Pryder dros ddyfodol pysgota cwrwgl yn y gorllewin
- Cyhoeddwyd
Gall pysgota cwrwgl ddiflannu oherwydd llygredd afonydd meddai pysgotwyr lleol.
Mae'n draddodiad sy'n dyddio'n ôl am ganrifoedd yn y gorllewin, ond mae pysgotwyr cwrwgl yn honni y gall llygredd afonydd ei gwneud hi'n amhosib pysgota ar Afon Teifi ac Afon Tywi.
Mae Len Walters wedi bod yn pysgota ar Afon Teifi am dros 30 mlynedd.
"Mae'r afon wedi newid, mae'r afon yn frwnt," dywedodd. "Ti'n dod lawr ambell waith ac mae'n drewi."
Mae adroddiadau bod gwaelod Afon Teifi wedi'i orchuddio ag algâu o ganlyniad i lefelau ffosffad cynyddol.
Mae'r dull traddodiadol yma o bysgota yn digwydd yn y tywyllwch, fel arfer yn oriau mân y bore, fel na all pysgod weld y rhwydi pysgota.
Mae'n rhaid i bysgotwyr ddefnyddio'r rhwydi i deimlo'u ffordd ar hyd gwaelod yr afon.
Yn ôl Len Walters mae'r algâu ar waelod yr afon yn golygu does dim modd gwneud hyn bellach.
"Ar ôl deg munud ti methu teimlo dim byd achos mae'r rhwyd llawn chwyn," meddai.
"Mae'n pitch- black a mae'n rhaid i ti deimlo popeth. Mae'n fantastic method."
'Mae'n drewi'
Yn 2020 cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyfres o is-ddeddfau i ddiogelu pysgod fel eogiaid a sewin, sy'n golygu bod yn rhaid rhyddhau unrhyw eog sy'n cael ei ddal â rhwyd.
Mae trwyddedau pysgota rhwydi wedi cynyddu mewn pris dros y blynyddoedd ac mae'r tymor pysgota wedi ei ostwng i dri mis, o fis Mai i fis Gorffennaf.
Andrew Davies yw cadeirydd Cymdeithas Cwrwglwyr a Rhwydwr Caerfyrddin.
Mae'n honni bod cwrwglwyr yn cael eu targedu oherwydd prinder pysgod yn yr afon.
"'Dwi wedi bod yn pysgota am ddau neu dri o'r gloch y bore a mae swigod ar draws yr afon ac mae'n drewi fel detergent.
"Ac mae pobl yn crafu eu pennau pam nad oes pysgod yn yr afon. Dyw e ddim yn gwneud synnwyr i mi."
Eleni mae 10 trwydded i bysgota â rhwyd yn cael eu defnyddio ar Afon Teifi, a phum trwydded i bysgota â rhwyd ar Afon Tywi.
Yn ôl Len Walters dydy'r nifer o bobl sy'n pysgota ar afonydd Teifi a Thywi ddim yn ddigon i gael effaith ar lefelau'r pysgod.
"Dim ond cwpwl o fois pysgota y'n ni, a mae'r NRW [CNC] yn very powerful. Does dim lot o obaith gyda ni, sa i'n credu."
'Mae'n rhaid i ni fonitro'
Mae ymgyrch Achubwch y Teifi yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid CNC er mwyn gallu monitro afonydd yn amlach. Byddai hyn yn cynnwys gwirio lefelau ffosffad.
Wnaeth Christine Williams o Achubwch y Teifi ddechrau deiseb ar wefan y Senedd sydd bellach â bron i fil o lofnodion.
"Iddyn nhw [CNC] gael bod yn effeithiol mae'n rhaid bod nhw'n cael staff sy'n gallu 'neud y gwaith, ond nid jyst i fonitro," dywedodd.
"Allech chi bwyso mochyn am byth ond dyw hwnna ddim yn mynd i besgu fe. Mae'n rhaid i ni fonitro a gweithredu yn ôl y monitro."
Yn ôl Ms Williams byddai colli'r traddodiad o bysgota cwrwgl oherwydd lefelau llygredd yn golled mawr i'r ardal.
"Fi'n cytuno y dylen nhw cael y diwylliant yma i barhau - mae'n rhan o'n bywyd ni a brodwaith yr ardal."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid glanhau'r afon. Wedyn fe ddeith yr eogiaid nôl, wedyn fe ddeith y llyswennod nôl a phob math o bethau eraill."
'Llwyr gefnogi cymunedau yn nalgylch Teifi'
Mewn ymateb fe ddywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn rhannu pryderon y cyhoedd ehangach am gyflwr ein hafonydd ac rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i fynd i'r afael â'r hyn sy'n achosi ansawdd dŵr gwael, yn ogystal â heriau eraill gan gynnwys newid hinsawdd a rhywogaethau ymledol a all effeithio ar boblogaeth pysgod.
"Rydym eisoes yn gweithio mewn partneriaeth drwy Fyrddau Rheoli Maethynnau i fynd i'r afael â llygredd ffosffad a gweithio i gyflawni amcanion cadwraeth ein hafonydd ar gyfer y tymor hir.
"Mae ein timau lleol yn darparu gwasanaeth 24 awr y dydd ac yn ymchwilio i tua 100 o ddigwyddiadau amgylcheddol a adroddir i ni bob blwyddyn yn nalgylch Teifi yn amrywio o ollyngiadau slyri, difrod i gynefinoedd arbennig a rhyddhau carthion heb ganiatâd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn llwyr gefnogi cymunedau yn nalgylch Teifi ac ar draws Cymru yn eu galwadau i atal llygredd yn afonydd Cymru.
"Rydym wedi sicrhau bod cyllid sylweddol ar gael i wella ansawdd dŵr afonydd yng Nghymru. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd - y llywodraeth, rheoleiddwyr, datblygwyr, ffermwyr, cwmnïau dŵr a chymunedau - i leihau'r llygredd yn ein hafonydd.
"Dim ond drwy gydweithio y gallwn fynd i'r afael â'r risgiau a'r bygythiadau y mae ein hafonydd yn eu hwynebu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd9 Medi 2020