Adran Dau: Stockport 5-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Colli oedd hanes Wrecsam oddi cartref yn Stockport brynhawn Sadwrn, gan ddod â chyfres o saith buddugoliaeth o'r bron i ben.
Fe gafodd Elliot Lee ddau gyfle yn fuan cyn i'r tîm cartref gael tair gôl yr hanner cyntaf - dwy gan Olaofe ac un gan Louie Barry.
Llwyddodd Olaofe gyda'i drydedd yn yr ail hanner ac fe rwydodd Paddy Madden y pumed gôl i'r tîm wedi 90 munud gan chwalu gobeithion Wrecsam yn deilchion.
Mae Wrecsam wedi syrthio i'r seithfed safle yn Adran Dau ar ôl colli o 5-0.