Awel y Môr: Cymeradwyo fferm wynt ar arfordir gogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gwynt y MorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y tyrbinau newydd drws nesaf i fferm wynt Gwynt y Môr

Mae cynlluniau ar gyfer fferm wynt fawr ar y môr oddi ar arfordir gogledd Cymru wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth y DU.

Mae Awel y Môr yn cael ei ddisgrifio gan y datblygwyr fel "buddsoddiad ynni adnewyddadwy mwyaf Cymru'r ddegawd hon".

Yn 2021 fe gafodd cynlluniau fferm wynt Awel y Môr eu lleihau'n sylweddol o 100 o dyrbinau gwynt i rhwng 35 a 50, yn sgil pryderon gan bobl leol.

Mae'r datblygwyr yn dweud bydd y pŵer fydd yn cael ei gynhyrchu gan y fferm wynt hon "gyfystyr ag anghenion pŵer 500,000 o dai".

Yn 2015, agorodd y datblygwyr un o'r ffermydd gwynt mwyaf oddi ar arfordir y Deyrnas Unedig, Gwynt y Môr, sy'n cynnwys 160 o dyrbinau oddi ar arfordir Llandudno.

Bydd y fferm wynt newydd, Awel y Môr wedi ei lleoli drws nesaf i Gwynt y Môr.

Mae'r cwmni wedi dweud mai 332m (1,089 o droedfeddi) fydd uchafswm taldra'r tyrbinau.

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net, Claire Coutinho sydd wedi cymeradwyo'r cynlluniau.

Dywedodd Paul Morrison, Prif Weithredwr yr arolygiaeth gynllunio: "Mae cymunedau lleol yn parhau i gael y cyfle i fod yn rhan o archwilio'r prosiectau all effeithio arnyn nhw".

Pynciau cysylltiedig