Amgueddfa Cymru: Cwestiynu taliad £325,000 i gyn-swyddog
- Cyhoeddwyd
Mae cwestiynau'n cael eu codi dros daliad o £325,000 i gyn-uwch swyddog y corff sy'n rhedeg amgueddfeydd Cymru.
Nid oedd penderfyniadau a arweiniodd at gytundeb gyda chyn-gyfarwyddwr cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson, yn "cydymffurfio â chyfraith elusennau", yn ôl pennaeth corff gwarchod gwariant cyhoeddus Cymru.
Roedd y taliad yn dilyn anghydfod hir rhwng Mr Anderson ac Amgueddfa Cymru.
Dywedodd Amgueddfa Cymru bod bwrdd yr ymddiriedolwyr wedi "ymddwyn o dan arweiniad cyfreithiol".
Roedd y taliadau yn cynnwys cyflog o £225,000, yn cynnwys pensiwn ac yswiriant gwladol, a £50,000 yn ddi-dreth a gafodd ei ddisgrifio fel "iawndal am frifo ei deimladau".
Yn ei adroddiad i'r Senedd, gofynnodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, os oedd yr ymddiriedolwyr wedi gwneud "penderfyniadau cadarn a gwybodus" er budd yr amgueddfa, ac a oedd y taliadau yn "cydymffurfio â fframwaith awdurdod sy'n eu llywodraethu".
Fe holodd Mr Crompton hefyd a oedd yn iawn i gynnal y drafodaeth gyda Mr Anderson, a rhoi'r cyfrifoldeb i ddau o'r ymddiriedolwyr.
Yn ogystal, dywedodd bod holl fusnes bwrdd yr ymddiriedolwyr wedi cael ei gynnal drwy negeseuon e-bost heb unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb nac ar-lein o fis Medi 2021 i fis Mawrth 2022.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol fod ganddo "bryder sylweddol" dros "ddull yr amgueddfa o wneud penderfyniadau yn ystod y cyfnod hwn" a "diffyg dogfennau i gefnogi penderfyniadau allweddol yn ymwneud â'r cytundeb setlo".
Dywedodd Mr Crompton y gallai hyn fod wedi costio swm "sylweddol" o arian cyhoeddus mewn ffioedd cyfreithiol, a bod cyfnod "sylweddol o amser" yn cael ei dreulio arno gan uwch-swyddogion yr amgueddfa a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd iddo ystyried ysgrifennu adroddiad arall i nodi ei bryderon ynghylch y modd cafodd y sefyllfa ei drin, a'r gost oedd ynghlwm.
Er hynny, fe dderbyniodd bod yr amgueddfa wedi cael cyngor gan gyfreithwyr allanol drwy gydol yr anghydfod.
Beth yw archwilydd cyffredinol?
Mae rôl yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys asesu sut mae'r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus Cymru yn rheoli a gwario arian.
Mae Amgueddfa Cymru yn elusen sy'n gofalu am saith amgueddfa ac un ganolfan gasgliadau.
Mae'r rhain yn cynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a'r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis.
Cafodd Mr Anderson ei benodi i'r rôl yn 2010 a gadawodd ei rôl yn 2023 yn dilyn cytundeb gyda'r amgueddfa.
Bwriad y cytundeb oedd datrys "anghydfod cyflogaeth hirsefydlog" rhwng Mr Anderson a'r amgueddfa. Fe gytunodd y ddwy ochr er mwyn osgoi mynd i dribiwnlys cyflogaeth.
Yn adroddiad cyllidol bwrdd yr ymddiriedolwyr 2021-22, amlinellodd yr Archwilydd Cyffredinol yr hyn a alwodd yn "daliadau afreolaidd" yn y cytundeb gyda Mr Anderson, gan gynnwys yr iawndal o £50,000 am "frifo ei deimladau".
Ni wnaeth adroddiad yr archwilydd cyffredinol ymhelaethu ar hynny.
Fe gytunwyd y byddai Mr Anderson yn derbyn y rôl o fod yn gymrawd emeritws i'r amgueddfa ac yn athro gwadd ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd yn parhau i gael ei gyflogi gan yr amgueddfa ar ei gyflog presennol nes diwedd mis Mawrth 2024, ond ni fydd yn atebol i'r amgueddfa yn ei rôl newydd.
Bydd ei wythnos gwaith hefyd yn lleihau i ddau ddiwrnod a bydd ei gyflogaeth yn gorffen fis Medi 2024.
'Cyfnod heriol'
Dywedodd Amgueddfa Cymru mewn datganiad ar ran bwrdd yr ymddiriedolwyr bod y digwyddiadau wedi digwydd "yn ystod cyfnod hynod o heriol i'r amgueddfa" ond eu bod "bob amser wedi gweithredu o dan ganllawiau cyfreithiol, a gyda Llywodraeth Cymru i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael" er lles yr amgueddfa.
Yn ychwanegol, dywedon nhw fod nifer o wersi wedi eu dysgu yn ystod y cyfnod gan gynnwys "polisi cwynion uwch newydd" a bod "telerau ac amodau" wedi eu diwygio ar gyfer rôl newydd y prif weithredwr. Roedd adolygiad o "brosesau a gweithdrefnau llywodraethu" hefyd ar y gweill.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o'r adroddiad ond na fyddai'n briodol iddyn nhw ymateb.
Mae Mr Anderson wedi cael cais i ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2023