Dementia: 'Galaru rhywun sy' dal yn fyw'
- Cyhoeddwyd
"Nes bod chi yn y sefyllfa hynny chi byth yn ystyried faint mae'n cymryd dros bywyd - os wyt ti ishe mynd mas am fwyd neu ddiod neu siopa, chi ddim yn teimlo bod chi'n gallu. O'n i'n teimlo'n euog os o'n i ishe mynd mas gyda ffrindie - bod ti ffaelu mynd neu bod ti'n poeni gymaint bod rhywbeth wedi digwydd iddyn nhw yn yr amser 'na, ti ddim ishe mynd. Felly ti ddim yn 'neud dim byd."
Siarad o brofiad mae Curtis Lewis o Aberystwyth sy' wedi bod yn ofalwr ifanc yn gofalu am aelodau o'i deulu gyda dementia.
Bu Curtis yn byw gyda ac yn gofalu am ei famgu Jean Jones oedd yn byw gydag Alzheimer's ac yna, wedi iddi fynd i gartref gofal cyn marw yn 2018, ei dadcu Daniel Jones, sy' erbyn hyn mewn cartref gofal.
Mae'r profiad wedi ysbrydoli Curtis, oedd wedi cychwyn gofalu amdanynt yn 18 oed, i wirfoddoli gyda Cymdeithas Alzheimer Cymru. Mae e bellach yn aelod o dîm cefnogaeth dementia y gymdeithas sy' wedi ennill Gwobr Defnydd Gorau o'r Gymraeg yn Seremoni Gwobrau Elusennau Cymru wythnos yma am y gwasanaeth cymorth dementia dros y ffôn.
Mae Curtis wedi rhannu ei brofiad o ofalu am rywun gyda dementia gyda Cymru Fyw:
O'n i'n edrych ar ôl Mamgu gynta' ac wedyn, dim ond blwyddyn a hanner ar ôl colli Mamgu gath Dadcu deiagnosis o dementia felly doedd dim amser mawr rhwng y ddau. Ti newydd golli un a nawr ti'n mynd i fynd trwy'r profiad 'na o golli rhywun arall.
Gyda Dadcu oedd y symptomau ddim mor amlwg achos vascular dementia sy' gyda fe. Oedd e'n repeato'i unan lot ond oedd e bach fel 'na tabeth ac yn dweud storis am flynyddoedd yn ôl.
Roedd ei ymddygiad e wedi newid - oedd e wastad mor laidback ond oedd e'n dechre colli tymer e mwy aml ac yn mynd lot mwy blin.
Unigrwydd
Mae lot o bobl yn teimlo ar ôl cael y deiagnosis bod chi ar ben eich hunan a chi ddim yn rili cael lot o wybodaeth beth i 'neud nesa' na ble i fynd. Yn y memory clinic natho' nhw ddweud i gysylltu â Chymdeithas Alzheimers i gael rhywun i siarad gyda felly oedd hwnna yn help mawr i gael rhywun i droi at.
O'n i ddim yn gwybod dim amdano fe (dementia) - o'n i ar Google o hyd yn goggleo symptomau a beth i 'neud.
Oedd Mam yn byw yng Nghaerdydd ac anti yn byw yn Aberystwyth yn helpu ond dim ond fi oedd yn byw gyda Dadcu a Mamgu. Ges i fy nerbyn i Goleg Ceredigion ac ar ôl hynny gath Mamgu y deiagnosis yn 72 oed felly arhosais i 'na i helpu.
Y plan oedd i beni coleg, wedyn mynd i'r brifysgol yng Nghaerdydd neu Abertawe ond 'oedd rhaid newid cynlluniau. Gorffes i dynnu mas o'r brifysgol achos oedd e'n ormod i dreial neud popeth yr un pryd.
Gofalwr ifanc
O'n i dim yn deall faint oedd e'n mynd i effeithio arna'i.
Mae wedi helpu mewn ffordd i dyfu lan mwy cloi a bod yn oedolyn bach yn fwy ifanc na ddylen i wedi bod.
Ti'n troi'n 18, 'na'r amser rili pan mae pawb yn mynd mas i ddathlu a enjoio. Dwi wedi colli mas mewn ffordd ond bydden i byth yn newid e achos bydden i wedi teimlo'n euog os bydden i ddim wedi aros i edrych ar ôl nhw.
Pan oedd anti fi'n dod lawr neu pan oedd gofalwr yn dod, o'n i'n mynd mas am wac neu mynd am fwyd, cael yr amser 'na i neud beth o'n i moyn.
Mae fe'n salwch mor unpredictable mewn ffordd - un diwrnod gallen nhw fod yn cael diwrnod da a'r diwrnod ar ôl 'ny mae'n hollol wahanol.
Gofalu
Mae pobl yn meddwl bod ti jyst yn 'neud bwyd a glanhau ond mae lot mwy iddo fe, oedd Mamgu lan yn y nos a'n dod mewn i'r stafell a gweud bod hi ishe mynd gartref so ti ddim yn cael lot o gwsg a wedyn ti lan yn gynnar gyda nhw.
Aeth Mamgu yn eitha' cas rhai weithiau, oedd yn sioc - oedd hi'n tynnu gwallt fi a bwrw fi pan o'n i'n newid hi a pethau fel 'na.
Oedd e'n galed. Oedd rhaid fi feddwl - ddim hi yw hwn, ddim hi sy'n 'neud hwn.
Dirywiad
I fi y peth gwaetha' oedd gweld nhw yn gwaethygu. Yn enwedig os mae'n amser hir, ti'n gweld nhw'n gwanhau bob dydd, maen nhw ddim yn nabod ti.
Mae bod yn yr amgylchedd 'na 24 awr y dydd, oedd e'n draining i' neud e a gweld rhywun chi'n caru yn y teulu yn gwaethygu. Chi'n galaru rhywun sy' dal yn fyw achos maen nhw ddim 'na rhagor.
Balchder
I fi jyst bod fi wedi 'neud e - bod fi wedi gallu rhoi fy amser i edrych ar ôl nhw ac i roi nôl - maen nhw wedi edrych ar ôl ni pan o'n ni'n ifanc.
Gweithio i Cymdeithas Alzheimers
Beth sy'n neis am y swydd yw os mae pobl yn ffonio lan am gymorth, bod y profiad personol gen i hefyd - maen nhw'n siarad â rhywun sy' wedi bod trwyddo fe ac yn cael gwybod bod e'n normal i deimlo fel hyn. Mae hwnna yn rial help.
Mae dwy ran i'r swydd - ni sy'n covero llinell cymorth Cymru so os mae rhywun yn ffonio mewn, ni sy'n siarad â nhw. A ni'n delio gyda pobl yn yr ardal lle ni'n byw - jyst i bobl wybod bod cymorth mas 'na. Mae lot o bobl yn teimlo ar ben eu hunain.
Cyngor
Peidiwch teimlo bod chi ar ben eich hunain achos 'na un o'r pethau mwya' mae pobl yn dweud. Ac mae pobl yn teimlo bod nhw'n' neud y peth anghywir neu yn teimlo'n euog bod nhw'n mynd yn frustrated.
Mae gwmynt o bobl yn yr un sefyllfa. Mae lot o bobl yn trio rhoi off cael cymorth ond mae'r cymorth mor bwysig i'r person gyda dementia ac i chi fel gofalwr. Mae grwpiau ar gael hefyd.
Pan chi yn siarad â phobl yn yr un sefyllfa a chi, chi'n gweld bod chi ddim ar eich pen eich hun.