'Llusgo traed' Cymraeg ail iaith yn 'amddifadu' plant
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o lusgo'u traed wrth newid y ffordd y mae'r iaith Gymraeg yn cael ei dysgu yng Nghymru.
Ddegawd yn ôl cafodd adroddiad Un Iaith i Bawb ei gyhoeddi, oedd yn rhybuddio bod angen newid cyfeiriad "ar frys" er mwyn atal dirywiad y Gymraeg fel ail iaith.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae'r llywodraeth wedi methu gweithredu ar argymhelliad yr adroddiad i ddileu Cymraeg ail iaith fel pwnc a chreu un llwybr dysgu Cymraeg yn ei le.
Yn ôl eu hymchwil mae 142,351 o blant wedi cael gradd TGAU Cymraeg Ail Iaith ers cyhoeddi'r adroddiad, ac o ganlyniad "wedi'u hamddifadu o'r cyfle i ddysgu Cymraeg yn hyderus", medd y gymdeithas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y cwricwlwm yn "adlewyrchu argymhellion yr adolygiad Un Iaith i Bawb".
'Ail-frandio yn hytrach na newid'
Bu Mabli Siriol Jones, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith yn siarad am y mater ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru.
Dywedodd: "Mae'n ddegawd ers cyhoeddi adroddiad Un Iaith i Bawb.
"Roedd yr adroddiad hynny'n dweud ar y pryd ei bod hi'n unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith ac yn dangos yr holl resymau pam fod dysgu Cymraeg fel ail iaith wedi methu yn ein hysgolion.
"Y broblem yw dy' ni nawr, degawd yn ddiweddarach, heb really gweld y cynnydd sydd ei angen i gael gwared ar Gymraeg ail iaith a sefydlu un llwybr dysgu ac un cymhwyster i bawb."
Ychwanegodd: "Mae'n saith mlynedd ers i'r llywodraeth ddweud eu bod nhw'n mynd i roi diwedd ar Gymraeg ail iaith erbyn 2021 a'r gwirionedd yw yr hyn da ni 'di gweld yw ail-frandio yn hytrach na newid go iawn yn y ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei ddysgu i'n pobl ifanc ni.
Roedd Ms Jones yn derbyn bod diffyg adnoddau ac arian yn gwneud y newidiadau yma'n anoddach.
"Mae'n amlwg fod y sefyllfa o ran y gweithlu addysg Cymraeg yn ddifrifol ar hyn o bryd, 'da ni'n cydnabod hynny," meddai.
"'Da ni'n falch o weld bod y bil addysg Gymraeg mae'r llywodraeth yn mynd i gyhoeddi yn y flwyddyn nesa' yn cynnwys cynlluniau i gael targedau o ran y gweithlu ond mae'n rhaid i'r targedau yna fod yn rhai uchelgeisiol a ma' rhaid i nhw fod yn rhai statudol."
Yn ôl Ms Jones mae cael y cyfle i ddysgu Cymraeg yn rhugl yn hawl i bob plentyn yng Nghymru.
Dywedodd: "Dwi'n credu be' sy'n bwysig yw bod ni wastad yn cychwyn o bersbectif y plentyn a'r cyfleoedd mae plant yn gallu cael wrth i nhw dyfu lan os ydyn nhw yn dysgu Cymraeg.
"Bydd plant sy'n cael addysg Gymraeg sy'n dysgu'r Gymraeg go iawn yn ein hysgolion, dy' nhw ddim yn mynd i golli mas, ma' nhw ond yn mynd i ennill a chael yr holl brofiadau diwylliannol, yr holl gyfleoedd eraill sy'n dod gyda hynny.
"Dwi'n gwybod o ardal fi mae nifer o rieni di-Gymraeg sydd eisiau i'w plant ddysgu Cymraeg yn y system addysg, sydd ddim yn cael y cyfle achos does dim digon o lefydd yn ein hysgolion Cymraeg ni."
Ychwanegodd: "'Da ni gyd wedi clywed gymaint o oedolion sy' 'di bod trwy'r system Cymraeg ail iaith yn difaru bod nhw heb gael y cyfle i ddysgu Cymraeg go iawn yn dweud 'I wish i spoke Welsh, but I never got the opportunity to learn.'
"Dyna beth sydd angen newid ac mae rhaid i ni ddechrau o'r pwynt o gydnabod bod cael y Gymraeg yn rhodd ac mae e'n hawl i bob un plentyn yn y wlad yma."
'Adlewyrchu argymhellion yr adolygiad'
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn seiliedig ar 'gontinwwm dysgu', fel bod dysgwyr sy'n dechrau gydag ychydig neu ddim sgiliau Cymraeg yn datblygu tuag at ddod yn siaradwyr hyderus.
"Mae hyn yn adlewyrchu argymhellion yr adolygiad Un Iaith i Bawb i gael un continwwm dysgu i'r Gymraeg gyda disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy'n dysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, dwyieithog a chyfrwng Cymraeg.
"Rhwng mis Mawrth a mis Mehefin eleni, fe wnaethom ymgynghori ar gynigion a fydd yn sail i Fil Addysg Gymraeg.
Bydd y Bil yn cymryd camau i alluogi holl ddisgyblion Cymru i ddod yn siaradwyr Cymraeg hyderus drwy'r system addysg statudol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018
- Cyhoeddwyd27 Medi 2013