Cymru'n rhoi cweir o 4-0 i Gibraltar ar y Cae Ras

  • Cyhoeddwyd
Ben DaviesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Y capten Ben Davies sgoriodd y gôl gyntaf ar ôl 22 munud

Fe roddodd Cymru gweir i Gibraltar yn Wrecsam nos Fercher, wrth i dîm dynion Cymru chwarae yn y gogledd am y tro cyntaf ers 2019.

Roedd torf o ychydig dros 10,000 ar y Cae Ras, gyda'r ddau dîm yn cwrdd am y tro cyntaf ar y lefel yma.

Gyda Gibraltar yn 198ain yn netholion FIFA, o'i gymharu â Chymru sy'n 33ain, y disgwyl oedd i Gymru sicrhau buddugoliaeth hawdd, a dyna oedd yr achos.

Roedd tîm Cymru'n gymysgedd o enwau profiadol a rhai newydd, gyda Charlie Savage, Regan Poole, Joe Low a Liam Cullen oll yn ennill eu capiau cyntaf fel rhan o'r tîm ddechreuodd y gêm.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Nathan Broadhead ei ail gôl ryngwladol yn yr hanner cyntaf

Aeth Cymru ar y blaen wedi 22 munud, wrth i'r capten Ben Davies benio i'r rhwyd o ychydig lathenni'n unig o gic gornel Nathan Broadhead.

Dyblwyd y fantais ychydig funudau'n ddiweddarach, gyda Kieffer Moore yn penio croesiad Savage heibio i'r golwr Dayle Coleing.

Roedd hi'n 3-0 ar ôl 35 munud, wrth i Broadhead ergydio i gornel ucha'r rhwyd yn dilyn gwaith da ganddo yn y cwrt cosbi.

Aeth Cymru ymhellach ar y blaen ar drothwy hanner amser, gyda Moore yn sgorio gyda pheniad arall - y tro hwn o groesiad Dan James.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Kieffer Moore yn rhwydo ei ail gôl o'r gêm ar ddiwedd yr hanner cyntaf

Roedd llu o newidiadau ar gyfer yr ail hanner, ac fe gollodd Cymru eu sbarc o'r hanner cyntaf hefyd.

Tarodd Dan James y postyn gydag ychydig dros 10 munud yn weddill, ond doedd dim rhagor o goliau i ddod i'r un tîm.

Bydd Cymru nawr yn troi eu golygon at Gaerdydd, ble byddan nhw'n croesawu Croatia mewn gêm ragbrofol allweddol nos Sul wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Euro 2024 yn Yr Almaen.

Tîm gwahanol iawn fydd yn chwarae bryd hynny, ond mae absenoldebau oherwydd anafiadau hefyd, gan gynnwys dau chwaraewr allweddol yn Brennan Johnson a'r capten Aaron Ramsey.