dwlu ar gael ein hadnabod am bethau gwahanol ym maes chwaraeon neu'r cyfryngau. Ni'n dwlu codi llais am y dalent sydd gyda ni.
"Ond yn anffodus dwi ddim yn gweld yr un math o frwdfrydedd yn y gwyddorau neu'r byd technoleg."
'Camargraff nad oes llawer yn mynd ymlaen'
Drwy gydol mis Medi mae M-Sbarc yn trefnu digwyddiadau yn Llundain gyda'r nod o arddangos y dalent wyddonol sydd yng Nghymru i weddill y byd.
Mae gan Barc Gwyddoniaeth M-Sbarc 50 o denantiaid yn y parc ar Ynys Môn ac mae'r sector yn mynnu fod yna swyddi ar gael ond nid y bobl cymwys sydd efo'r sgiliau perthnasol i'w cyflogi.
"Ma' 'na ryw gamargraff nad oes 'na ddim byd llawer yn mynd yn ei flaen yng Nghymru ond pan 'da chi'n dechrau edrych yn fanwl ma' bethau difyr iawn ac mae angen ei amlygu," meddai Pryderi ap Rhisiart, rheolwr gyfarwyddwr M-Sbarc.
Wythnos ddiwethaf fe ailymunodd Prydain â chynllun ymchwil Horizon - ar ôl ei adael dair blynedd yn ôl yn sgil Brexit.
Felly fe fydd gwyddonwyr Prydain yn gallu hawlio cyfran o'r £81 biliwn o bunnoedd i sbarduno cydweithio gydag Ewrop ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg.
"Ma' rhaid i ni feddwl hefyd pa brifddinasoedd eraill allwn ni dargedu yn Ewrop ac America. Dydy hyn ddim yn rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd dros nos mae'n cymryd amser i ddatblygu perthynas," meddai Dr Edward Thomas Jones, economegydd ym Mhrifysgol Bangor.
"Ond yn sicr mae'n bosib i'r llywodraeth allu wneud hwn mewn ffordd feddal."
Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod wedi buddsoddi £20biliwn mewn datblygiadau gwyddoniaeth a thechnoleg ar draws y wlad gan ddweud bod Cymru yn buddio o hyn.
"Mae Llywodraeth y DU yn cefnogi arloeswyr ym maes gwyddoniaeth gan glustnodi £20bn - y swm uchaf erioed erbyn 2025, i yrru'r darganfyddiadau hanfodol sy'n tyfu ein heconomi, gwella bywydau a lefelu fyny pob rhan o'n gwlad, gan gynnwys ledled Cymru."
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2018