Dafydd Iwan: Oriel atgofion pen-blwydd 80
- Cyhoeddwyd
Mae Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar 24 Awst.
I nodi'r garreg filltir mae'r canwr, ymgyrchydd ac arwr i dîm pêl-droed Cymru yn rhannu lluniau ac atgofion o'i saith degawd ddiwethaf gyda Cymru Fyw.
Pen-blwydd hapus Dafydd!
Y teulu cyfan
Y peth gora' am achlysuron fel 'Dolig a phen-blwydd fel hwn yw fod pawb yn gwneud ymdrech i ddod adre am ddiwrnod neu ddau.
Dyna fydd yr anrheg delfrydol i Beth a finna, cael y plant; Caio (chwith), Elliw, Celt, Telor, Llion (dde) a'u partneriaid i gyd gyda'i gilydd.
Mae Llion a Caio wedi cael hogia bach yn ddiweddar, felly mae’r wyrion yn ychwanegu gymaint at yr hwyl. Mae gen i saith o wyrion erbyn hyn – pob un yn hogyn!
'Ond fe'm ganwyd innau'n fab i fy rhieni'
Ie, hogia ydi’r drefn yn ein teulu ni! Teulu Garth Gwyn, Llanuwchllyn tua 1958 sydd yn fan hyn.
O'r chwith mae fy mam, fy mrodyr Alun Ffred a Huw Ceredig, fy nhad yng nghadair Eisteddfod Powys, fy mrawd Arthur Morys a finna.
Mae Elliw yn eithriad, a diolch amdani. Roedd hogie Garth Gwyn yn eitha adnabyddus am wneud enw iddyn nhw eu hunain (dyna’r pris o fod yn blant i’r gweinidog!)
Ond ar y cyfan roedden ni’n tynnu 'mlaen yn weddol fel brodyr.
Fedre neb gael lle gwell na Llanuwchllyn i dyfu fyny, o ran y diwylliant Cymraeg ac o ran hwyl.
Dwi’n edrych ymlaen at fynd yno i ddathlu agor y dafarn pan fydd hi’n agor fel tafarn gymunedol.
'I’r gad!, i’r gad!'
Am oddeutu 15 mlynedd, ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith oedd yn rheoli fy mywyd.
Dyma fi wrthi’n pregethu yn y Cyfarfod Cyffredinol yn 1975.
Beth yn union oedd y bregeth, dwi ddim yn cofio.
'Ac wrth feddwl am fy Nghymru, daw gwayw i 'nghalon i'
Roedd y Gymdeithas yn tynnu sylw at yr argyfwng tai yn gynnar yn y 70au.
Dyma lun a dynnwyd wrth inni ddod allan o dŷ haf yn ardal Llanberis wedi bod yn ei feddiannu dros nos.
Mae tri o’r rhai yn y llun wedi’m gadael: Eric o’r Waunfawr, Sion Daniel ac Eifion Griffiths.
Croeso yn Ethiopia
Milwyr un o lwythi crwydrol olaf Eithiopia yn fy nghroesawu (diolch byth!) adeg ffilmio gwaith Cymorth Cristnogol a Water Aid yn y wlad.
Codi hwyl!
Un o’r gwyliau gorau a gefais erioed oedd hwylio rhwng Groeg a Thwrci am bythefnos gyda chriw o Gymry yn gynnar yn yr 80au.
'A Chymru'n fyw o hyd yn Esgair Llyn'
Mur olaf Esgair Llyn, cyn ei ddymchwel. Roedd Esgair Llyn yn furddun ar dir fferm Nant-y-fyda, Aberhosan, Machynlleth.
O'n i arfer mynd i Nant-y-Fyda ar fy ngwylia', ac ar dir Esgair Llyn oedd y caeau gwair a’r pridd a’r llefydd o’n i'n treulio lot o amser yn blant.
Does dim ar ôl o’r hen furddun erbyn hyn, ond mae hud y lle yn dal, a’r atgofion da yn llifo.
'Dwyt ti'm yn cofio Macsen, does neb yn ei nabod o'
Mae cofebau i’n hatgoffa o’n hanes yn bwysicach nag erioed.
Dyma Jill Evans a fi yn ystod cyfarfod i gofio llosgi’r Ysgol Fomio ym Mhenyberth.
Ymweliad â Bosnia
Am gyfnod, roeddwn yn llysgennad i UNICEF.
Fe dynnwyd y llun hwn wrth inni ymweld â llety-dros-dro i ffoaduriaid o Bosnia adeg y rhyfel ar droad y ganrif.
'Mae hiraeth yn fy nghalon'
Y capel oedd ein ysgol ganu, darllen a pherfformio, a dyma ni, drama’r geni Gibea, Brynaman, tua 1948.
Yn Brynaman o’n i tan o’n i’n ddeuddeg oed, cyn i ni symud i Lanuwchllyn.
Fi yw’r trydydd o’r dde yn y rhes flaen, a Huw yw’r pumed o’r dde; mae Arthur ym mreichiau ei dad yn y cefn (chwith).
Trist yw gweld y capeli hyn yn cau y dyddiau hyn heb i neb godi llais mewn protest.
Hefyd o ddiddordeb:
Pynciau cysylltiedig
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2022
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2023