Gêm olaf y tymor yn gyfartal i Forgannwg
- Cyhoeddwyd

Fe orffennodd gêm olaf Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn gyfartal yng Ngerddi Soffia.
Ar ddiwrnod olaf y chwarae, fe gyrhaeddodd Sir Derby 234-2 cyn rhoi Morgannwg i mewn i fatio gyda tharged o 384 i ennill.
Roedd y targed uchel yn ormod i'r tîm cartref, a orffennodd y chwarae ar 135-6.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg wedi gorffen yn y pumed safle yn Ail Adran Pencampwriaeth y Siroedd.