Max Boyce yn 80: Y digrifwr yn dathlu yn ei filltir sgwâr
- Cyhoeddwyd
Mae un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd Cymru, Max Boyce yn 80 oed.
Ers yr 1970au mae'r gŵr o Lyn-nedd wedi bod ar lwyfannau ar draws y byd yn perfformio'i ganeuon a straeon digrif am rygbi, Cymru a bywyd pobl ardaloedd glofaol y de.
Y penwythnos yma bydd cerflun yn cael ei ddadorchuddio iddo yn ei dref enedigol a doedd ond un lle roedd o am ddathlu ei ben-blwydd ar 27 Medi.
"O ni'n meddwl am falle mynd i rywle neis [i ddathlu] ond na, ro'n i moyn neud e yng Nglyn-nedd - ma'n sbeshal," meddai Max Boyce, mewn digwyddiad i ddathlu ei ben-blwydd yng nghlwb rygbi'r dref.
"Fan'ma dwi'n cael y storïau - gwrando ar bobl gyffredin, gwrando a dysgu a sgwennu ambytu'r lle achos ma'r lle hyn yn debyg i'r cymoedd i gyd felly fi'n cael ysbrydoliaeth o fyw yn Glyn-nedd a'r cymeriadau sydd yn Glyn-nedd."
Er gwaetha'i lwyddiant, a'i gân Hymns and Arias yn anthem answyddogol rygbi Cymru ers degawdau bellach, mae Max Boyce wedi aros yn ei gynefin yng Nglyn-nedd ac yn llywydd y clwb rygbi, y clwb golff a'r côr meibion.
'Un o'r bois'
Meddai Del Morgan, ysgrifennydd Côr Meibion Glyn-nedd, wrth nodi'r pen-blwydd: "Max yw Max. Ma'n byw drws nesa' [i'r clwb rygbi].
"Ma'n dod yma yn rheolaidd a bob tro ni'n cael ymarfer mae o yn y bar, a ni'n cael sgwrs ddifyr gyda fe wedyn.
"Pan ma'n mynd bant i weithio ar y daith mae pawb yn gweld eisie fe ond mae o nôl yn gloi."
Ychwanegodd arweinydd y côr Gerwyn Harris: "Smo fe wedi symud... galle fe wedi symud i'r Mymbls i ryw dŷ crand ond smo fe wedi - ma' fe'n byw reit drws nesa i'r clwb a ma' fe yma drwy'r amser, ma' fe jest yn gyffredin - ma' fe'n un o'r bois."
Dechreuodd Max Boyce fel canwr gwerin mewn clybiau lleol ar ddiwedd yr 1960au, cyn dechrau cyflwyno caneuon a straeon doniol oedd yn amlygu ei gariad at rygbi a chymunedau glofaol de Cymru.
Yn 1973, ar ôl clywed rhai o'i ganeuon, fe wnaeth cwmni recordiau EMI gynnig cytundeb iddo i gynhyrchu dau albwm.
We All Had Doctors' Papers yn 1975 ydy'r unig albwm gomedi i fynd i frig y siartiau ym Mhrydain ac mae o wedi gwerthu dros dwy filiwn o recordiau dros y degawdau.
Mae'r diddanwr wedi teithio'r byd gyda'i waith teledu a chyngherddau, gan gynnwys llenwi'r Tŷ Opera yn Sydney a'r Royal Albert Hall yn Llundain.
Un o ffrindiau Max Boyce - ac un fu'n rhan o dîm rygbi Cymru chwedlonol yr 1970au fu'n sbardun i boblogrwydd y diddanwr - ydy Gareth Edwards.
"Ma' fe wedi bod yn neud e am shwt gymaint o flynydde fi'n ffili braidd credu bod e yn 80," meddai.
"Fi'n gobeitho aiff e ymlaen am 80 mlynedd arall achos ma' fe'n gwneud bywyd pob un - nid jest yng Nghymru ond dros y byd i gyd - yn llawer gwell ar ôl chi gwrando ar y geiriau a'r caneuon a'r ffordd mae e'n dod a'r holl beth drosto.
"Ma' fe llawn cystal a rhai o'r bobl hyn sydd wedi ysgrifennu dros ganrif nôl a fydd e a'i eiriau yma o hyd mewn canrif dim dowt am hynna."
Hunaniaeth
Wrth iddo droi'n 80, mae Max Boyce yn parhau i fod yn arwr i nifer yn y cymoedd, a'r Cymro Cymraeg wedi pwysleisio'r pwysigrwydd deall bod Cymry di-Gymraeg yn gymaint o Gymry a'r siaradwyr Cymraeg, fel mae'n son yn y darn archif yma.
Hefyd o ddiddordeb: