Tîm pêl-droed Cymru i chwarae Gibraltar ar y Cae Ras, Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed dynion Cymru'n dychwelyd i'r gogledd yn yr hydref.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bydd y gêm gyfeillgar yn erbyn Gibraltar yn cael ei chwarae yn Wrecsam.
Y SToK Cae Ras fydd yn cynnal y gêm ar 11 Hydref wrth i Gymru ddychwelyd i stadiwm pêl-droed rhyngwladol hynaf y byd.
Bydd y gêm gyfeillgar yn erbyn Gibraltar - sy'n rif 198 ar restr detholion y byd FIFA - yn cael ei chwarae bedwar diwrnod cyn i Croatia ymweld â Chaerdydd mewn gêm ragbrofol ar gyfer Euro 2024.
Ar ôl llwyfannu gêm ryngwladol am y tro cyntaf yn 1877, y tro diwethaf i dîm dynion Cymru chwarae yn Wrecsam oedd 2019 pan sgoriodd Ben Woodburn unig gôl y gêm yn erbyn Trinidad a Tobago.
Cyn hynny nid oedd y maes hanesyddol wedi llwyfannu gêm ryngwladol lawn ers 2008.
Ond er fod y rhan fwyaf o gemau'r tîm rhyngwladol bellach yn cael eu chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, mae Wrecsam hefyd wedi cynnal sawl gêm cofiadwy dros y blynyddoedd.
Mae nifer o chwaraewyr Cymru yn hannu o'r gogledd-ddwyrain, gan gynnwys Harry Wilson, Dylan Levitt, Neco Williams a Danny Ward.
Eisoes mae gwaith wedi dechrau ar eisteddle newydd ar y Cae Ras fydd yn dal 5,500 o gefnogwyr, gan ehangu'r stadiwm i ddal cyfanswm o tua 15,600 o bobl.
Ond er na fydd yn barod erbyn y gêm fis Hydref, dywedodd CBDC eu bod yn obeithiol bydd y datblygiad yn sicrhau mwy o gyfleoedd i groesawu gemau rhyngwladol i Wrecsam dros y blynyddoedd i ddod.
'Ymroddiad enfawr y cefnogwyr'
Dywedodd Noel Mooney, Prif Weithredwr CBDC: "Ni'n hynod o gyffrous bod y tîm pêl-droed rhyngwladol yn dychwelyd i'r gogledd ym mis Hydref.
"Mae aelodau'r Wal Goch yn yr ardal yn dangos ymroddiad enfawr wrth deithio'n aml i Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer ein gemau rhagbrofol.
"Rwy'n obeithiol byddwn ni'n gallu rhoi perfformiad campus ar gyfer y gêm yn erbyn Gibraltar."
Ychwanegodd Steve Williams, Llywydd CBDC: "Fe ges i fy magu yn yr ardal ac rwy'n hynod o falch i weld Cymru yn dychwelyd i'r SToK Cae Ras unwaith eto.
"Mae'r gêm yn dangos bod gan CBDC ymrwymiad i gynnal pêl-droed rhyngwladol yng ngogledd Cymru ar draws pob un o'n timau cenedlaethol, a bod Wrecsam yn rhan allweddol o'n hymgais i gynnal pencampwriaeth UEFA EURO D19 2026 a fydd yn dathlu penblwydd 150 oed y Gymdeithas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2022