Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon 2023
- Cyhoeddwyd
Roedd yna rywbeth at ddant pawb yng Ngŵyl Fwyd Caernarfon 2023 dros y penwythnos; bwyd, diod, cerddoriaeth, anifeiliaid, adloniant, cynnyrch Cymreig, celf, cwmni da a thywydd braf.
Heidiodd pobl yn eu miloedd yno gan grwydro heibio'r nifer fwyaf o stondinau mae'r ŵyl wedi ei chael erioed.
Dyma gasgliad y ffotograffydd Iolo Penri o hwyl yr ŵyl.

Roedd rhaglen Tudur Owen, Radio Cymru yn darlledu yn fyw o'r ŵyl ben bore

Y maes dan ei sang

Nŵdls i ginio?

Y plant yn mwynhau gweld defaid Coleg Glynllifon

Mwynhau llymaid o gwrw gan ddefnyddio cwpanau aml ddefnydd yr ŵyl

Roedd rhaid edrych i fyny at yr awyr las er mwyn dal llygaid ymwelwyr talaf yr ŵyl

Leinio'r stumog gydag ychydig o saim

Roedd gwirfoddolwyr yn gweithio'n galed trwy'r dydd yn rhoi gwybodaeth ac yn casglu arian

Band Pres Llareggub yn diddanu ar Stryd Llyn ac yn chwarae Ysbeidiau Heulog. Mi wrandawodd yr haul arnynt drwy'r dydd

Iechyd da!

Digonedd o bysgod ffres

Adloniant o flaen wal Yr Anglesey Arms

Llwyfan y corau

Staff Cyngor Gwynedd yn sicrhau gŵyl daclus i bawb
Hefyd o ddiddordeb: