Newid enw Prifysgol Glyndŵr i Brifysgol Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Prifysgol Glyndwr WrecsamFfynhonnell y llun, Prifysgol Glyndwr Wrecsam

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi penderfynu newid ei henw'n swyddogol i Brifysgol Wrecsam o hyn ymlaen - yn rhannol oherwydd "proffil uwch" y ddinas erbyn hyn.

Yn dilyn ymgynghoriad dros yr haf y llynedd, mae uwch swyddogion y brifysgol bellach wedi cadarnhau'r bwriad i newid yr enw.

Fe wnaeth y brifysgol grybwyll y sylw o gwmpas Clwb Pêl-droed Wrecsam, a statws dinesig diweddar y ddinas, fel rhai o'r rhesymau dros newid.

Mae disgwyl i'r ailfrandio gael ei wneud yn swyddogol yn nes ymlaen eleni, ac i mewn i'r flwyddyn nesaf.

'Cyrraedd cynulleidfaoedd'

Roedd y brifysgol yn arfer cael ei hadnabod fel Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI), cyn iddi gael statws prifysgol llawn yn 2008.

Ers hynny mae hi wedi cael ei hadnabod fel Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, gyda'r enw'n deyrnged i'r tywysog Owain Glyndŵr, oedd â'i gartref yn Sycharth gerllaw, ac oedd wedi ceisio sefydlu prifysgolion cyntaf Cymru.

Mewn datganiad wrth BBC Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Glyndŵr y byddai'r enw nawr yn newid yn dilyn "ymgynghoriad eang".

"Bydd ailenwi ein prifysgol yn ein helpu i farchnata'n well, a chryfhau ein brand a'n hunaniaeth," meddai.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn berchnogion ar CPD Wrecsam ym mis Chwefror 2021

Ychwanegodd bod y ddinas wedi bod yn "denu sylw byd eang am nifer o resymau", gan gynnwys llwyddiant diweddar y clwb pêl-droed ers i'r sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney ei brynu, a'r sylw ddaeth o'r rhaglen ddogfen a ddilynodd hynny.

Fe wnaeth y dref hefyd ennill statws dinas y llynedd, yn ogystal â dod yn ail gyda'u cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025.

Dywedodd y brifysgol ei bod hi'n "falch o fod wedi ein lleoli yn Wrecsam", ac mai cael y brifysgol i ddefnyddio'r un enw â'r ddinas oedd y "ffordd fwyaf effeithiol o gyrraedd cynulleidfaoedd".

"Bydd cael ein galw'n Brifysgol Wrecsam/Wrexham University yn golygu bod modd i ni gyfathrebu enw'r brifysgol yn haws i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill yn genedlaethol a rhyngwladol," ychwanegodd y llefarydd.