Adfer organ Soar Merthyr 'i'w holl ogoniant'
- Cyhoeddwyd
Mae organ Fictorianaidd unigryw sydd â chysylltiadau â'r cyfansoddwr Joseph Parry yn ei dref enedigol wedi'i hadnewyddu.
Fe fydd cyngerdd yng Nghanolfan a Theatr Soar ym Merthyr Tudful nos Sadwrn i ddathlu cwblhau'r gwaith adfer, gyda Rhys Meirion ymhlith y rhai sy'n perfformio.
Cafodd yr organ yn hen Gapel Soar ei hadeiladu yn 1890 a hi yw'r unig un yng Nghymru sy'n gallu gael ei phweru gan bwmp dŵr, trydan neu â llaw.
Roedd angen i'r ganolfan godi £320,000 i wneud y gwaith, ac fe dderbynion nhw arian o sawl ffynhonnell gan gynnwys Cronfa Treftadaeth y Loteri.
Yn ogystal â Joseph Parry, cyfansoddwr arall o Ferthyr a fu'n chwarae'r organ yn Soar oedd E T Davies, fu'n gyfarwyddwr cerdd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor rhwng 1920 a 1943.
'Calon y gymuned'
Roedd adnewyddu'r offeryn yn rhan bwysig o nodi treftadaeth Theatr Soar, meddai prif swyddog Menter Iaith Merthyr, Lis McLean.
"Mae'r adeilad yma yn meddwl rhywbeth wahanol i bawb, ac mae traddodiad mawr o Gymanfaoedd Canu a phethe fan hyn.
"O'dd yr ysgolion i gyd ym Merthyr yn dod fan hyn - hwn oedd y capel o'dd yr enwogion yn dod ato i siarad gyda'r gymuned flynyddoedd yn ôl.
"O'dd e fel calon y gymuned i ni, dwi'n teimlo."
Un sy'n cofio'r organ pan oedd yn ddisgybl ysgol yn lleol yw Tomas Rhys Evans, sydd bellach yn gweithio yn y ganolfan.
"Dwi'n cofio dod i'r capel trwy'r ysgol am y cyngerdd Nadolig a gwrando ar yr organ yn chwarae.
"Roedd e'n brofiad da iawn, ac roedd yr organ yn chwarae yn swnllyd iawn!
"Dwi'n cofio'r holl ystafell yn dawel just yn gwrando ar yr organ oherwydd mae'n brofiad gwahanol iawn."
'Clamp o waith'
Cwmni Goetze & Gwynn o Sir Northampton, sy'n arbenigo mewn trwsio ac adfer organau, oedd yn gyfrifol am y gwaith.
"Roedd yn glamp o waith," meddai Dilwyn Roberts, sy'n swyddog treftadaeth Canolfan Soar.
"Mae'n waith arbenigol iawn - ac yn bwysicach oll adfer i'r hyn oedd hi yn wreiddiol - dydy hi ddim wedi'i haddasu neu foderneiddio, ond mynd â hi nôl at ei gwreiddiau fel organ.
"Roedd yn rhaid tynnu dros fil o bibiau, ail-diwnio a chael y pibau yn ôl i'w lliw gwreiddiol hefyd achos o'dd llwch yr oesoedd wedi eu pylu nhw ac maen nhw nawr yn eu llawn ogoniant."
Mae'r myfyriwr a'r organydd Kacper Wrona, sy'n dod o Wlad Pwyl yn wreiddiol ond wedi ymgartrefu ym Merthyr ers blynyddoedd, yn un sydd wedi cael y profiad o chwarae'r offeryn ers iddo gael ei adfer.
"Mae'n eitha' gwahanol i unrhyw beth dwi wedi'i chwarae o'r blaen," meddai.
"Mae'r teimlad eich bod yn chwarae rhywbeth mae cyfansoddwr neu gerddor mawr wedi'i chwarae - fel Joseph Parry yma ym Merthyr - yn rhoi cysylltiad dyfnach i'r gerddoriaeth ry'ch chi'n ei chwarae."
Mae gweld organ Soar yn ôl yn ei holl ogoniant yn bwysig i Lis McLean.
"Mae'n meddwl gymaint i fi yn bersonol, achos pan o'n i'n 11 oed o'n i'n eistedd mewn fanna yn perfformio'r Meseia gydag Ysgol Rhydfelen gyda Lily Richards, ac o'dd hwnna'n meddwl gymaint i fi yn canu gyda fy nheulu, gyda chyd-ddisgyblion, athrawon a phethe.
"Ond beth sydd yn bwysig i fi yw bod yr offeryn yna wedi cael ei greu mewn cyfnod (1890) pan oedd Merthyr ar y blaen o ran technoleg a phethe.
"I fi mae'n rhyw fath o symbol o ba mor flaengar mae Merthyr wedi bod."
Yn dilyn y cyngerdd lansio nos Sadwrn, mae cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi'u trefnu yn gysylltiedig â'r organ.
Mae hynny i'w groesawu, meddai'r organydd Kacper Wrona.
"Wrth adfer yr organ ry'ch chi'n gofalu am eich treftadaeth - treftadaeth Merthyr.
"Ond mae'n rhaid chwarae organau - allwch chi ddim eu hadfer dim ond iddyn nhw edrych yn bert!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2017