Llywodraeth Cymru: Dim disgwyl tro pedol ar 20mya
- Cyhoeddwyd

Cymru yw gwlad gyntaf y DU i osod y terfyn cyflymdra ar ffyrdd cyfyngedig, er mae gan gynghorau sir hawl i eithrio rhai ble mae 30mya yn fwy priodol.
Dyw hi ddim yn edrych yn debygol y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud tro pedol ar y polisi o gyfyngiadau cyflymder o 20mya, er gwaethaf disgwyl i Brif Weinidog gyflwyno mesur yn rhwystro cynghorau yn Lloegr rhag dilyn trywydd debyg.
Yn ôl adroddiadau mae Rishi Sunak yn bwriadu cyfyngu ar bwerau awdurdodau lleol i osod parthau 20mya newydd a'r nifer yr oriau yn y dydd y mae ceir yn cael eu gwahardd o lonydd bysiau.
Fe all y cyhoeddiad disgwyliedig, a adroddwyd gyntaf gan bapur newydd The Guardian, hefyd gynnwys cynigion i gyfyngu ar allu cynghorau yn Lloegr i ddefnyddio camerâu adnabod platiau rhif i ddirwyo modurwyr am droseddau traffig.
Wrth siarad ar y raglen Today ar BBC Radio 4, fe groesawyd yr adroddiadau gan yr AS Ceidwadol, Anthony Browne.
Dywedodd Mr Browne bod achos dros arafu traffig mewn rhai lleoliadau, megis y tu allan i ysgolion, ond dywedodd fod y sefyllfa yng Nghymru - lle mae cyfyngiadau cyflymder wedi'u gostwng o 30mya i 20mya mewn ardaloedd adeiledig - yn "cosbi" modurwyr.

Yn ôl adroddiadau mae Rishi Sunak yn bwriadu cyfyngu ar bwerau awdurdodau lleol yn Lloegr i osod parthau 20mya newydd
Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r terfyn cyflymder "wedi'i gynllunio i achub bywydau a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel i bawb, gan gynnwys modurwyr".
Ychwanegodd llefarydd: "Mae hyn wedi cael ei ymchwilio'n drylwyr, ei drafod, ac mae pleidlais wedi bod ar y mater sawl gwaith yn y Senedd ers cael ei gyflwyno gan nifer o Aelodau'r Cynulliad yn 2018, gan gynnwys aelodau Ceidwadol.
"Bu ymgynghori helaeth ac mae wedi'i dreialu mewn cymunedau ledled Cymru."

Dadansoddiad Cemlyn Davies, Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
Mae'n werth nodi, oherwydd mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw trafnidiaeth yng Nghymru, mai dim ond yn Lloegr y byddai unrhyw bolisïau gan Mr Sunak i geisio plesio gyrwyr yn berthnasol.
Dyw penderfyniad Rishi Sunak i fabwysiadu'r strategaeth ddim yn syndod - ers tro mae ASau Ceidwadol wedi bod yn cyhuddo llywodraeth Lafur Cymru o "ryfel yn erbyn modurwyr".
Maen nhw'n tynnu sylw nid yn unig at y polisi 20mya, ond hefyd at bolisi llym adeiladu ffyrdd Llywodraeth Cymru - eu penderfyniad i gael gwared ar ffordd liniaru'r M4 a'r posibilrwydd bod yn rhaid i rai gyrwyr dalu tâl i ddefnyddio rhannau o rai ffyrdd Cymreig yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod eu polisïau wedi'u hanelu at dorri llygredd, ac achub bywydau - ac y byddai'n anghywir awgrymu nad oes cefnogaeth iddyn nhw.

Cafodd y newid i derfynau cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig ei gyflwyno ar 17 Medi
Ond mae'r Ceidwadwyr wedi gweld cyfle i fframio eu hunain fel y blaid sydd ar ochr y gyrwyr.
O fewn munudau i'w cynnig diffyg hyder yn y gweinidog trafnidiaeth gael ei drechu'n hawdd ddydd Mercher, fe ryddhaodd y Ceidwadwyr Cymreig ddatganiad i'r wasg yn honni mai dim ond nhw fydd yn "parhau i ddwyn y llywodraeth Lafur i gyfrif, tra'n sefyll dros fodurwyr".
Mae Llafur hefyd yn cydnabod y gallai hyn achosi problemau iddyn nhw ac mewn ymateb i'r polisi 20mya, dywedodd un AS Llafur wrthym: "Roedd y Torïaid yn boddi ac rydyn ni wedi rhoi achubiaeth iddyn nhw".
Cyn Etholiad Cyffredinol 2015, cyflwr y GIG yng Nghymru oedd arf ymosod y Ceidwadwyr ar Lafur, gyda'r Prif Weinidog ar y pryd David Cameron yn disgrifio Clawdd Offa fel y " ffin rhwng byw a marw".
Mae'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr yn ei gwneud hi'n anodd i Mr Sunak arfogi'r ddadl iechyd ar hyn o bryd.
Ac felly, pan ddaw'n fater o ymosod ar record Llafur yng Nghymru, mae'n ymddangos ei fod wedi penderfynu dweud yr hyn y mae'n gredu y mae gyrwyr am ei glywed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2023
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023