Joseff Gnagbo: 'Pwysig bod y Gymraeg ar gael i bawb'
- Cyhoeddwyd
Dywed cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith, Joseff Gnagbo, ei bod hi'n holl bwysig fod pobl o bob cefndir yn cael mynediad at y Gymraeg.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Mr Gnagbo - a wnaeth ffoi i Gymru o'r Arfordir Ifori yng ngorllewin Affrica - ei fod yn hynod o falch gael ei "benodi yn gadeirydd ar fudiad sydd wedi fy helpu gymaint".
"Mae'r croeso yma yng Nghymru wedi bod yn anhygoel," meddai.
"Rwy'n falch fy mod wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg yn fuan wedi i mi gael lloches yma. Roedd hynny yn bwysig i mi.
"Yn ffodus mi ydw i'n ieithydd ac yn siarad sawl iaith - a doedd gramadeg y Gymraeg ddim yn rhy anodd na'r treigladau chwaith."
Dywed fod cael bod yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn anrhydedd fawr.
"Dwi'n gobeithio dod â bywyd, egni ac efallai dimensiwn newydd i weithgareddau'r gymdeithas gan gysylltu yn gyntaf â'r cymunedau Cymraeg.
"Nhw yw asgwrn y cefn yr iaith, ond yna rhaid sicrhau bod y Gymraeg ar gael i bawb er mwyn sicrhau ei dyfodol."
Ers sawl blwyddyn mae Joseff Gnagbo, 49, wedi bod yn weithgar gyda Chymdeithas yr Iaith, a chyn ei benodi'n gadeirydd yn y cyfarfod cyffredinol yng Nghaernarfon dros y penwythnos, ef oedd swyddog rhyngwladol y mudiad.
Ers symud i Gymru yn 2018 dywed ei fod wedi "cofleidio'r Gymraeg".
Cyn Covid roedd yn rhoi gwersi Cymraeg i geiswyr lloches ac mae hefyd wedi bod yn dysgu Cymraeg mewn ysgolion yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd, a'i fwriad yw ailddechrau rhoi gwersi i geiswyr lloches yn fuan.
Dywed fod Cymdeithas yr Iaith wedi bod o gymorth mawr iddo i "fyw fy mywyd a chymdeithasu yn Gymraeg".
"Dwi'n hoff iawn o agwedd Cymru at ddysgwyr - mae'n agwedd bositif iawn," meddai.
"Dwi ddim yn teimlo bod yn rhaid bod yn gwbl gywir - pan fues i yn Yr Alban yn ddiweddar roeddwn yn meddwl bod yr agwedd yn wahanol a bod yn rhaid siarad i safon uchel os am gael eich derbyn fel siaradwr [Gaeleg yr Alban].
"Rwy'n hoff iawn o sain y Gymraeg - ac un o fy hoff eiriau yw 'gwdihŵ'!"
'Gadael y teulu ar ôl'
Yn 2010 roedd yr Arfordir Ifori yn wlad yng nghanol chwyldro milwrol.
Roedd dinas fwyaf y wlad, Abidjan, dan warchae ac roedd Joseff Gnagbo yn un o'r dinasyddion a oedd yn gwrthwynebu'r llywodraeth newydd.
Fe recordiodd gân rap yn galw ar ei gydwladwyr i wrthsefyll y chwyldro, ond yn fuan fe ddaeth yn darged y milwyr arfog a bu'n rhaid iddo ffoi i Foroco gan adael ei deulu ar ôl.
Ceisiodd am loches ym Mhrydain yn 2017 gan fod Moroco a'r Arfordir Ifori yn agosáu yn wleidyddol, a bellach mae e wedi bod yng Nghymru am dros bum mlynedd.
Ers 2021 mae ei ddau blentyn yn byw yng Nghaerdydd ac yn mynd i ysgolion Cymraeg yn y brifddinas.
"Mae'n braf cael y plant yma o'r diwedd ond dwi ddim wedi gweld rhai o fy nheulu ers 2017 - ni'n cysylltu drwy WhatsApp."
Dywed ei fod yn teimlo'n rhan o deulu'r Gymraeg a theulu Cymdeithas yr Iaith, a'i fod yn edrych ymlaen at arwain a bod yn rhan o dîm gweithgar a phrofiadol.
"Mae gwaith y gymdeithas, o'r ymgyrch dros ein cymunedau i'r ymgyrch dros ddatganoli pwerau darlledu, yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ddyfodol y Gymraeg," meddai.
"Fel rhywun sy'n dysgu Cymraeg i bobl yn ardaloedd Caerdydd a Chasnewydd, rwy'n teimlo'n gryf y dylai pawb o bob cefndir gael mynediad at y Gymraeg.
"Mae'r gymdeithas yn cynnig ateb pwysig yn hynny o beth yn ei hymgyrch dros addysg Gymraeg i bawb.
"Yn dilyn y papur gwyn diweddar, mae'n hanfodol felly bod y llywodraeth yn mynd ati i gryfhau'r Ddeddf Addysg Gymraeg arfaethedig gyda tharged o addysg Gymraeg i bawb, er mwyn sicrhau yn y dyfodol y bydd pob person ifanc yn gadael yr ysgol yn hyderus yn y Gymraeg."
Mae hefyd yn dweud ei fod yn hynod falch bod Cymru yn genedl noddfa, ac yn dweud bod darparu gwersi Cymraeg ar gyfer ffoaduriaid yn "hynod bwysig".
"Dwi'n edrych ymlaen i gydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol y Gymraeg," meddai.
"Yr hyn sy'n hynod bwysig yn fy marn i yw bod gwersi Cymraeg yn cael eu rhoi am ddim i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ledled Cymru.
"Yn aml y farn yw bod angen iddyn nhw ddysgu Saesneg yn unig wedi cyrraedd yma - ond mae'n bwysig iawn fod pobl fel fi yn cael y cyfle i ddysgu Cymraeg hefyd er mwyn cael bywyd cyflawn yma.
"Wrth gwrs ein bod yn gallu ymdopi â dysgu mwy nag un iaith - mae nifer ohonom wedi dysgu sawl iaith yn barod ac mae'n bwysig iawn i ni allu siarad yr iaith frodorol.
"Rhaid i bawb gael mynediad at y Gymraeg er mwyn sicrhau dyfodol yr iaith."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2019