Ateb y Galw: Lewis Owen
- Cyhoeddwyd
Lewis Owen, y canwr a'r dylanwadwr TikTok o Ferthyr Tudful, sy'n cael ei adnabod fel Bendigaydfran sy'n Ateb y Galw wedi iddo gael ei enwebu gan Efa Lois.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Ymweld â gweithle mam a bod yn y pram gyda fy mrawd - rwy'n gallu cofio'r carpedi glas 90au a hyd yn oed y fenyw tu ôl i'r dderbynfa gyda gwallt cyrliog coch!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Merthyr Tudful. Cefais fy magu ym Merthyr, ac rwy'n caru'r dre cymaint. Mae'r dre wedi cael ei thrin yn annheg iawn dros y blynyddoedd, yn enwedig yn y wasg ac ati. Ond mae'n dre gyda chymaint o hanes a diwylliant unigryw a diddorol, ac mae'r bobl mor gyfeillgar gydag ymdeimlad o gymuned sy'n twymo'r galon.
Mae'r hanes yn anhygoel, ac yn mynd yr holl ffordd nôl i oes y Celtiaid. Ac hefyd y tirwedd, mae cymaint o wyrddni a golygfeydd gwych o gwmpas yr ardal.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Eleni es i i Lerpwl ar gyfer Eurovision a roedd y profiad yn un hollol anhygoel. Rydw i wedi caru Eurovision ers fod yn blentyn bach, a fy mreuddwydd ers hynny oedd gallu mynd rhywbryd. Felly roedd bod yna fel breuddwyd! Rwy'n gobeithio mynd i Sweden flwyddyn nesa i geisio ail-fyw'r holl beth eto!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Hwyl, cyfeillgar, cerddorol.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Pan oedd fy nghi yn gi bach roeddwn i yn y parc yn Y Fenni, ac ar y pryd yng nghanol trio cael hi i ddysgu sut i fod off y tennyn. Roedd teulu yn cael picnic bach neis yn y pellter a wnaeth Molly sprintio draw atyn nhw, gyda fy rhieni yn sgrechian ac yn rhedeg ar ei hôl ond cyrhaeddod Molly y picnic a dechrau bwyta'r bwyd. Roeddwn i'n crio chwerthin a methu gwneud dim i helpu.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Roeddwn i mewn archfarchnad unwaith ac yn cario cot dros fy mraich, ac wrth droi cornel wnaeth y cot dynnu ar un o'r silffoedd, a wnaeth tri silff gwympo'n llwyr. Yn anffodus wnes i ddim sylwi tan i'r holl beth ddigwydd ond roedd tri silff llawn o gondoms wedi cwympo'n llwyr gan arllwys cannoedd o gondoms ar draws y rhes.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Rwy'n crio lot - yn gwylio ffilmiau, teledu, gweld fideo am anifail ar TikTok, dyw e ddim yn cymryd llawer i fi ddechrau. Ond yn ddiweddar rydw i wedi bod yn ail-wylio fy hoff raglen sef Parks and Recreation a chriais i wrth wylio'r pennod ble mae Ben a Leslie yn priodi.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Rydw i methu coginio gyda phobl yn fy nghegin. Rwy'n caru coginio a choginio ar gyfer ffrindiau a theulu ond os mae rhywun yn trio dod i helpu rydw i angen anfon nhw i ffwrdd. Nid gweithgaredd grŵp yw coginio!
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Fy hoff ffilm yw La La Land oherwydd mae'r gerddoriaeth a'r sinematograffi mor berffaith gyda'i gilydd, mae'r holl ffilm yn teimlo fel rhywfath o freuddwyd.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Y Dywysoges Diana. Roedd ganddi fywyd mor ddiddorol a'r fenyw enwocaf yn y byd ar un adeg - mae cymaint o gwestiynau i'w gofyn! Ond hefyd achos ei holl waith elusennol a'r pethau arloesol wnaeth hi er lles bobl oedd yn byw gydag HIV/AIDS.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Fel plentyn roeddwn i'n chwarae criced. Y peth mwya doniol yw nawr dwi wedi anghofio popeth am sut i chwarae'r gêm yn llwyr.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Treulio fe gyda fy nheulu. Dyna'r unig beth fyddai'n bwysig i mi.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Mi gollais fy nghi, Molly, llynedd, a chefais hi pan oeddwn i'n 14 a thyfais i lan gyda hi. Dwi'n gweld ei eisiau hi o hyd a mae'r llun yma yn atgoffa fi am yr amseroedd hyfryd gyda hi.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Florence Welch. Fyswn i'n canu yn ddi-baid ac yn arnofio ar draws y lle yn gwisgo'i chasgliad o ffrogiau arallfydol fel tylwyth teg.