Y Bencampwriaeth: Sunderland 0-1 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Yakou Meite a Trai HulmeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe gipiodd Caerdydd fuddugoliaeth o drwch blewyn oddi cartref yn erbyn Sunderland brynhawn Sul.

Bu'n gêm ddi-sgôr tan y 10 munud olaf gyda Mark McGuinness yn llwyddo i rwydo unig gôl y gêm.

Roedd ambell gyfle yn ystod y saith munud ychwanegol, ond aros ar 0-1 wnaeth y rhifau ar sgorfwrdd.

Gyda thair buddugoliaeth o'r bron, mae Caerdydd yn codi i'r seithfed safle.