Ateb y Galw: Neil Roberts

  • Cyhoeddwyd
neilFfynhonnell y llun, Neil Roberts

Neil Roberts, sylfaenydd clwb tenis LHDTC+ cyntaf Cymru, sef Baseliners Caerdydd, sy'n Ateb y Galw wedi iddo gael ei enwebu gan Lewis Owen yr wythnos ddiwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Wrth feddwl yn galed am hyn, yr un sy'n dod yn syth yw chwarae yn fy 'stafell fyw fel plentyn bach yn chwarae sacsoffon oedd yn chwythu allan bybls, a fy Nain Ffôr yna efo'i gwallt cyrliog brown yn trio atal y bybls rhag disgyn ar ei phen. Wrth gofio rŵan fel oedolyn, dwi'n siŵr oedd hyn oherwydd y 'perm' gafodd hi'r diwrnod cynt!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fel hogyn o Ben Llŷn, gennai lwyth o lefydd 'swn i'n gallu dewis ond yn sicr fy hoff le yw tre Solomon Andrews, a fy nhre innau, Pwllheli. Ges i fy magu ger y môr a hyd yn hyn does unrhyw beth gwell na cherdded ar hyd y traeth, sŵn y tonnau yn syrthio a chymryd i mewn yr holl olygfeydd tuag at Feirionnydd ac Eryri.

Dwi'n hoff iawn hefyd yn gweld yr holl lefydd o gwmpas y dre sy' dal efo ni. Wrth gwrs mae 'na newidiadau mawr hefyd wedi digwydd ers y 90au, ond mae 'na rywbeth mor timeless am y dre. Pen Llŷn yn sicr yw ardal gorau'r Gogs o bell ffordd! (Sori Arfon).

Ffynhonnell y llun, Neil Roberts
Disgrifiad o’r llun,

'Ges i fy magu ger y môr'

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Y noson orau dwi erioed wedi ei chael yw noson allan ar fy mhen-blwydd i flwyddyn ddwytha'. Nathon ni gyd wisgo fyny fel cymeriadau teledu a ffilm a mynd allan i Gaerdydd. Gwisgais i i fyny fel prifathrawes Matilda, Miss Trunchbull. Oedd gennyn ni hefyd gymeriadau fel Pinocchio, Shrek a Kat Slater ymysg y grŵp. Oedd o'n noson anhygoel o ddoniol ac mi wna i ei chofio hi am hyd fy oes.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Meddylgar, cystadleuol a gwirion.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Un digwyddiad sy'n neud imi wenu pan dwi'n meddwl nôl yw pryd o'n i'n cerdded o'r ysgol unwaith trwy'r dre ym Mhwllheli gyda fy ffrindiau. Oedd yna wynt cryf iawn y diwrnod hwnnw, roedd hi'n bwrw eira a roedd o'n chwythu i mewn i'n hwynebau ni.

Dwi'n cofio fi a fy ffrindiau yn trio siarad gyda'n gilydd ond yn cael llond ceg o eira bob tro oeddan ni'n trio siarad a 'nath hyn neud i ni chwerthin. Nathon ni gyrraedd dre dros hanner awr yn hwyrach nac arfer, pocedi llawn eira a sanau gwlyb. Rhywbeth eitha' diniwed a gwirion ond dwi'n cofio chwerthin gymaint yn trio cerdded trwy'r blizzard'ma.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Heblaw am alw rhai athrawon yn 'Mam' ar ddamwain pan o'n i'n yr ysgol, 'swn i'n deud yr amser sy'n codi'r mwya' o gywilydd arna i yw pryd o'n i ar drên llawn pobl o Gaerdydd i Fangor ac o'n i angen mynd i'r lle chwech. Wnes i bwyso'r botwm sy'n agor drws y toiled ac wrth edrych i fyny sylwais fod dyn dal tu mewn heb gloi'r drws. Un o'r toiledau mawr yna oedd o gyda drysau llydan - cymerodd lawer rhy hir i'r drws gau yn ôl! O'n i'n teimlo mor ddrwg drosto fo!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n berson sy'n eitha' cyfforddus efo emosiwn ond y tro dwytha' dwi'n sicr nes i grio oedd gweld y fideo ar gyfer Wish You The Best gan Lewis Capaldi. Mae'n dangos stori o ffyddlondeb rhwng dyn a'i gi, a sut wrth i'r ddau farw o hen oed, maen nhw'n ailymuno efo'i gilydd yn y bywyd nesa'. Dwi'n teimlo mai ci yw'r ffrind gorau fedar unrhyw berson ei gael!

Ffynhonnell y llun, Neil Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Neil gyda'i deulu ar ei ddiwrnod graddio

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Fel unrhyw un, oes. Dwi'n berson taclus iawn ac felly dwi'n dueddol o dacluso ar ôl pobl heb eu caniatâd nhw, sy'n gallu bod yn annifyr - yn enwedig i fy mhartner i!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Fy hoff bodlediad ar y funud yw The rest is politics. Mae'n rhoi sylw arbennig ar wleidyddiaeth y DU, wrth drio hefyd egluro be sy'n digwydd o gwmpas y byd, sy'n tueddu i fod ar goll ar y teledu ac mewn papurau.

O'n i'n falch hefyd yn ddiweddar bod nhw wedi dysgu pobl am Yr Hen Ogledd a dylanwadau Cymreig ar hyd gwledydd ynysoedd Prydain. Hanes Cymraeg yw hanes Prydeinig wedi'r cyfan!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

'Swn i'n cael diod efo Carrie Fisher. Dwi'n caru Star Wars a dwi'n meddwl bysa hi wedi bod yn berson hwyliog i dreulio amser gyda hi. Roedd hi wastad yn deud be' oedd ar ei meddwl hi a dwi'n licio hynna mewn pobl.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Pan oni'n blentyn o'n i'n chwarae'r trwmped. Dwi'n difaru rŵan mod i wedi stopio, ond dwi'm yn meddwl o'n i'n dda iawn i ddweud y gwir!

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

'Swn i'n gwylio fy hoff gêm o denis erioed (Nadal v Federer Wimbledon 2008), bwyta fy hoff fwyd mae Mam wedi ei goginio, a gwario'r dydd efo fy nheulu, ci, ffrindiau gorau wrth ymyl y môr yn siarad am ein hoff atgofion ni.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun o fy mhartner i, Joe, gyda fy nghi, Kylo. Heblaw am fy rhieni i a fy mrawd a chwaer sy'n byw i ffwrdd, Joe a Kylo yw fy nheulu i yma yng Nghaerdydd, sy'n helpu fi trwy bob dim.

Ffynhonnell y llun, Neil Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Joe, partner Neil, gyda'u ci, Kylo

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

'Swn i'n licio bod yn Brif Weinidog Cymru. Dwi'n berson sy'n hoff iawn o wleidyddiaeth ac yn angerddol dros Gymru. Hefyd fysa' cael y pwerau i newid pethau i drio gwella bywydau pobl yn rhywbeth 'swni'n fwynhau.

Hefyd o ddiddordeb: