Darganfod cylch pysgota anghyfreithlon ar Afon Teifi

  • Cyhoeddwyd
Afon
Disgrifiad o’r llun,

Afon Teifi yn Llechryd

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud eu bod nhw wedi darganfod cylch pysgota anghyfreithlon ar Afon Teifi.

Mae dyn wedi ei arestio a saith warant wedi eu cyhoeddi i archwilio tai yn ardal Aberteifi. Yn ôl swyddogion, mae'r cylch i ddal eog a sewin ar lefel digynsail.

Daw hyn ar adeg pan fo niferoedd y pysgod mewn afonydd yng Nghymru wedi cwympo i lefelau argyfyngus o isel.

Cafwyd hyd i rwydi a nifer o bysgod wedi marw ar Afon Teifi gan yr heddlu yn ystod patrôl arferol o'r ardal nôl ym mis Mai eleni.

Wedi iddyn nhw holi nifer o unigolion lleol, cafodd dyn ei arestio mewn ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Esther Davies yn swyddog troseddau cefn gwlad gyda Heddlu Dyfed-Powys.

"Mae'n eithaf anarferol," meddai, "nid yw'n rhywbeth yr ydym yn dod ar ei draws yn aml ond mae'n gylch pysgota ar raddfa eang, ac rydym yn credu ei fod yn bodoli ers blynyddoedd.

"Mae nifer y pysgod yn yr afon yn disgyn ac mae'n rhaid cymryd camau ataliol yn erbyn pobl sydd yn pysgota'n anghyfreithlon i'w hatal rhag parhau a manteisio'n ariannol.

"Mae gennym nifer o bysgotwyr lleol a physgotwyr cwrwgl sydd yn berchen ar drwyddedau, maen nhw'n ei wneud yn gyfreithlon, ond yn anffodus mae pobl sydd yn pysgota'n anghyfreithlon ac os ydym yn derbyn tystiolaeth fe fyddwn wastad yn ymchwilio'r digwyddiadau hyn."

"Hynod o rwystredig"

Yn 79 cilomedr o hyd, mae Afon Teifi yn un o'r afonydd hiraf yng Nghymru. Mae wedi ei dynodi'n ardal o gadwraeth arbennig oherwydd presenoldeb pysgod fel eog a sewin.

Ond mae niferoedd y pysgod wedi cwympo'n sylweddol dros y ddegawd ddiwethaf ac yn ôl arbenigwyr, mae wedi cyrraedd sefyllfa argyfyngus.

Disgrifiad o’r llun,

Harriet Alvis o Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru

Mae Harriet Alvis yn swyddog prosiect gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru.

"Mae'n hynod o rwystredig achos mae'n hawdd meddwl os byddai rhywun yn dal chwe physgodyn yn y nos - dim ond chwe physgodyn yw hynny," meddai.

"Ond mae gan y pysgod hynny rhwng cannoedd a degau o filoedd o wyau yn bob un... rydych yn sôn am ergyd anferth i'r boblogaeth bysgod mewn amser lle mae ffactorau fel llygredd trefol a chefn gwlad, erydiad cynefin. Felly mae unrhyw ergyd arall yn anferth yn enwedig yn y cyfnod hwn.

"Rydym wedi cyrraedd lefelau critigol ac os nad ydym yn gwneud rhywbeth nawr fe fyddwn yn cyrraedd sefyllfa lle na fyd digon o bysgod i fagu."

Targedu

Mae toriadau i gyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi arwain at gyflogi llai o beiliaid afon, ond mae nhw'n mynnu nad yw hyn yn arwain at fwy o weithgaredd anghyfreithlon ar yr afonydd.

Mae David Lee yn arweinydd tîm amgylcheddol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. Dywedodd: "Rydym wedi cymryd agwedd o dargedu o ran gorfodaeth - fe fydd na gyfnodau pan fydd yr elfennau troseddol yn cael rhwydd hynt i wneud pethau.

"Rydym yn dibynnu'n fawr ar gymorth y cyhoedd yn yr achos yma, rydym yn dibynnu ar gydweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a lluoedd eraill yng Nghymru i rannu gwybodaeth ac i ymestyn ein adnoddau i dargedu troseddwyr."

Mae'r ymchwiliad i bysgota anghyfreithlon ar Afon Teifi yn parhau.