Ceidwadwyr: Terfyn 20mya Cymru yn 'ideoleg eithafol'
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gael eu hysgogi gan "ideoleg eithafol".
Mewn araith yng nghynhadledd flynyddol y Ceidwadwyr ym Manceinion fe feirniadodd Andrew RT Davies weinidogion Llafur am gyflwyno cyfyngiadau gyrru 20mya yng Nghymru, gan eu cyhuddo o wrthod gwrando ar wrthwynebwyr.
Yn ei anerchiad yntau i'r gynhadledd, fe alwodd Ysgrifennydd Cymru David TC Davies ar y lywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd i roi diwedd ar "ei chyfyngiad cyflymder abswrd... ar ffyrdd Cymru".
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu nad ydy'r terfyn newydd yn gyfyngiad "cyffredinol".
Dywedodd Andrew RT Davies: "Mae bron i hanner miliwn o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw ar y Llywodraeth i gael gwared a'r cyfyngiadau gyrru cyffredinol o 20mya, ond wnaiff Mark Drakeford ddim gwrando."
Fe farnodd yr is-weinidog Lee Waters hefyd am gyflwyno'r mesur, gan ddweud bod AS Cymru Llanelli wedi diystyru barn pobl Cymru arwyddodd y ddeiseb.
Ychwanegodd bod Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak a'r Ceidwadwyr yn cynnig "synnwyr cyffredin" io ran delio gyda chyfyngiadau gyrru.
"Fedr y cyferbyniad gyda Llywodraeth Cymru, yr unig ran o'r DU ble mae Llafur mewn grym, ddim bod yn gliriach," meddai.
"Yn hytrach na defnyddio synnwyr cyffredin i ymateb i'r sefyllfa, maen nhw wedi eu hysgogi gan ideoleg eithafol."
'Dewis camarwain'
Yn gynharach ddydd Sul, fe wnaeth Mr Sunak hefyd ddisgrifio'r cyfyngiadau newydd yng Nghymru fel rhai cyffredinol.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru bod ei sylwadau'n gamarweiniol.
"Mae'n siomedig eithriadol bod y prif weinidog, boed yn ddiofal neu'n fwriadol, yn dewis camarwain pobl ynghylch cyflwyno'r drefn 20mya," dywedodd llefarydd.
"Does dim newid ar gyfyngiadau cyflymder nifer fawr o ffyrdd."
Yn ei araith yntau i'r gynhadledd fe alwodd Ysgrifennydd Cymru ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol i fwrdd iechyd mwyaf Cymru.
Dywedodd David TC Davies bod angen "datgelu methiannau drastig lu" o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n gwasanaethu'r gogledd.
"Mae'n hollol hanfodol i adfer hyder ym myrddau iechyd Cymryu," dywedodd.
Yn fwy cyffredinol, fe ychwanegodd: "Gyda 27,000 o bobl ar hyn o bryd ar restr aros am fwy na dwy flynedd, mae angen i Lafur ganolbwyntio mwy o'u hadnoddau ar fynd i'r afael â'r pentyrru yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2023
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023