WXV1: Canada 42-22 Cymru
- Cyhoeddwyd
Methodd Cymru a sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf dros Ganada mewn 17 mlynedd wedi iddyn nhw golli o 42-22 yn eu gêm agoriadol yng nghystadleuaeth WXV1 yn Wellington.
Nid oedd Cymru wedi curo Canada ers eu gêm yng Nghaerdydd yn 2006 ond, gyda'r garfan bellach yn gwbl broffesiynol, fe aethon nhw fewn i'r gêm gyda hyder.
Roedd Canada y blaen o fewn pum munud, serch hynny, diolch i Sophie De Goede ond tarodd Cymru nôl bron yn syth drwy gais Carys Phillips a throsiad a chic gosb Keira Bevan.
Croesodd Sara Svoboda a Madison Grant i Ganada ond parhaodd Cymru i frathu'n ôl ac fe leihawyd y bwlch i bedwar pwynt yn unig ar hanner amser pan wibiodd Georgia Evans dros y linell gais.
Ond dangosodd Canada eu safon a'r cryfder yn yr ail hanner gyda cheisiau gan McKinley Hunt a Gillian Boag.
Ac er i Alex Callender daro nôl i Gymru fe seliwyd y fuddugoliaeth diolch i gais Maude Lachance.
Yn dilyn y gêm dywedodd capten Cymru, Hannah Jones: "Mae'n braf iawn gweld pa mor bell rydyn ni wedi dod, rydw i'n falch iawn o'r merched, fe wnaethon ni gadw i fynd tan y diwedd a byddwn yn edrych yn ôl nawr ac yn edrych ymlaen at y gêm nesaf."
Gwrthwynebwyr nesaf Cymru fydd Seland Newydd yn Dunedin.