Arwyddion dwyieithog yn 'beryglus', medd athro prifysgol

  • Cyhoeddwyd
Nigel HuntFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Nigel Hunt yn arbenigo mewn seicoleg, ac wedi cael ei wahodd i weithio dros dro ym Mhrifysgol Wrecsam

Mae prifysgol yn y gogledd wedi ymddiheuro ar ôl i ddarlithydd feirniadu defnydd o arwyddion ffordd dwyieithog, gan honni eu bod yn "aneglur" ac o bosib yn "beryglus".

Ond mae Dr Nigel Hunt wedi gwrthod ag ymddiheuro ei hun, gan ddweud fod y sylwadau yn "adlewyrchu fy nghredoau".

Mae Dr Hunt yn arbenigo mewn seicoleg, ac wedi cael ei wahodd i weithio dros dro ym Mhrifysgol Wrecsam.

Mewn grŵp ar wefan Facebook, fe rannodd Dr Hunt lun o arwydd ddwyieithog, gyda neges yn awgrymu bod y cynnwys yn ddryslyd ac y dylen nhw fod yn uniaith Saesneg.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod yn ymddiheuro am sylwadau Dr Hunt a'u bod yn ymchwilio i'r mater.

'Hen syniadau senoffobig, diog'

Yn ei neges mewn grŵp cyhoeddus ar y wefan, dywedodd Dr Hunt: "Mae arwyddion fel hyn yn cynnwys gwybodaeth sydd - i'r rhan fwyaf o bobl - yn gwbl annealladwy.

"Gallai arwyddion dwyieithog fel hyn fod yn beryglus gan ei bod hi'n cymryd hirach i bobl ddeall y cynnwys

"Gan nad yw'r mwyafrif o bobl yng Nghymru hyd yn oed yn deall yr arwyddion hyn... plîs defnyddiwch Saesneg yn unig."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service

Roedd ymateb chwyrn i'r neges ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda nifer yn cysylltu â'r brifysgol ynglŷn â'r mater.

Dywedodd un ymateb ar wefan X, neu Twitter gynt, fod agwedd Mr Hunt yn "warthus" ac yn "hynod siomedig", gan ychwanegu bod gan staff y brifysgol "ddyletswydd i barchu myfyrwyr Cymraeg".

Roedd neges arall ar y wefan yn dweud fod hyn yn "amlygu'r ffaith nad yw pob person addysgedig, sy'n arbenigo mewn un maes, yn wybodus am faterion mwy cyffredinol".

"Maen nhw hefyd yn gallu troi at yr un hen syniadau senoffobig, diog, neu rhai sydd ddim wedi eu gwreiddio mewn cynwysoldeb," meddai'r neges.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddisgrifiodd Dr Nigel Hunt arwyddion ffordd dwyieithog yn "beryglus" ac "aneglur"

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Wrecsam: "Yn gyntaf, hoffwn ymddiheuro i unrhyw un sydd wedi cael eu tramgwyddo gan y sylwadau hyn.

"Rydym yn awyddus i bwysleisio nad yw'r sylwadau hyn, mewn unrhyw ffordd, yn adlewyrchu barn na gwerthoedd ein prifysgol na'i staff.

"Rydym yn falch o fod yn sefydliad Cymreig, ac yn falch o'n hanes a'n treftadaeth yng Nghymru."

Ychwanegodd fod y brifysgol wedi ymrwymo i hybu a dathlu'r iaith Gymraeg a bod mwy o fyfyrwyr nag erioed yn cael cyfleoedd i astudio'n ddwyieithog.

'Dydw i ddim yn ymddiheuro'

Yn ei ymateb yntau, dywedodd Dr Hunt ei fod "eisiau ymddiheuro am y modd y daeth y sylwadau yma i'r amlwg, trwy dudalen Facebook".

"Dydw i ddim yn ymddiheuro am fy sylwadau, sy'n adlewyrchu fy nghredoau," meddai fel rhan o ddatganiad hir i'r wasg.

Ychwanegodd fod yr iaith Gymraeg yn "annhebygol o oroesi sawl cenhedlaeth arall heb gefnogaeth".

"Mae'r Gymraeg yn cael ei chefnogi'n gryf gan Lywodraeth Cymru ac eraill, ond hyd yn oed wedyn mae'n ymddangos nad oes ganddo gefnogaeth eang," meddai.

"Dydy hyn ddim i ddweud na ddylai pobl siarad Cymraeg. Gall pobl siarad beth maen nhw eisiau."

Ychwanegodd: "Tra 'mod i'n derbyn fod gan Brifysgol Wrecsam safbwynt ar yr iaith Gymraeg, mae'n allweddol fod aelodau'r brifysgol honno yn rhydd i fynegi barn sy'n mynd yn erbyn y safbwynt hwnnw."

Pynciau cysylltiedig