Lluniau: Gŵyl Fwyd y Fenni
- Cyhoeddwyd
Er gwaetha'r tywydd gwlyb fe heidiodd pobl draw i'r Fenni y penwythnos yma ar gyfer yr ŵyl fwyd flynyddol sy'n cael ei chynnal bob mis Medi. Roedd digon i'w weld gan gynnwys stondinau bwyd, diod, cerddoriaeth, tân gwyllt a chyflwyniadau gan rai o sêr y byd coginio.
Dyma gasgliad gan y ffotograffydd Tim Woodier a fu'n tynnu lluniau drwy gydol y penwythnos.
Bu'r cogydd Andi Oliver, seren The Great British Menu a Saturday Kitchen, yn trafod bwyd, treftadaeth a hunaniaeth fel rhan o'i chyflwyniad am goginio Caribîaidd.
Roedd pob math o gynnyrch blasus ar gael gan gynnwys mêl...
...a phasta lliwgar.
Enw mawr arall fu'n cymryd rhan yn yr ŵyl oedd Angela Hartnett. Gyda'i phartner Neil Borthwick roedd hi'n coginio ar un o lwyfannau'r ŵyl.
Cymeriad lliwgar!
Hwyl a sbri yn y cwis fwyd.
Cyrus Todiwala, Freddy Bird, Pete Brown a Kate Hawkings yn cymryd rhan mewn arddangosiad.
Yr awdur ac arbenigwr ar gwrw a seidr, Pete Brown, yn siarad mewn digwyddiad yn y Theatr Ddiod.
Enw addas!
Roedd Neuadd y Farchnad dan ei sang gyda phobl yn dod i weld a blasu'r holl gynnyrch gwahanol oedd ar gael.
Er gwaetha'r glaw trwm roedd pobl yn dal i wenu...
... a bwyta!
Roedd yna ddigonedd o ddewis o fwyd a diod wedi iddi nosi.
Gwaith sychedig!
Parti mawr yn y castell gyda cherddoriaeth fyw...
... a thân gwyllt i gloi'r noson.
Hefyd o ddiddordeb: