Adran Dau: Wrecsam 3-2 Salford

  • Cyhoeddwyd
Steven Fletcher a Jordan DaviesFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Sgorwyr y ddwy gôl hwyr - Steven Fletcher a Jordan Davies - yn dathlu

Roedd diweddglo dramatig ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn wrth i Wrecsam sgorio dwy gôl hwyr i drechu Salford.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen ar ôl chwarter awr, gyda Matt Smith yn penio i'r rhwyd o groesiad Stevie Mallan.

Dyblwyd mantais Salford wedi ychydig dros hanner awr - Matty Lund yn sgorio'r tro hwn ar ôl i'r golwr Arthur Okonkwo arbed ergyd y Cymro Declan John.

Ond llwyddodd Wrecsam i daro 'nôl yn syth, wrth i Elliot Lee sgorio gyda pheniad o gic gornel James McClean i'w gwneud hi'n 1-2 ar yr egwyl.

Gyda thri munud yn weddill o'r 90 roedd Wrecsam yn gyfartal diolch i gôl Steven Fletcher, cyn i Jordan Davies sgorio'r gôl fuddugol ddau funud yn ddiweddarach.

Mae'r canlyniad yn gweld Wrecsam yn codi o seithfed i bumed yn Adran Dau - tri phwynt yn unig o'r brig.