Y Bencampwriaeth: Millwall 0-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
ataweFfynhonnell y llun, Getty Images

Hon oedd buddugoliaeth oddi cartref gyntaf Abertawe y tymor hwn.

Yr ymwelwyr ddechreuodd gryfaf gan gadw'r meddiant, ond Millwall oedd yn dangos y bygythiad mwyaf wrth ymosod gyda Zian Flemming a Kevin Nisbet yn dod yn agos.

Aeth yr Elyrch ar y blaen ar ôl i Jamal Lowe sgorio o'r smotyn wedi i Jess Yates gael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Jake Cooper.

Ychwanegodd Matt Grimes yr ail ar ôl 57 o funudau gydag ergyd o 25 llath lithrodd dan gorff Białkowski yn y gôl.

Gorffennodd Abertawe berfformiad disglair wedi i ddau o wynebau newydd yr Elyrch gyfuno. Fe groesodd Josh Key ac yno yn y cwrt yn disgwyl y bêl roedd Mykola Kuharevich i benio ei gôl gyntaf i'r Elyrch.

Mae'r Elyrch erbyn hyn yn 19eg yn y tabl.