Cam yn nes at fwy o dyrbinau gwynt ar arfordir y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i gynyddu nifer y tyrbinau gwynt oddi ar arfordir y gogledd gam yn nes ar ôl i gwmni ynni sicrhau hawliau i ran o wely'r môr gan Ystadau'r Goron.
Bwriad RWE Renewables ydy treulio'r ddwy flynedd nesaf yn dylunio cynllun Awel y Môr, dolen allanol a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
Os yn llwyddiannus fe allai'r fferm wynt newydd, ar ochor orllewinol fferm wynt Gwynt y Môr, fod yn weithredol erbyn 2030.
Ond yn ôl y mudiad Save Our Scenery fe fyddai'r cynllun yn difetha tirlun y gogledd.
'Cyfle gwych'
Mae safle Gwynt y Môr, sydd â 160 o dyrbinau tua 10.5 cilomedr o'r arfordir ym Môr Iwerddon rhwng Bae Colwyn a Llanfairfechan, eisoes yn gallu cyflenwi digon o drydan ar gyfer 30% o holl dai Cymru.
Y gobaith rŵan ydy sefydlu cynllun tebyg ar ochor orllewinol y datblygiad hwnnw, gan greu un o feysydd ynni gwynt y môr mwya'r byd.
"Mae'r llywodraeth wedi dweud bod yna argyfwng hinsawdd ac un o'r ffyrdd o leihau'r argyfwng yna ydy trwy greu ynni gwyrdd," meddai Dafydd Roberts, peiriannydd gyda RWE Renewables.
"Mae Awel y Môr yn gyfle gwych er mwyn symud helpu symud tuag at y targed yna, ond ar yr un pryd mae'n helpu'r ardal leol trwy helpu creu swyddi.
"Mae Gwynt y Môr wedi helpu creu 100 o swyddi i bobl fel fi sydd eisiau byw yng ngogledd Cymru a chael swyddi da."
'Poen i'r llygaid'
Does dim awgrym ar hyn o bryd faint o dyrbinau all gael eu codi ond mae'r cwmni wedi sicrhau hawliau ar gyfer ardal 106 cilomedr sgwâr.
Pan godwyd Gwynt y Môr fe gafodd mudiad Save our Scenery ei sefydlu i godi llais yn erbyn y datblygiad, ac yn ôl un aelod mi fydd aelodau'n parhau i ymgyrchu yn erbyn y cynllun diweddaraf.
"Mae'r cynllun yn boen i'r llygaid," meddai John Lawson-Reay.
"Fe ddechreuodd y syniad ac mae o wedi lledaenu bellach ac... un o'r prif betha' y gallwn werthu yng ngogledd Cymru ydy'r golygfeydd.
"Mae amharu ar hyn yn drosedd."
Cannoedd o swyddi
Mae RWE Renewables yn bwriadu treulio'r ddwy flynedd nesaf yn cynllunio gyda rhanddeiliaid a thrafod gyda phobl leol.
Os yn llwyddiannus fe allai'r cwmni wedyn gyflwyno cais cynllunio a chais am drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Fe fyddai'r blynyddoedd wedyn yn cael eu treulio yn codi'r tyrbinau newydd gyda'r bwriad o fod yn weithredol erbyn diwedd y ddegawd.
Gyda'r addewid o 100 o swyddi parhaol ac oddeutu 700 yn ystod y gwaith adeiladu, mae un awdurdod lleol yn croesawu'r cynllun - er mae 'na alw hefyd am gynlluniau eraill tebyg.
"Yn sicr mae rhywun yn croesawu unrhyw fuddsoddiad, yn enwedig yn ystod y cyfnod 'dan ni wedi bod mewn efo'r holl bryder am y dyfodol," meddai dirprwy arweinydd Cyngor Conwy, Goronwy Edwards.
"Ar gyfer y tymor hir byddai Cyngor Conwy yn licio gweld buddsoddiad wir gynaliadwy fel y cynllun i roi morglawdd allan yn y môr.
"Yn sicr mae Conwy a gogledd Cymru wedi chware rhan yn y melinau gwynt hyn ond rhywbeth tymor byr 'dwi'n meddwl ydy hyn."
Pe bai'r cynllun hwn yn cael ei wireddu fe fyddai hefyd yn cyfrannu at ymgais Llywodraeth Cymru i gynhyrchu 70% o ynni trydanol y wlad drwy ffynhonnell adnewyddadwy, a chyrraedd y nod o waredu allyriadau carbon erbyn 2050.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2019
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2015