Ateb y Galw: Efa Lois

  • Cyhoeddwyd
efaFfynhonnell y llun, Efa Lois

Yr arlunydd o Aberystwyth, Efa Lois, sy'n ateb ein cwestiynau yr wythnos yma, wedi iddi gael ei henwebu gan Morgan Owen yr wythnos d'wethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Cofio cerdded ar hyd y prom yn Aberystwyth, gyda fy Mam a fy mrawd, yn dilyn y teils swirly gwyn, a chwarae'r gemau anfarwol 'lan y ramp a lawr y star' a 'lan y star a lawr y ramp' wrth aros i fy nhad orffen gwaith.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ers i mi ddysgu gyrru llynedd dwi wedi anturio tipyn o Gymru, ond un o fy hoff lefydd yw Llandudoch - lle hyfryd llawn hanes a chrefftwyr cyfoes. Neu goedwigoedd Merthyr Tudful - rhyfedd yw meddwl bod cymaint o hanes diwylliannol Cymru ynghudd mewn coedwigoedd bellach.

Gan fy mod i wedi gwneud dwy radd mewn pensaerïaeth, dwi hefyd wedi treulio llawer o amser yn crwydro hen adeiladau Cymru - mae Eglwys St Philip, Caererdon, ac Eglwys St Anno, Llananno, ar fy rhestr o adeiladau i ymweld â nhw nesaf.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

O bosib Nos Galan yng Nghaernarfon yn 2018-2019, neu un o nosweithiau 'Clwb Swper' yng nghwmni ein ffrindiau hyfryd yng Nghaerdydd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Creadigol. Hoffi Chwedlau.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Un tro, wrth i ni gerdded tu allan i Coffee #1 Pontcanna, dywedodd fy nghariad yn dawel,

"Edrycha, dyna Katherine Jenkins."

A nes i fynd "Ble? Sai'n gweld Katherine Jenkins" yn eitha uchel.

… Gethin Jenkins oedd yn sefyll o fewn clyw i ni.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gwylio Cheaper by the Dozen yn yr adlen ar wyliau yn Ffrainc gyda fy nheulu, a chrio am farwolaeth y broga Beans. Nath fy mrawd a fy chwaer chwerthin am hwn am weddill y gwyliau. Meddwl on i'n 17 ar y pryd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n crio'n reit aml am raglenni teledu neu lyfrau. Siŵr o fod wrth wylio un o rifynnau'r ddrama The Bear.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Bod yn argyhoeddiedig, ar ôl bob "pin up" pensaernïol yn y brifysgol, bod fi wedi llyncu un o'r drawing pins heb sylwi.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Hoff lyfr yn newid yn reit aml (dwi'n ddarllenydd brwd) ond dwi ynghanol darllen llyfr am waith celf Hieronymus Bosch.

Hoff bodlediad yn newid yn wythnosol, ond yn mwynhau podlediad newydd Elis James am hanes - Oh What a Time… ar hyn o bryd.

O ran albymau, hoff iawn o Bob Dylan Live at the Budokan - yn benodol, dwi'n hoff iawn o'i fersiwn o Love Minus Zero o'r albwm yma, a The Concert in Central Park - Simon & Garfunkel (yn benodol, y fersiwn hyfryd hyfryd o The Boxer o'r album yma).

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Hieronymus Bosch - rili eisiau gwybod rhagor amdano!

Disgrifiad o’r llun,

Gardd y Pleserau Daearol; campwaith Bosch o 1503-05

Ac i gwrdd am goffi, Nina Hamnett, Mari'r Fantell Wen, a Ruth Wynn Owen (gallwch ddarllen rhagor amdanyn nhw ar y wefan hanes menywod Cymru dwi wedi rhedeg ers 2017 - hanesmenywod.cymru!)

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n berson sy'n casglu pethau - yn fy arddegau, roeddwn i'n arfer casglu poteli gwenwyn Fictorianaidd. Ond bellach, tegeiriannau rhyfedd a ffigysbrennau. Dwi'n trio cadw'r casgliadau'n weddol fach!

Hefyd - dwi'n rhannu penblwydd gyda'r gantores Gwenno Saunders, a'r prifardd Dyfan Lewis.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dwi'n meddwl fysen i am drio pethau newydd - crefftau newydd, crwydro i lefydd newydd, trio bwyd newydd - meddwl bydden i am brofi cymaint a allen ni yn y cyfnod byr fyddai ar ôl.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llynedd ges i'r cyfle gwefreiddiol o ymweld â Slofenia, fel rhan o wobr Ysgoloriaeth Geraint George Eisteddfod yr Urdd.

Ffynhonnell y llun, Efa Lois
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Efa wrth ei bodd gyda phrydferthwch Slofenia

Roedd Parc Cenedlaethol Triglaf mor brydferth, a roedd profi diwylliant gwerin, a chlywed am chwedlau gwlad arall yn ysbrydoliaeth mawr wrth i mi ddychwelyd i Gymru, a dychwelyd i fy ngwaith celf, sy'n ymdrin â'r un themau yng Nghymru.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Gwrhyr Gwalstawd Ieithoedd. Dwi wedi bod yn dysgu Ffrangeg ers rhyw flwyddyn a hanner, felly bysen i'n gwerthfawrogu teimlo'n rhugl, hyd yn oed am un diwrnod!

Hefyd - roedd e'n gallu siarad ag adar ac anifeiliaid!

Pynciau cysylltiedig