Gwobr Gerddoriaeth 2023 i Rogue Jones a Dafydd Iwan

  • Cyhoeddwyd
Gwobr Gerddoriaeth GymreigFfynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

Rogue Jones sydd wedi cipio'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar gyfer 2023 ac enillwyd y wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig gan Dafydd Iwan.

Mewn seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm fe gyhoeddwyd mai'r ddeuawd o Gwm Gwendraeth yw enillwyr y brif wobr eleni am eu halbwm, Dos Bebés.

Roeddynt yn fuddugol o blith 15 o artistiaid oedd wedi cyrraedd y rhestr fer.

Mae Rogue Jones - sef Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan - yn perfformio'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae'r wobr - sy'n cynnwys tlws a gwobr ariannol o £10,000 - yn agored i albymau o bob math ac mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys Kelly Lee Owens, Boy Azooga, Deyah, Gruff Rhys, a Gwenno.

Ffynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Rogue Jones, sef Bethan Mai ac Ynyr Morgan Ifan

Fe ddywedodd Bethan Mai wrth BBC Radio Wales: "Mae'n hollol wefreiddiol, mae'n meddwl y byd ac ni allai ei roi mewn geiriau i ddweud y gwir.

"Wrth eistedd yma heno, gweld y rhestr fer a gweld y lleill yn perfformio, rydym yn teimlo'n wirioneddol ostyngedig.

"Mae'r arian yma yn golygu y bydd pethau'n haws gyda'r teulu... fel y mae pawb yn gwybod, nid gwneud bywoliaeth fel artist yn yr hinsawdd hon yw'r peth hawsaf, yn enwedig pan fod gennych deulu ifanc.

"Bydd yr arian hwn yn golygu y gallwn barhau i wneud yr hyn yr ydym yn ei garu."

Fe ychwanegodd Ynyr, "Rydym wrth ein boddau bod pobl wedi gwrando arnom ac wedi mwynhau, ac mae ennill hwn heno yn anhygoel.

"Mae gennym ni deulu ifanc felly bydd yn rhaid gweithio o gwmpas hynny.

"Allwn ni ddim aros yn rhy hwyr gan fod rhaid cyrraedd Pen-bre bore fory yn gynnar i fynd â'n merch, Tanwen, i'r ysgol!"

Cafodd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ei sefydlu yn 2011 gan y cyflwynydd Huw Stephens a'r ymgynghorwr cerddoriaeth John Rostron, gyda phanel o farnwyr arbenigol o'r diwydiant yn dewis yr enillydd.

Ffynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Iwan: 'Os ydw i wir wedi bod yn ysbrydoliaeth i rywun, mae hynny ynddo'i hun yn wobr amhrisiadwy

Dafydd Iwan a dderbyniodd y wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig.

Mae'r enillwyr blaenorol yn cynnwys Meic Stevens, Meredydd Evans a Phylis Kinney, David R. Edwards a Pat Morgan [Datblygu] a Mike Peters [The Alarm].

Fe ddywedodd Dafydd Iwan: "Mae'n fraint fawr i mi gael derbyn y Wobr Ysbrydoliaeth eleni, a dwi'n gwerthfawrogi'r ffaith fod y trefnwyr wedi mynd y tu allan i'r maes arferol a chyflwyno'r wobr ar sail oes hir o berfformio!

"Os ydw i wir wedi bod yn ysbrydoliaeth i rywun, mae hynny ynddo'i hun yn wobr amhrisiadwy."

Ffynhonnell y llun, Gwobr Gerddoriaeth Gymreig

Y rhestr fer yn llawn

Cerys Hafana - Edyf

CVC - Get Real

Dafydd Owain - Uwch Dros Y Pysgod

H Hawkline - Milk For Flowers

Hyll - Sŵn O'r Stafell Arall

Ivan Moult - Songs From Severn Grove

John Cale - Mercy

Mace The Great - SplottWorld

Minas - All My Love Has Failed Me

Overmono - Good Lies

Rogue Jones - Dos Bebés

Sister Wives - Y Gawres

Stella Donnelly - Flood

Sŵnami - Sŵnamii

YNYS - Ynys

Pynciau cysylltiedig