Cyhoeddi canllawiau newydd ar e-sigaréts i ysgolion
- Cyhoeddwyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cyhoeddi cyngor newydd i ysgolion uwchradd am sut i ddelio â'r defnydd o fêps ymysg eu disgyblion.
Mae ymchwil gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn nodi fod 20% o bobl ifanc rhwng blwyddyn 7 ac 11 yn dweud eu bod wedi defnyddio e-sigarét, tra bod 5% o ddisgyblion uwchradd Cymru yn defnyddio fêps o leiaf unwaith yr wythnos.
Mae ysgolion wedi dweud bod hyn yn arwain at broblemau ymddygiad a bod mwy o ddisgyblion yn cael eu heithrio o'r ysgol.
Mae nhw'n dweud hefyd bod angen monitro ardaloedd y toiledau yn gyson.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae iechyd a lles yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm newydd i Gymru, ac mae'r canllawiau'n darparu cyfleoedd i addysgu am e-sigaréts a'r dyfeisiau ar gyfer eu defnyddio."
Mae'r canllawiau newydd hefyd yn cynghori ysgolion i ehangu eu polisïau ysmygu ac ymddygiad.
Yn ôl arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mae cymaint â dau draean o ddisgyblion Blwyddyn 10, sy'n defnyddio fêps bob dydd, yn dangos arwyddion o ddibyniaeth.
Mae hi'n anghyfreithlon i werthu e-sigaréts i unrhyw un dan 18 oed, ond dydy hi ddim yn anghyfreithlon i blant eu defnyddio.
Tra bod tystiolaeth yn dangos bod e-sigaréts yn 95% llai niweidiol na 'smygu, mae yna gyngor i bobl na sydd wedi ysmygu yn y gorffennol i beidio â'u defnyddio.
Dywedodd Dr Julie Bishop, cyfarwyddwr gwella iechyd gyda ICC: "Mae ein gwaith gyda'r grŵp amlasiantaeth ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau wedi tynnu sylw at heriau newydd sylweddol y mae ein lleoliadau addysg yn eu hwynebu wrth ymateb i'r defnydd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.
"Rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau cynhwysfawr hyn yn gam cyntaf o ran cefnogi staff addysg i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol hon."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles: "Ni ddylai unrhyw un o dan 18 oed fod yn defnyddio e-sigaréts.
"Mae ysgolion yn dweud wrthym bod hyn yn broblem go iawn, boed hynny oherwydd pwysau gan gyfoedion, marchnata lliwgar wedi'i anelu at blant neu ddiffyg dealltwriaeth o'r risgiau posibl i iechyd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu disgyblion i ddeall effaith defnyddio e-sigaréts fel y gallant wneud y penderfyniadau cywir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023
- Cyhoeddwyd27 Awst 2023