Apêl am faner menywod de Cymru streic y glowyr
- Cyhoeddwyd
Mae menywod a ymgyrchodd yn erbyn cau'r pyllau glo yn apelio am gymorth i ddod o hyd i faner cafodd ei chario adeg streic y glowyr.
Cafodd y faner ei chario mewn protestiadau, ralïau ac mewn gorymdeithiau yn ystod yr anghydfod gan fenywod o Gymru yn yr 1980au.
Y gobaith yw dod o hyd i faner Menywod De Cymru ar gyfer rali fawr yn Durham fis Mawrth 2024 i nodi 40 mlynedd ers y streic hir a chwerw.
Maen nhw'n gobeithio gallu dangos y faner yn y rali i ddathlu rôl menywod wrth "gefnogi a chynnal y streic". Bydd baneri o gyfnod y streic o bob rhan o'r wlad yno.
Fe gafodd grŵp 'Menywod yn erbyn cau pyllau' (WAPC) ei ffurfio ym 1984 i gefnogi'r glowyr pan ddaeth hi'n amlwg fod y streic yn mynd i fod yn un hir ac anodd.
Yn ystod 1985 fe fu menywod yn picedu a gorymdeithio, yn codi arian ac yn trefnu ceginau cawl i gefnogi'r glowyr a'u teuluoedd. Roedd nifer ohonyn nhw yn arwain ralïau ac yn annerch torfeydd o lwyfannau cyhoeddus.
Yn eu plith roedd cyn-Aelod Seneddol Llafur Dwyrain Abertawe, Sian James, a oedd yn wraig i löwr.
Dywedodd: "Ein baner ni yw hon, baner y merched, baner menywod De Cymru fel grŵp cefnogaeth.
"Roedd y streic yn bwysig yn ein bywydau ac i gael baner ein hunain gyda'r holl hanes a'r atgofion a'r cariad sy' ynghlwm wrtho, mae'n bwysig.
"Roedd pobl yn nabod y faner, ac yn dangos menyw Gymreig yn codi dwrn."
Roedd y faner wedi teithio miloedd o filltiroedd gyda'r menywod.
"Buon ni yn sefyll tu ôl neu o flaen y faner droeon," meddai Ms James.
"Rwy' yn cofio mynd gyda hi i rali a gala fawr yn Abertawe pan ddaeth y streic i ben. Hynny'n emosiynol iawn.
"Rwy' hefyd yn cofio mynd gyda'r faner i orymdaith fawr i gofio merthyron Tolpuddle.
"Mynd â hi wedyn i ddigwyddiadau mawr yn Llundain a Chaerdydd."
Mae ganddi luniau o'r cyfnod yn dangos y faner ac yn un ohonyn nhw mae hi ar lwyfan gydag Arthur Scargill, arweinydd yr NUM, a'r faner y tu cefn iddyn nhw.
"I fi yn bersonol, mae'r llun yma yn dod ag atgofion lu. Gallai edrych nôl a chofio digwyddiadau mawr fel 'na a'r faner yno."
"Ry'n ni wedi bod yn ofalus iawn ag archif y cyfnod. Mae papurau a phamffledi a phosteri a dogfennau wedi mynd i Archif Morgannwg a'r Llyfrgell Genedlaethol ond mae'r baneri yn bethe mawr.
"Doedd dim lle i'w storio a dyw hi ddim wastad wedi bod mor hawdd i'w cadw nhw yn ddiogel, efallai."
Un posibilrwydd yw gneud copi o'r faner wreiddiol oedd wedi ei phaentio ar gynfas gyda lliwiau Cymru.
Ond yn ôl Sian James: "Dyna'r cynllun B, ond does dim byd fel y faner wreiddiol. Mae yn llawn atgofion a chariad a bydde ni wir yn licio gweld y faner sy' yn golygu gyment i fenywod y de aeth drwy'r streic, yn ôl gyda ni yn ddiogel, ac yn teithio gyda ni i Durham y flwyddyn nesaf."